Datganoli yng Nghymru - Cytundeb Dydd Gŵyl Dewi: Araith y Prif Weinidog
Heddiw cyhoeddodd David Cameron fodel datganoli newydd i Gymru, pwerau newydd i Gynulliad Cymru ac y byddai lefel y cyllid a gaiff Cymru yn cael ei ddiogelu.
Cyflwyniad
Mae’n bleser bod yma heddiw yn Stadiwm y Mileniwm. O gystadleuaeth y Chwe Gwlad a Chwpan Rygbi’r Byd, i Paul McCartney a Rihanna, y stadiwm hon yw un o arenâu gorau’r byd. Mae’n destun balchder enfawr yma yng Nghymru - ac i’r Deyrnas Unedig gyfan hefyd. Lle gwell felly i drafod dyfodol Cymru fel rhan o’r Deyrnas Unedig?
A dyma ni – 3 gwleidydd yn cymryd eu lle yn y rheng yn y twnnel i gyhoeddi cytundeb hanesyddol. Efallai nad yw mor gyffrous â Sam Warburton yn arwain tîm Cymru allan i ennill y Gamp Lawn, anafu ei ysgwydd a chodi’r tlws gydag un llaw. Ond, serch hynny, mae’r cytundeb rydym wedi’i wneud y Dydd Gŵyl Dewi hwn yn cynrychioli un o’r trosglwyddiadau pŵer mwyaf yn hanes datganoli yng Nghymru.
Mae hwn yn benllanw proses drawsbleidiol dan arweiniad Stephen Crabb i greu consensws. Fel y dywedodd ar ôl y refferendwm yn yr Alban, mi ddywedais i fy mod i am i Gymru fod wrth galon y ddadl am ddatganoli pellach a heddiw rydym yn dangos mai felly y mae.
Mae 3 elfen newydd hollbwysig yn greiddiol i’r pecyn rydym yn ei gyhoeddi heddiw, sef:
- Model datganoli newydd sbon i Gymru, felly mwy o eglurder.
- Trosglwyddo pwerau newydd arwyddocaol i Gymru, felly mwy o bŵer.
- Cynnig ariannu i Gymru sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer refferendwm a fydd yn drobwynt ym maes pwerau trethu, felly mwy o degwch.
Felly gadewch i mi ddweud gair am bob un – eglurach, cryfach, tecach.
Model datganoli newydd
Yn gyntaf, model datganoli newydd.
Yn yr Alban lle ceir yr hyn a elwir yn Reserved Powers model.. Y sefyllfa ddiofyn yw bod popeth yn cael ei ddatganoli ar wahân i’r pethau hynny sydd wedi’u cadw gan San Steffan.
Ond i’r gwrthwyneb y mae’r sefyllfa wedi bod yng Nghymru. Yr unig bethau sydd wedi cael eu datganoli yw’r pethau hynny y mae San Steffan wedi deddfu i ollwng gafael arnynt.
Bydd cytundeb heddiw yn newid hyn.
Bydd cyflwyno’r model Cadw Pwerau yng Nghymru yn golygu y bydd cyfrifoldebau’r naill Senedd a’r llall a’r naill lywodraeth a’r llall yn llawer mwy eglur, gan roi mwy o dryloywder i weithrediadau’r llywodraethau.
Pwerau newydd
Yn ail, wrth newid y model datganoli, mae’r cytundeb a wnaed heddiw hefyd yn datganoli pwerau newydd cynhwysfawr i Gynulliad Cymru.
Felly, p’un ai trwyddedau am nwy anghonfensiynol sydd dan sylw, neu benderfyniadau ynghylch porthladdoedd, rheoliadau ar gyfer tacsis a bysus, pennu cyfyngiadau cyflymder, prosiectau ynni, gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau Cynulliad Cymru, neu benderfynu ar y system etholiadol, nifer yr etholaethau, ffiniau, amseriad etholiadau Cynulliad Cymru neu eu cynnal, bydd pob penderfyniad yn cael ei wneud yma yng Nghaerdydd gan Gynulliad Cymru.
Cyllid gwaelodol a refferendwm
Yn drydydd rydym yn bwriadu cyflwyno’r hyn a elwir yn “gyllid gwaelodol” er mwyn diogelu lefelau ariannu cymharol ar gyfer Cymru. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru o ran cynllunio ar gyfer y dyfodol a sicrhau twf yr economi.
Fel llywodraeth yn y DU, mae gennym hanes llwyddiannus o fuddsoddi yng Nghymru a rhoi pwerau deddfu sylweddol i Gymru. Dyma sydd yn helpu’r economi i dyfu – creu swyddi i bobl Cymru a helpu pobl yng Nghymru i ffynnu.
Mae cyllid gwaelodol yn chwalu’r rhwystr olaf i refferendwm ar ddatganoli’r dreth incwm. Mae’n golygu y gall pobl gymryd rhan yn y refferendwm hwnnw, gan wybod bod sicrwydd o gyllid i Gymru.
Felly, mae’r cytundeb a wnaed heddiw yn paratoi’r ffordd ar gyfer refferendwm a allai sicrhau bod y Cynulliad yn fwy na chorff gwario yn unig – ond, yn hytrach, yn gorff sydd hefyd yn gyfrifol am godi mwy o’i refeniw.
Yn fy marn i – dyna ydi datganoli cyfrifol; dyna ydi gwir ddatganoli ac rydw i’n credu bod hynny’n hanfodol i Gymru a’r DU.
Casgliad
Nod hyn yw canfod setliadau a fydd yn para ledled y wlad, gan wneud ein Teyrnas Unedig yn gryfach ac yn decach.
Rydw i’n ddiolchgar iawn i Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, ac i’w dîm gweinidogol, i fy mhartneriaid yn y glymblaid, gan gynnwys y Dirprwy Brif Weinidog a Danny Alexander, Paul Silk a’r Comisiwn ac i bawb sydd wedi gweithio i sicrhau bod y setliad hwn yn bosibl.
Mae’n golygu mwy o gyfrifoldeb i Gynulliad Cymru. Mae’n golygu y bydd mwy o benderfyniadau yn cael eu gwneud yma yng Nghymru ac y bydd mwy o gyfle i bobl Cymru ddal eu gwleidyddion yn atebol. Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i’r rheini sy’n gwario arian y trethdalwr hefyd ysgwyddo mwy o’r cyfrifoldeb dros ei godi.
Y peth pwysicaf i’r mwyafrif o bobl ydi ansawdd eu bywydau, eu swyddi a dyfodol eu teulu. Felly, gobeithio mai’r ddadl fawr nesaf fydd sut mae’r pwerau hyn yn cael eu defnyddio er budd pobl Cymru yn hytrach na phwy ddylai gael y pŵer ac ymhle. A sut y gall dwy lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod Cymru yn ffynnu am ddegawdau i ddod.
Dyna ydi datganoli gyda phwrpas.
Setliad sy’n para i Gymru ac a fydd yn gweithio i Gymru heddiw, yfory ac am genedlaethau i ddod.