Anerchiad

Ysgrifennydd Cymru yn cyflwyno araith fawr Blwyddyn Newydd ar yr economi

Araith Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb i arweinwyr busnes yng Nghaerdydd

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
The Rt Hon Stephen Crabb

YR ARAITH FEL Y CAFODD EI THRADDODI:

Foneddigion a boneddigesau, Bore da. Blwyddyn newydd dda.

Dewch i mi ddechrau drwy ddymuno blwyddyn newydd dda i chi i gyd, a drwy ddiolch i chi am ddod y bore yma.

Rwyf yn falch iawn fy mod yn sefyll yma yng nghanol ein prifddinas Caerdydd – dinas â threftadaeth economaidd hynod fel un o darddleoedd y chwyldro diwydiannol – ffynhonnell bwerus o dwf economaidd i Brydain o’r 1800au hyd heddiw…

…dinas ddynamig â dyddiau gwell fyth o’i blaen, yn fy marn i.

O’r ddinas hon, aeth glo De Cymru i bweru chwyldro diwydiannol Prydain a hefyd i’w allforio ledled y byd. Ganrif yn ôl, roedd y dociau yma yng Nghaerdydd yn trin mwy o lo nag unrhyw borthladd arall yn y byd.

Yn wir, cafodd pris rhyngwladol glo ei daro yma yng Nghaerdydd – yn adeilad y Gyfnewidfa Lo – lle llofnodwyd siec gyntaf y byd am £1 miliwn o bunnau, wrth gwrs.

Nid wyf am i’r dreftadaeth hon byth gael ei anghofio. Ond rwyf am i bobl weld a deall y pethau cyffrous sy’n digwydd nawr. Faint o bobl sy’n gwybod, er enghraifft, bod y dechnoleg lled-ddargludyddion waffer ar gyfer dros hanner ffonau clyfar y byd yn cael ei gweithgynhyrchu rai milltiroedd i lawr y ffordd mewn canolfan o ragoriaeth ac arloesed uwch-dechnoleg?

Caerdydd a De Cymru’n helpu i bweru chwyldro economaidd byd-eang arall.

Gallem ddweud rhywbeth tebyg am Ogledd Cymru – lle mae ffatri arloesol Airbus ym Mrychdyn nawr yn cynhyrchu adenydd i hanner awyrennau masnachol y byd.

Y dyddiau hyn, er y gall fod y cynhyrchion a gwerth cytundebau wedi newid – nid yw gwaith Cymru o helpu i bweru economi’r DU wedi newid – ac ar ddechrau 2015, ni allaf ddychmygu amser pwysicach i mi amlinellu fy ngweledigaeth economaidd i Gymru.

Felly, dewch i mi ddweud wrthych sut yr wyf yn credu y mae’r dirwedd economaidd yn edrych i Gymru ar ddechrau 2015, beth yw natur yr her hirdymor sy’n ein hwynebu, a beth yw rhai o’r risgiau allweddol sydd o’n blaenau.

Ers datganoli yn 1998, mae rhai pobl wedi ystyried mai swyddogaeth gyfansoddiadol yn unig yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru – man canol defnyddiol rhwng San Steffan a’r Cynulliad – yn gweithredu yn y gilfach gul honno ar hyd ffin y setliad datganoli, gan esmwytho’r crychion a chynorthwyo’r gwaith o gynnal llywodraeth ddatganoledig.

Ac fel y dywedais yn y Sefydliad Materion Cymreig yn ôl ym mis Tachwedd, rwyf yn benderfynol o’n gweld yn cyflawni setliad cyfansoddiadol cryfach, mwy cytbwys – a gyda chymaint o gonsensws trawsbleidiol â phosibl. Ac mae hwnnw’n ddarn pwysig o waith yr ydym yn ei wneud.

Ond nid y cyfansoddiad yw’r mater sy’n diffinio gwleidyddiaeth Cymru.

Pan fydd pobl yn gwneud penderfyniadau am y Llywodraeth yn San Steffan yn 2015 neu am Lywodraeth Cymru yn 2016, ni fyddant yn meddwl a oes angen model cadw pwerau ar Gymru ai peidio – byddant yn meddwl am y rhagolygon iddynt hwy a’u teuluoedd.

Ydy pethau’n gwella?

Oes mwy o gyfleoedd am swyddi, ydy busnesau’n ffynnu?

Ydyn ni’n gwneud cynnydd – ynteu ydyn ni’n mynd tuag yn ôl?

A phan fyddwn yn sôn am ansawdd gwasanaethau cyhoeddus – rhywbeth sy’n bwysig iawn i bobl Cymru – wel, mae gwasanaethau cyhoeddus cryf yn dibynnu ar economi sylfaenol gref.

Yn y pen draw, caiff unrhyw Lywodraeth ei barnu ar sail yr economi.

Mae cenhadaeth economaidd wrth galon y Llywodraeth Glymblaid hon – cenhadaeth i wynebu argyfwng 2010 yn uniongyrchol, sefydlogi ein cyllid cenedlaethol, codi’r economi oddi ar ei gliniau ac anelu am dwf mwy cytbwys.

