Rhoi sylw i anabledd - sut y gallwn eich cefnogi yn ystod ein proses ddethol
Diweddarwyd 1 Ebrill 2022
Yr hyn yr ydym yn ei gynnig
Rydym wrth ein boddau eich bod yn ystyried gwneud cais am swydd gyda Cyllid a Thollau EM (CThEM) a dymunwn bob llwyddiant i chi gyda’ch cais. Ein nod yw gwneud i bawb deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u bod yn gyfforddus ar bob adeg, p’un a yw hynny wrth ymgeisio am swydd neu wrth weithio gyda ni.
Pan ymunwch â ni, byddwch yn ymuno â chymuned gyfeillgar a chymwynasgar. Byddwn yn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i fagu hyder, eich helpu i fwynhau’ch amser y tu mewn a’r tu allan i’r gweithle gan sicrhau bod gennych gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.
Rydym yn wirioneddol credu mewn gwneud CThEM yn lle ardderchog i bawb weithio. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, rydym yn cynnig nifer helaeth o fuddion ac aelodaethau pan fyddwch yn dechrau. Darllenwch ein llyfryn Buddion bach a Manteision Mawr i ddysgu rhagor.
Dywedodd Daljit Rehal, Cyfarwyddwr Cyffredinol Prif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol (CDIO) a Hyrwyddwr Anabledd CThEM:
Fel Hyrwyddwr Anabledd CThEM dwi wedi ymrwymo i helpu i adeiladu amgylchedd cynhwysol yn CThEM lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u cynnwys waeth beth yw’r gwahaniaethau.
Fel eiriolwr angerddol dros arwain newid, dwi’n gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud gwelliannau i’n proses recriwtio a dethol ac yn sicrhau bod hygyrchedd ar frig popeth a wnawn fel bod pawb yn cael yr un cyfleoedd i gael swydd a gyrfa foddhaol a llwyddiannus gyda CThEM.
‘Oherwydd fy nghyflwr, gofynnais am gael dod â fy nghiwb ‘ffidget’ ac amddiffynwyr clust i mewn i’r cyfweliad a’r prawf problemau, rhag ofn bod yr ystafell y cafodd ei chynnal ynddi yn orysgogol yn glywedol. Cafodd y cais hwn ei fodloni, ac fe helpodd fi trwy’r broses gyfweld.’
Neil, Adnoddau Dynol CThEM
A oes angen cymorth arnoch?
Rydym am greu amgylchedd cynhwysol a llawn pharch, a gweithlu sy’n adlewyrchu amrywiaeth a gwerthoedd ein cymdeithas yn llawn. O fewn ein proses recriwtio, rydym am wneud y mwyaf o botensial pawb sy’n dewis gwneud cais am swydd gyda ni a sicrhau ein bod yn cefnogi pob ymgeisydd trwy gydol ein proses ddethol.
Ein hymrwymiad yw ystyried pob cais am addasiadau rhesymol gan ymgeiswyr sydd wedi’u diogelu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae addasiadau rhesymol yn sicrhau bod pawb sy’n cystadlu am swydd yn cael chwarae teg.
Mae anghenion pawb yn wahanol, a bydd unrhyw geisiadau yn cael eu hadolygu’n synhwyrol a’u trin fesul achos, gan ystyried eich amgylchiadau personol unigryw eich hun a’r ffeithiau dan sylw. Ni fydd unrhyw beth a ddwedwch wrthym yn effeithio ar sut bydd eich cais yn mynd rhagddo.
Dywedodd Gillian Smith, Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant CThEM:
Mae CThEM wedi cael ei gydnabod fel cyflogwr sy’n Hyderus o ran Anabledd, ac am yr Adeiladau Cynhwysol sydd gennym sy’n torri tir newydd ac wedi ennill gwobrau. Pan fyddwch yn gweithio i ni, byddwn yn ystyried yr addasiadau sydd eu hangen arnoch er mwyn llwyddo a ffynnu. Mae hyn hefyd yn ymestyn i’n prosesau recriwtio a dethol.
Dwi’n eich annog i fod yn agored ynghylch y cymorth sydd ei angen arnoch trwy gydol y broses recriwtio, fel y gallwn roi’r cyfle gorau i chi ddangos eich doniau a’ch potensial i ni.
Pob lwc gyda’ch cais.
‘Mewn sefyllfaoedd lle rwy’n teimlo dan bwysau rwy’n defnyddio symudiadau corfforol ailadroddus (‘stims’) er mwyn fy helpu i ymdawelu. Mae hyn yn golygu gweithredoedd corfforol ailadroddus, er enghraifft, fflapio fy llaw, clicio fy mysedd, neu siglo nôl ac ymlaen. Gofynnais i’r panel gael ei wneud yn ymwybodol ymlaen llaw y gallai hyn ddigwydd, ac roeddent yn deall yn iawn.’
Molly, Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid CThEM
Sut y gallwn helpu
Nid yw’r wybodaeth a roddir isod yn derfynol nac yn gynhwysfawr. Rydym yn deall nad oes ‘un ateb i bawb’ a bydd pob addasiad yn unigryw i’r unigolyn. Dim ond rhai enghreifftiau o’r cymorth rydym wedi’i ddarparu wrth recriwtio yw’r rhain, a bydd unrhyw gais am addasiadau’n cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun.
