Datganiad y Prif Weinidog ar farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Y Tywysog Philip, Dug Caeredin
Datganiad y Prif Weinidog Boris Johnson ar farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Y Tywysog Philip, Dug Caeredin
Gyda thristwch mawr, ychydig amser yn ôl, y cefais neges gan Balas Buckingham fod Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin wedi marw yn 99 oed.
Enillodd y Tywysog Philip hoffter cenedlaethau yma yn y Deyrnas Unedig, ar draws y Gymanwlad a ledled y byd.
Ef oedd y consort a wasanaethodd hiraf mewn hanes,
un o’r bobl olaf sydd wedi goroesi yn y wlad hon a wasanaethodd yn yr ail ryfel byd yn Cape Matapan, lle y soniwyd amdano mewn anfoniadau am ddewrder
ac yn yr ymosodiad yn Sicily, lle achubodd ei long drwy ei feddwl cyflym ac o’r gwrthdaro hwnnw cymerodd foeseg o wasanaeth a ddefnyddiodd drwy gydol y newidiadau digynsail yn y cyfnod ar ôl y rhyfel.
Fel y gyrrwr cerbyd arbenigol yr oedd, wnaeth helpu i lywio’r teulu brenhinol a’r frenhiniaeth fel ei fod yn parhau i fod yn sefydliad sy’n hanfodol i gydbwysedd a hapusrwydd ein bywyd cenedlaethol.
Roedd yn amgylcheddwr, ac yn bencampwr o’r byd naturiol ymhell cyn ei fod yn ffasiynol.
Gyda’i raglen gwobrau Dug Caeredin lluniodd ac ysbrydolodd cymaint o fywydau pobl ifanc
ac mewn degau o filoedd o ddigwyddiadau, bu’n meithrin eu gobeithion ac yn annog eu huchelgeisiau.
Cofiwn y Dug am hyn i gyd ac uwchlaw popeth am ei gefnogaeth gyson i’w Mawrhydi Y Frenhines.
Nid yn unig fel ei chonsort, wrth ei hochr bob dydd o’i theyrnasiad, ond fel ei gŵr, ei “chryfder a’i harhosiad”, o fwy na 70 mlynedd.
Ac i’w Mawrhydi, a’i theulu, y mae’n rhaid i feddyliau ein cenedl droi heddiw.
Gan eu bod wedi colli nid yn unig ffigur cyhoeddus poblogaidd ac uchel ei barch, ond gŵr ymroddedig a thad balch a chariadus, taid ac, yn y blynyddoedd diwethaf, hen daid.
Wrth siarad ar eu pen-blwydd priodas aur, dywedodd Ei Mawrhydi fod ein gwlad yn ddyledus i’w gŵr “mwy o ddyled nag y byddai byth yn ei hawlio neu byddwn byth yn gwybod” ac rwy’n siŵr bod yr amcangyfrif yn gywir.
Felly rydym yn galaru heddiw gyda’i Mawrhydi Y Frenhines
cynigiwn ein cydymdeimlad iddi hi ac i’w theulu i gyd
a rhoddwn ddiolch, fel cenedl a Deyrnas, am fywyd a gwaith rhyfeddol y Tywysog Philip, Dug Caeredin.