Pan ofynnwyd i mi gymryd y swyddogaeth hon fis Gorffennaf diwethaf, ni roddodd y Prif Weinidog unrhyw amheuaeth i mi am yr hyn oedd i’w ddisgwyl.

Bydd yn hyrwyddwr dros adferiad economaidd yng Nghymru, meddai.

Ac rwyf yn sicrhau bod hyn yn genhadaeth graidd i fy Adran. Dyma pam yr wyf wedi sefydlu Bwrdd Cynghori Economaidd newydd i Gymru i gyfrannu at fy nhrafodaethau i a’m tîm yn Llundain ac yng Nghaerdydd i sicrhau llais busnes cryfach i Gymru wrth galon llywodraeth.

Dyma pam yr hoffwn i heddiw – ar ddechrau’r flwyddyn ddifrifol a phwysig hon i Gymru – amlinellu’r her economaidd sydd o flaen ein cenedl.

Dewch i ni ein hatgoffa ein hunain beth ddigwyddodd yng Nghymru yn 2014.

Roedd yn flwyddyn o adfer ac adnewyddu, lle dangosodd economi Cymru welliant cyson ar draws amrywiaeth o ddangosyddion.

Roedd hefyd yn flwyddyn o uchelgais, i Gymru edrych tuag allan a thuag i fyny – ac adennill teimlad o hunanhyder. 2014 oedd y flwyddyn orau i Gymru ers i ddatganoli ddechrau.

Yn y flwyddyn hon, cynhaliwyd Uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd – llwyddiant ysgubol a ddaeth â’r byd i Gymru.

Ni ellir gorbwysleisio maint y digwyddiad hwnnw – yn syml, hwn oedd y casgliad mwyaf o arweinwyr rhyngwladol i ddod i’r DU erioed. Ac ni allai proffil byd-eang Cymru fod wedi bod yn uwch.

Yna, gwnaethom gynnal Uwchgynhadledd Buddsoddi’r DU ym mis Tachwedd lle daeth dros 150 o fuddsoddwyr byd-eang i Gymru i weld â’u llygaid eu hunain pam mae Cymru’n lle mor wych i fuddsoddi ynddo.

Cafodd rhai o’r newyddbethau technolegol mwyaf arloesol sydd ar gael yn unrhyw le yn y byd eu harddangos i gynulleidfa fyd-eang. Newyddbethau a ddyfeisiwyd yng Nghymru, a ddatblygwyd yng Nghymru ac a gynhyrchwyd yng Nghymru.

Yn y ddwy uwchgynhadledd, safodd llywodraeth y DU a llywodraeth Cymru ochr yn ochr i hyrwyddo Cymru ac economi Cymru.

A dyna beth sydd ei angen ar Gymru – y ddwy lywodraeth yn cydweithio.

Ac roedd y cytundeb a wnaethpwyd gennyf fi a fy nhîm yn Swyddfa Cymru rhwng Llywodraeth Cymru a’r Adran Drafnidiaeth ym mis Tachwedd i drydaneiddio’r brif reilffordd i Abertawe a rheilffyrdd y Cymoedd yn enghraifft arall o’r hyn y gallwn ei gyflawni drwy gydweithio fel hyn.

Bydd y buddsoddiad hwn yn trawsnewid yr economi a chymdeithas am flynyddoedd lawer i ddod, gan ei gwneud yn haws i gymunedau cymoedd De Cymru fanteisio ar y canolfannau creu swyddi yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe.

Ym mhob un o’r pethau hyn, gallasom ddangos bod dwy lywodraeth Cymru – yn San Steffan ac yng Nghaerdydd – yn gallu cydweithio’n effeithiol er pennaf les Cymru.

Ac mae hyn yn flaenoriaeth bersonol i mi:

Rydym yn genedl fach ac rwyf yn credu y gallwn daro’n llawer caletach drwy sicrhau cydweithredu a chydweithio effeithiol rhwng gweinyddiaethau’r DU a Chymru.

Mae pobl Cymru’n hoff o hyn, mae’n ofynnol ar gyfer busnes, ac mae ei angen ar Gymru.

Hefyd yn ystod 2014, bu gwelliant sylweddol mewn llawer o nodweddion economaidd sylfaenol ein gwlad.

Tyfodd economi’r DU yn gyflymach nag unrhyw economi fawr ddatblygedig arall.

Aeth y nifer uchaf erioed o bobl allan i weithio.

Ac mae buddsoddiad mewn busnes nawr yn uwch na’r brig cyn y dirwasgiad; mae’r buddsoddiad wedi cynyddu dros 5% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yng Nghymru, bu cynnydd mwy yn nifer y busnesau newydd a ddechreuodd nag yn unman arall yn y DU. Nawr, mae gennym ni 26,000 yn fwy o fusnesau newydd nag yn 2010.