Gwneud cais
Mae’n bosibl y bydd angen i rai unigolion gael unrhyw ddeunydd wedi’i argraffu mewn Braille neu ar ffurf glywedol.
Profion ar-lein
Cyflwynir rhai cwestiynau prawf ar-lein ar ffurf fideo. Mae’n bosibl na fydd rhai unigolion yn gallu cael mynediad i’r rhain, felly mae trawsgrifiadau ysgrifenedig ar gael o fewn y prawf. Mae hefyd isdeitlau o fewn y fideos, a disgrifiad sain sy’n disgrifio’r hyn sydd i’w weld. Mae addasiadau eraill y gellir eu hystyried yma.
Cyfweliadau wedi’u recordio o flaen llaw
Mae rhai o’n cyfweliadau wedi’u recordio o flaen llaw, gydag amser penodol ar gyfer ymateb. Gallwch ofyn am amser ychwanegol i’ch galluogi i allu ymateb, os, er enghraifft, oes gennych nam ar eich lleferydd. I rai unigolion â chyflyrau niwroamrywiol, efallai nad cyfweliadau wedi’u recordio ymlaen llaw yw’r dull gorau o weithredu. Yn y sefyllfaoedd hyn, gellid ystyried dull cyfweld gwahanol. Gallai hwn fod yn gyfweliad rhithwir trwy’r meddalwedd ‘Teams’ neu wyneb yn wyneb, yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
Cyfweliadau byw rhithwir neu wyneb yn wyneb
Mae’n bosibl y bydd angen i chi drafod trefnu seibiannau yn ystod eich cyfweliad os oes gennych epilepsi. Ar gyfer unigolion sy’n defnyddio cymorth, megis dehonglydd BSL neu wefuslefarydd, gallwch ofyn am amser ychwanegol i ateb pob cwestiwn.
Os oes gennych gyflwr niwroamrywiol, gallwn ystyried darparu cwestiynau’r cyfweliad ychydig cyn i’ch cyfweliad ddechrau. Os yw’r cyfweliad yn cael ei gynnal yn un o’n swyddfeydd, gallwch ofyn i gael ymweld â’r ystafell gyfweld ymlaen llaw er mwyn ymgyfarwyddo â’r lleoliad ac i nodi unrhyw addasiadau y gallai fod eu hangen arnoch er mwyn rheoli sensitifrwydd uwch sy’n ymwneud â golau, sŵn a chynllun yr ystafell.
Rydym yma i helpu i roi cymorth i chi
Hoffem sicrhau eich bod yn deall nad oes gennych unrhyw ymrwymiad o gwbl fel ymgeisydd i roi unrhyw wybodaeth i CThEM am eich iechyd. Eich penderfyniad chi a chi yn unig yw a ydych chi, ac ar ba adeg, yn datgelu eich cyflwr iechyd neu anabledd os oes gennych un. Fodd bynnag, dim ond pan fyddwn yn gwybod amdanynt ac ar sail yr wybodaeth a roddwch i ni y gallwn wneud addasiadau.
Efallai eich bod eisoes wedi ticio’r blwch angen cymorth ar eich ffurflen gais, felly byddwch eisoes yn cyfathrebu â’n darparwr recriwtio (Gwasanaethau Recriwtio’r Llywodraeth) ynghylch ceisiadau am addasiadau.
Os ydych chi wedi anghofio ticio’r blwch, neu’n edrych yn ôl yn awr ac yn teimlo y gallai fod angen addasiad arnoch chi, peidiwch â phoeni – nid yw’n rhy hwyr i ofyn am un. Gallwch roi gwybod i ni drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad a ddangosir yn adran ‘Manylion cyswllt ar gyfer ymgeiswyr’ yr hysbyseb, i drafod unrhyw geisiadau sydd gennych.
Bydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw’n gwbl gyfrinachol ac ni fydd yn effeithio ar eich cynnydd drwy’r broses ymgeisio/penderfyniadau mewn unrhyw ffordd.
Rydym yn argymell eich bod yn cadw copi ar gyfer eich cofnodion. Pan fydd yr hysbyseb yn cau nid yw bellach ar gael i’w gweld ar y system.
‘Fel person awtistig, gall cyswllt llygad fod yn anghyfforddus i fi, felly efallai na fyddaf yn edrych yn uniongyrchol ar bobl. Efallai na fyddai iaith fy nghorff a mynegiant fy wyneb yn cynrychioli’n gywir yr hyn dwi’n ei feddwl a’i deimlo, ac roeddwn yn poeni am hyn.
Rhoddais wybod i CThEM cyn fy nghyfweliad ac roedd y panel yn gyfeillgar ac o help mawr drwy’r profiad. Cytunais hefyd â deiliad y swydd wag y gallwn fwrw golwg ar gwestiynau’r cyfweliad ychydig cyn y cyfweliad. Roedd hyn yn golygu fy mod yn fwy hyderus ac yn gallu canolbwyntio, felly roeddwn yn gallu dangos fy addasrwydd ar gyfer y swydd yn well.’
David, Grŵp CDIO CThEM
Gwybodaeth bellach
I gael rhagor o wybodaeth am sut beth yw gweithio yn CThEM, ewch i dudalennau CThEM ar GOV.UK.