Y llynedd, denodd Cymru ei nifer uchaf o brosiectau mewnfuddsoddi ers bron i chwarter canrif.

Ac mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra ar ei isaf ers chwe mlynedd; creodd y sector preifat 100,000 o swyddi ychwanegol yng Nghymru dros y pedair blynedd ddiwethaf.

Yn ôl yn 2010, roedd economi Cymru’n cael ei chymharu â gwledydd Dwyrain Ewrop megis Romania a Bwlgaria.

Heddiw, Cymru yw’r genedl sy’n tyfu gyflymaf yn y DU – mae’n tyfu’n gyflymach na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae’n un o’r gwledydd sy’n tyfu gyflymaf yn yr UE – mae’n tyfu’n gyflymach na Ffrainc a’r Almaen.

Roedd 2014 hefyd yn flwyddyn o anelu am y sêr; bu tri chwmni o Gymru’n cydweithio ar y prosiect Ewropeaidd Rosetta a laniodd chwiliedydd ar gomed a oedd yn teithio ar 36,000 milltir yr awr 300 miliwn o filltiroedd oddi wrth y ddaear.

Gwaith ysbrydoledig sy’n dangos maint yr arloesedd a’r potensial sydd gennym yng Nghymru heddiw.

Roedd 2014 yn sicr yn flwyddyn dda iawn i Gymru. Rydym wedi dod yn bell iawn ers 2010. Mae’r llwybr wedi bod yn un anodd.

Ond mae’n un sy’n wirioneddol yn dwyn ffrwyth yn awr i Gymru.

Ond dewch i ni fod yn glir – nid yw bod yn gadarnhaol am adferiad Cymru’n ein dallu i’r heriau a’r gwendidau difrifol sy’n dal i fodoli.

Yn 2014, caeodd purfa olew Murco yn Aberdaugleddau, gan gynhyrchu sioc economaidd y bydd yn cymryd blynyddoedd i’r gornel bwysig honno o Gymru ddod drosti. Mae hyn yn ein hatgoffa bod yr adferiad yn fregus a bod Cymru’n dal i wynebu rhai risgiau a siociau posibl.

Fodd bynnag, mae bod yn gadarnhaol am economi Cymru’n golygu ein bod yn sefyll i herio’r negeseuon negyddol parhaus gan rai ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn economi Cymru heddiw.

Mae rhai pobl yn hoff o greu darlun Dickensaidd o dâl isel, gwaith ansefydlog a tymor byr, meistri gormesol ac anghyfrifol yn cynnal gweithleoedd camdriniol…

…rydym yn clywed hyn bob wythnos gan y rheini sy’n gwadu bod adferiad go iawn yn digwydd.

Mae’n gyhuddiad sy’n cael ei anelu’n union at y gymuned fusnes.

Ac mae’n dod gan yr union bobl yng Nghymru a oedd, yn ôl yn 2010/11, yn dadlau yn erbyn pob un cam yr oeddem yn ceisio ei gymryd i adfer sefydlogrwydd ein cyllid cenedlaethol ac ymdrin â baich dyled o gwmpas gwddf ein heconomi.

Wel, roeddent yn anghywir wrth ddadlau bod angen mwy o fenthyca a mwy o ddyled ar Gymru a’r DU i wella’r argyfwng yn ôl yn 2010; roeddent yn anghywir wrth ddadlau bod y sector preifat yng Nghymru’n rhy wan i ailgydbwyso’r economi weithio yma; ac maent yn anghywir am natur yr adferiad economaidd sy’n digwydd nawr.

Dyma’r ffeithiau…

Mae’r rhan fwyaf o’r swyddi newydd sydd wedi’u creu yng Nghymru wedi bod yn rhai llawn-amser. A pharhaol.

Dros y pedair blynedd ddiwethaf, roedd twf enillion yng Nghymru’r ail uchaf o bob rhanbarth yn Lloegr a’r cenhedloedd datganoledig.

Bydd y cynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol yn golygu y bydd y gweithwyr â’r tâl isaf yng Nghymru’n cael y cynnydd mwyaf ers 2008 yn eu cyflog net.

Ac rydym wedi cymryd camau pendant i wahardd contractau dim oriau cyfyngedig i helpu i ddiogelu hawliau gweithwyr Cymru.

Ar adeg pan fo busnes yng Nghymru’n ymdrechu’n galed iawn i greu a diogelu swyddi o safon, i ennill archebion newydd, i fuddsoddi yn yr economi er budd i’n cymdeithas gyfan – ni wnawn ganiatáu i’w hymdrechion gael eu bychanu gan bobl sy’n synhwyro mantais wleidyddol o bedlera gwawdlun bras o economi Cymru.

A byddaf yn tynnu sylw at y bobl hyn yn yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Ond mae’n iawn ein bod yn gofyn y cwestiwn “pa fath o adferiad economaidd rydyn ni’n sôn amdano i Gymru?

Oherwydd mae’n ymddangos i mi bod yr her yn fwy na dim ond rhoi Cymru’n ôl yn ei lle yn 2007/08 cyn y chwalfa. Rhaid i ni hefyd sicrhau’r amodau ar gyfer twf sefydlog hirdymor sy’n cau’r bwlch cyfoeth rhwng Cymru a rhannau eraill o’r DU.

Yn gryno, mae arnom angen cynllun am dwf economaidd hirdymor – lle mae twf yn dod o weithgarwch cynhyrchiol ar draws yr holl sectorau ac yn digwydd ym mhob cwr o’n gwlad.

Y gwir yw ein bod, yn 2007/08, ar drywydd trychinebus i Gymru.

Rhwng 1997 a 2008 roeddem yn byw dan gamargraff o dwf a llwyddiant economaidd. Rydym nawr yn gwybod yn union pa mor simsan a gwan oedd sail prif ffigurau’r twf hwnnw.

Wrth gwrs, yn y cyfnod hwn y bu un o brif weinidogion y llywodraeth yn sôn am fod yn “arbennig o ddidaro os aiff pobl i ddrewi o arian”. Hwn oedd cyfnod diwylliant y bonws – a helpodd i gymell y math o ymddygiad a arweiniodd at drychinebau RBS, Northern Rock…

Hwn oedd y cyfnod pan gafodd llawer o raddedigion peirianneg a gwyddoniaeth disgleiriaf Cymru eu denu o’r diwydiant i Ddinas Llundain, a phan gafodd statws sgiliau galwedigaethol ei ddibrisio.

Hwn oedd cyfnod mewnfudo digyfyngiad a oedd yn lleihau cyfleoedd am swyddi ac yn tynnu’r pwysau oddi ar y llywodraeth a busnesau i gynyddu sgiliau ein pobl ifanc ein hunain a dod o hyd i waith iddynt.

A hwn oedd y cyfnod pan gafodd busnes byd-eang ei drawsnewid gan gyfathrebu digidol gan greu chwyldro economaidd newydd, a ddylai fod wedi dechrau oes aur o ran symudedd cymdeithasol a chreu cyfoeth.

Ond mewn gwirionedd, yn y cyfnod hwn, aeth Cymru’n dlotach, gan syrthio i waelod y tablau economaidd; aeth mewnfuddsoddi’n brin; cafodd yr Awdurdod Datblygu Cymru llwyddiannus iawn ei ddiddymu; cafodd sail gweithgynhyrchu Cymru ei herydu, gan ddatsgilio rhannau o’n gweithlu; a bu twf trychinebus mewn dibyniaeth ar fudd-daliadau yng Nghymru.

Yn bendant, roedd Cymru’n un o’r dioddefwyr mwyaf oherwydd camargraff economaidd y llywodraeth ddiwethaf. Roedd economeg blynyddoedd cynnar y 2000au yn newyddion drwg i Gymru.

Felly, i ni, nid yw’r adferiad yn golygu mynd yn ôl ar y trywydd yr oeddem arno wyth mlynedd yn ôl.

Rydym am ailosod ein llwybr economaidd yn sylfaenol – yn fyr, ailgydbwyso’r economi.

Rhaid i’r adferiad economaidd hwn gynnwys cynllun hirdymor – nid plaster glynu; rhaid i ni sicrhau etifeddiaeth sy’n para.

Ac rwyf yn ystyried bod hyn yn her i genhedlaeth.

Ond y cynllun yw gobaith gorau Cymru – ein gobaith gorau ni – o godi o waelod y tabl economaidd.

Mae’r cynllun economaidd hirdymor hwnnw i Gymru’n dechrau drwy ymdrin â’r diffyg.

Mae adfer disgyblaeth yn ein cyllid cenedlaethol wedi golygu gwneud rhai penderfyniadau anodd ac annymunol iawn. Nid oes neb yn mynd i mewn i wleidyddiaeth er mwyn gwneud pethau fel hyn. Ond bydd angen gwneud penderfyniadau tebyg yn y Senedd nesaf er mwyn i ni fyw o fewn ein modd unwaith eto a bod mewn sefyllfa i dalu ein dyledion i lawr.

Bydd angen archwilio pobman lle mae arian trethdalwyr yn cael ei wario i weld a oes posibl gwneud arbedion.

Mae rhai pobl wedi dadlau y dylai fod Cymru wedi’i diogelu rhag unrhyw doriadau gwario. A ddoe ddiwethaf, clywais un o fy rhagflaenwyr fel Ysgrifennydd Gwladol yn galw am £60 biliwn ychwanegol o wario heb ei ariannu ledled y DU. Fel rheol, y rhain hefyd yw’r bobl sydd wedi gorliwio i ba raddau y mae toriadau wedi effeithio ar Gymru dros y pedair blynedd ddiwethaf.

Y gwir yw – yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn ers 2010 – bod hanes y Llywodraeth hon o ran gwario yng Nghymru wedi bod yn gadarnhaol iawn.

Mae Cymru wedi’i diogelu yn erbyn y toriadau dyfnaf y mae adrannau mawr eraill wedi gorfod eu hysgwyddo… Ar adeg pan fo angen gwneud dewisiadau anodd, mae ein hymrwymiadau parhaus i gynyddu cyllid i’r GIG ac addysg yn San Steffan wedi helpu i ynysu Cymru ac wedi darparu cyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd angen i unrhyw blaid sy’n dymuno ennill yr etholiad ym mis Mai ddangos eu bod yn gyfrifol a bod ganddynt gynllun credadwy ar gyfer ein cyllid. Os ydynt yn dewis peidio ag aros ar y llwybr ariannol yr ydym ni wedi’i bennu, bydd angen iddynt fod yn onest ynglŷn ag a ydynt yn bwriadu codi trethi neu fenthyca mwy yn lle hynny.

Nid oes atebion hawdd, a dylai busnesau Cymru fynnu eglurder ynglŷn â bwriadau’r pleidiau.

Rwyf yn credu bod gennym hanes o wneud penderfyniadau anodd a phennu llwybr, ond mewn ffordd gyfrifol a chymedrol sy’n diogelu Cymru ac yn ei hyrwyddo. Mae gennym y cynllun credadwy hwnnw.

Ond nid dim ond mater o arbed arian yw’r cynllun – mae hefyd yn fater o gefnogi busnesau, gan helpu’r sector preifat i ffynnu hyd yn oed mewn cyfnod o gyfyngiadau ar gyllid a risg economaidd.

Mae’n fater o sicrhau fframwaith ar gyfer twf economaidd a llwyddiant yn y dyfodol. Mae hynny’n golygu creu amgylchedd mwy cystadleuol ar gyfer treth a rheoleiddio i fusnesau Cymru… un o fanteision allweddol bod yn rhan o Deyrnas Unedig gref.

A dyna pam y byddwn eleni’n gweld prif gyfradd y Dreth Gorfforaeth yn gostwng i fod yr isaf yn y G20.

Dyna pam mae Cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi cael eu lleihau ar gyfer busnesau sy’n dymuno cymryd mwy o staff a thyfu.

A pham mae ein Lwfans Cyflogaeth wedi golygu bod 35,000 o fusnesau yng Nghymru wedi cael hyd at £2,000 yr un o arian yn ôl am greu swyddi.

Ac rydym hefyd yn torri drwy’r tâp coch sy’n atal twf, yn enwedig i fusnesau bach. Drwy ddiddymu neu addasu dros dair mil o reoliadau, rydym yn arbed dros wyth cant a hanner o filiynau o bunnau i fusnesau bob blwyddyn.

Ac mae’r cynllun yn golygu mwy na gadael i fusnesau barhau â’u gwaith. Mae angen i’r llywodraeth ymyrryd er mwyn cyflawni economi fwy cytbwys o safbwynt daearyddol – fel mai nid dim ond Llundain a De Ddwyrain Lloegr fydd yn parhau i elwa o dwf ac adnewyddu economaidd.

Y gwir yw bod Prydain, dan Lywodraethau blaenorol, wedi dioddef o economi beryglus o unochrog wedi’i dominyddu gan Lundain a De Ddwyrain Lloegr – ardal a ddaeth yn un o’r mwyaf cynhyrchiol a dynamig yn fyd-eang, ond un a sugnodd dalent a buddsoddiadau i mewn ar draul mannau eraill.

Ond rydym yn benderfynol o ailgydbwyso’r economi. Aethom ag Uwchgynhadledd G8 i Ogledd Iwerddon, cafwyd uwchgynhadledd NATO a’r uwchgynhadledd fuddsoddi yng Nghymru a bydd ein buddsoddiad yn HS2 yn creu cysylltiadau gwell rhwng pob rhan o’r Deyrnas Unedig i greu twf ym mhob ardal.

A’r Canghellor hwn a feddyliodd am weledigaeth Pwerdy’r Gogledd – adfywio pwysigrwydd economaidd a dinesig dinasoedd mawr Gogledd Lloegr – gweledigaeth a oedd yn cynnwys gwyddoniaeth, buddsoddi, seilwaith a datganoli oddi wrth Lundain a De Ddwyrain Lloegr.

Nid yw’r Pwerdy’r Gogledd hwn yn gyfyngedig i Loegr yn unig.

Mae’n fater o uno’r rhanbarthau Gogleddol, gan gynnwys Gogledd Cymru, i fasnachu, tyfu, denu buddsoddiad preifat a’r bobl orau.

Ac mae system drafnidiaeth fodern ac integredig wrth wraidd hyn – ffyrdd a rheilffyrdd o safon fyd-eang.

Felly, mae Swyddfa Cymru’n cynnal uwchgynhadledd drafnidiaeth yng Ngogledd Cymru’n ddiweddarach y mis hwn i archwilio’r holl gyfleoedd sydd ar gael – cyfleoedd i wneud yn siŵr bod y rhanbarth hwn yn elwa o’r twf yr ydym yn ei weld ledled gweddill y wlad ac i archwilio sut y gall Cymru elwa o fuddsoddiad gogleddol, gan gynnwys HS2.

Gan wneud Gogledd Cymru’n ein Pwerdy’r Gogledd ein hunain ar gyfer economi Cymru.

Mae perygl y gall Cymru – lle’r ydym yn dal i weithio ar sail syniad o’r ugeinfed ganrif o ddatganoli – lithro ar ei hôl hi os bydd datganoli i lefel dinasoedd yn gweithredu fel sbardun i dwf economaidd ac adnewyddu dinesig.

Felly, mae arnom angen dinas-ranbarthau llwyddiannus yng Nghymru er mwyn i Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd a’r ardaloedd o’u cwmpas allu cystadlu â dinasoedd ffyniannus Bryste, Birmingham a Manceinion.

Dylai ailgydbwyso hefyd olygu nad ydym yn dibynnu’n ormodol ar unrhyw un sector o’r economi – ond bod gennym sylfaen economaidd eang.

Yng nghyfnod y Llywodraeth ddiwethaf, cafodd dros 80,000 o swyddi eu colli yn y sector gweithgynhyrchu.

Yn y pedair blynedd ddiwethaf, mae dros 20,000 o swyddi gweithgynhyrchu newydd wedi cael eu creu.

Swyddi gweithgynhyrchu newydd yn Raytheon yng ngogledd Cymru yn eu cyfleuster ymchwil a datblygu awyrofod newydd, a welais yn ddiweddar, er enghraifft. A swyddi newydd yn Meritor yng Nghwmbrân yn gweithgynhyrchu darnau ar gyfer sector modurol y DU sy’n tyfu.

I ategu’r gwaith hwn o ailgydbwyso gweithgarwch economaidd, rydym yn benderfynol hefyd o drawsnewid ansawdd a statws ymddangosiadol addysg alwedigaethol. Rydym wedi gweld dwy filiwn yn fwy o brentisiaethau ers 2010 – ond prentisiaethau o safon uwch hefyd.

Roedd y targed enwog o anfon 50% o bobl ifanc i gael gradd o brifysgol yn drychineb i lawer o bobl ifanc Cymru – a chyfrannodd at ddatsgilio rhai o’n cymunedau.

Dri mis yn ôl, gofynnwyd i mi siarad yn seremoni raddio grŵp o brentisiaid yn un o safleoedd peirianneg mwyaf Cymru – cwmni byd-eang sy’n darparu hyfforddiant o’r radd flaenaf. Wrth siarad â’r prentisiaid wedyn, cefais fy nharo gan y ffaith bod o leiaf ddau ohonynt yn eu 20au hwyr.

Dywedodd y rhain wrthyf eu bod wedi mynd i ffwrdd i brifysgol yn 18 oed, wedi cael gradd nad oedd yn eu cyfarparu ar gyfer dim byd yn eu barn hwy, ac wedi’u cael eu hunain yn ôl gartref yn byw gyda Mam a Dad ac yn ddi-waith. Yn ddiweddarach, cawsant ail gyfle i ddechrau arni, drwy wneud prentisiaeth 4 mlynedd yn y cwmni hwn… sydd wedi trawsnewid eu lefelau sgiliau, eu hyder, eu potensial i ennill cyflog a’u rhagolygon i’r dyfodol.

I mi, mae hyn yn crynhoi popeth a oedd o’i le â sut yr oedd llywodraethau blaenorol yn gostwng gwerth y llwybr galwedigaethol a pha mor iawn ydyw ein bod yn mynd ati’n ddiflino i hyrwyddo a dyrchafu’r llwybr hwnnw.

Hoffwn iddi fod yr un mor debygol y bydd arweinwyr busnes Cymru yn y dyfodol wedi dod o lawr y ffatri ag o ddarlithfa mewn prifysgol.

Ond mae arnaf ofn bod cenhedlaeth o bobl wedi’i cholli sydd heb y sgiliau technegol, peirianyddol a galwedigaethol eraill o’r safon uchaf sydd eu hangen arnom. Ac efallai mai’r genhedlaeth goll hon yw’r rheswm pam mae cynifer o arweinwyr busnes Cymru’n sôn wrthyf am brinderau sgiliau sy’n effeithio ar eu cwmnïau.

Mae arweinwyr busnes hefyd yn siarad â mi am seilwaith. Ac rwyf yn credu bod ar Gymru angen gweledigaeth hirdymor i fuddsoddi mewn seilwaith o safon fyd-eang – trafnidiaeth, ynni, seilwaith digidol hefyd. Ni ddylai’r weledigaeth hon ddibynnu ar ba blaid benodol sydd mewn grym yn San Steffan na Chaerdydd er mwyn cael ei gwireddu.

Yn union fel yr wyf yn ceisio cael gwared ar lawer o wleidyddiaeth plaid o ddatganoli, rwyf yn credu bod gennym y potensial i weld gweledigaeth unedig hirdymor ar gyfer y seilwaith sydd ei angen ar Gymru – ac i wleidyddion, busnesau a grwpiau eraill uno o gwmpas y weledigaeth hon.

Ond rwyf yn credu mai busnesau yng Nghymru ddylai fod yn berchen ar y weledigaeth hirdymor hon a’i hyrwyddo. Hwy ddylai sicrhau bod llywodraethau’n gweithredu ar y weledigaeth ac yn ei gwireddu.

Rwyf yn meddwl am Brosiect Crossrail a fydd, ynghyd â thrydaneiddio – yn y dyfodol agos – yn cysylltu Caerdydd â Canary Wharf mewn dim ond 2 awr. Yn ôl ar ddiwedd y 90au pan fûm yn gweithio yn Siambr Fasnach Llundain, busnes oedd yr unig grŵp a oedd yn galw am y buddsoddiad strategol hwn. Ac roedd hynny’n waith caled. Ond yr unig reswm pam mae’r prosiect hwnnw’n cael ei gyflawni nawr yw bod busnes wedi cadw’r fflam yn fyw. Ac mae angen yr agwedd honno arnom yng Nghymru.

Ond ni ddylai hirdymor olygu siarad am yr un prosiect am ddegawdau (gallwn sôn am brosiect ffyrdd penodol yn Ne Cymru), ond sicrhau bod cynllun ar waith sy’n uchelgeisiol ac yn realistig. Mae ein cytundebau ar yr M4, ar drydaneiddio, Wylfa a Charchar Wrecsam, ymysg eraill, yn dangos ein bod yn llywodraeth sy’n deall seilwaith ac yn dymuno i Gymru gael ei chyfran deg.

Ond rwyf yn benderfynol o’n gweld yn mynd ymhellach. Oherwydd mae llwyddiant yn yr 21ain ganrif yn perthyn i’r economïau hynny sy’n gallu harneisio technoleg ac arloesedd. Y rhai sy’n anelu am y sêr ac sy’n hyderus yn eu gallu eu hunain.

Yn ystod y dyddiau hynod hynny ym mis Tachwedd pan laniodd chwiliedydd gofod Philae ar y gomed, roeddwn wedi fy syfrdanu wrth wylio’r delweddau anhygoel hynny’n cyrraedd ein setiau teledu – ac yn gobeithio bod miloedd o blant ledled Cymru’n gwylio hefyd, ac yn cael eu hysbrydoli gan ryfeddodau a chyraeddiadau gwyddoniaeth ac arloesedd… …a’u hysbrydoli i gredu y gallant hwythau gyflawni unrhyw beth.

Oherwydd beth yw ein cenhadaeth yma?

Nid yw dim o hyn – twf CMC, lefelau buddsoddi, cynhyrchiant – yn amcan ynddo’i hun.

Rhaid i weledigaeth economaidd i Gymru olygu mwy na’r pethau hyn.

Mae adnewyddu economaidd, i mi, hefyd yn fater o gydlyniant ac adnewyddu cymdeithasol.

Yma yng Nghymru, rydym yn deall rhwymau cryf teulu a chymuned sy’n cyfoethogi ac yn cryfhau ein ffabrig cymdeithasol ac yn rhoi ei chyfalaf cymdeithasol unigryw i Gymru.

Rwyf yn credu mai un o’r nodweddion sy’n diffinio cymdeithas yng Nghymru yw ymdeimlad cryf o gyfiawnder cymdeithasol, o’r hyn sy’n deg, o’r hyn sy’n dda ac yn ddrwg.

Yng Nghymru, mae cysylltiad cryf rhwng materion economaidd a chwestiynau pwysig am werthoedd, moesoldeb a da a drwg.

Felly, i mi, iechyd economaidd yw’r llwybr at adnewyddu cymdeithasol. Mae’n hanfodol er mwyn tanategu cydlyniant cymunedol. Mae diffyg twf economaidd yn gwagio cymunedau, ac mae diweithdra’n creu cylch cythreulig o ddibyniaeth sy’n effeithio ar fwy nag un genhedlaeth; mae’n effeithio ar genedlaethau’r dyfodol hefyd.

Rydym wedi gweld hyn â’n llygaid ein hunain mewn gormod o’n trefi yng Nghymru.

Cymunedau lle’r ydym wedi gweld dros draean yr oedolion yn ddi-waith ac yn dibynnu ar fudd-daliadau.

Felly, beth mae adferiad economaidd yn ei olygu i gymunedau yng Nghymru?

Mae’n golygu bod degau o filoedd yn fwy o blant Cymru’n tyfu i weld mam neu dad yn mynd allan i weithio am y tro cyntaf.

Nawr, mae gennym 39,000 yn fwy o blant yn gweld eu Mam neu Dad yn mynd allan i weithio am y tro cyntaf ers 2010.

Rwyf yn gwybod yn iawn pa mor bwysig ydyw i blentyn sy’n tyfu mewn cartref lle mae pethau’n anodd i weld rhiant yn mynd allan i weithio ac yn dod â chyflog rheolaidd adref, gan roi ysbrydoliaeth, delfryd ymddwyn, rhywun sy’n dangos y gallwch chi oresgyn rhwystrau sy’n atal symudedd cymdeithasol.

Felly rwyf yn dweud nad oes dim byd gofalgar na thrugarog am osgoi her adnewyddu economaidd, diwygio lles a sicrhau bod Cymru’n dechrau gweithio eto.

Mae ein gweledigaeth economaidd yn golygu ail-greu ymdeimlad o falchder dinesig wrth i gymunedau sydd wedi cael eu taro’n galed ddod o hyd i ganolfannau economaidd newydd i ffynnu o’u cwmpas.

Ac mae’n golygu gwneud y dewis moesol a moesegol i wynebu’r ddyled yr ydym ni fel Teyrnas Unedig wedi’i chreu gyda’n gilydd – yn hytrach na gorfodi cenedlaethau’r dyfodol i’w hwynebu.

Mae ein hymdeimlad o degwch hefyd yn golygu ein bod yn credu ei bod yn annerbyniol bod rhai busnesau mawr yn osgoi eu cyfrifoldeb i dalu treth ar yr enillion y maent yn eu cynhyrchu yn y DU. Felly rydym yn cau’r bylchau hyn y methodd llywodraethau blaenorol eu cau.

Mae ein hymdeimlad o degwch hefyd yn golygu rhoi pwysau ar y cwmnïau olew ac ynni, fel yr ydym yn ei wneud eto’r wythnos yma, i ostwng eu prisiau i gwsmeriaid wrth i bris olew crai ar farchnadoedd y byd ostwng i hanner ei bris gyfnod byr yn ôl.

Yma yng Nghymru, mae tua 250,000 o aelwydydd yn dibynnu ar olew gwresogi a thanwyddau eraill oddi ar y grid i gadw eu cartrefi’n gynnes. Felly nawr – yng nghanol y gaeaf – yw’r amser i’r cwmnïau ynni drosglwyddo’r gostyngiad ym mhrisiau ynni’r byd.

Yn 2008, yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, cafodd cerflun gan yr artist Simon Hedger ei ddadorchuddio.

Mae wedi’i gerfio o bren o Gymru, ac mae’n dangos tri ffigwr â bwyeill yn torri gât i lawr.

Mae’n coffáu Terfysgoedd Rebecca yn 1839 pan gododd rhannau o gymuned wledig Cymru yn erbyn tollbyrth afresymol – a oedd yn trethu eu masnach a symudiad rhydd pobl rhwng pentrefi a marchnadoedd.

Mae’r arysgrif canlynol ar y cerflun: “Cyfiawnder A Charwyr Cyfiawnder Ydym Ni oll”.

Roedd ‘Merched Becca’ yn dangos yr ymdeimlad cryf o gyfiawnder economaidd a chymdeithasol sy’n rhan annatod o feddylfryd y Cymry.

Fflam Gymreig yw fflam cyfiawnder economaidd a chymdeithasol, ac mae’n llosgi ynof fi hefyd.

Ac mae’n diffinio sut yr wyf yn ceisio gwneud fy ngwaith fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Foneddigion a boneddigesau, mae llawer o waith i’w wneud i wireddu’r math o weledigaeth yr wyf wedi’i hamlinellu heddiw ar gyfer economi Cymru.

Ond mae’r gwaith wedi dechrau. Ac mae’n dwyn ffrwyth i Gymru.

Mae’r weledigaeth wedi’i hategu gan gynllun hirdymor y gallwn ei gyflawni.

Mae’r llwybr wedi’i bennu. Ac rwyf yn credu mai hwn yw’r llwybr cywir i Gymru. Un sy’n rhoi’r cyfle gorau posibl i Gymru i gau’r bwlch economaidd a chodi oddi ar waelod y tabl.

Felly, mae yna ddewis syml, ond hollbwysig, i Gymru yn 2015.

Dewis o naill ai lynu at y cynllun hirdymor hwn sydd

  • yn helpu mwy o bobl i ennill cyflog a darparu ar gyfer eu teuluoedd
  • yn ysbrydoli pobl ifanc o bob cefndir i anelu am y sêr
  • yn gynllun sy’n rhoi Cymru ar y llwyfan byd-eang fel canolfan rhagoriaeth a buddsoddi

.. neu rydym yn dewis cefnu ar y cynllun a dewis rhywbeth arall – rhywbeth heb ei ddiffinio, sy’n tarfu ar y cynllun sydd wedi’i lunio’n ofalus i leihau’r diffyg ac yn cynyddu risgiau ariannol.

Mae amryw o risgiau economaidd eisoes yn bodoli i Gymru a’r DU – diffyg twf yn rhanbarth yr Ewro, tensiynau geowleidyddol, prisiau anwadal ynni byd-eang, gallwn fynd yn fy mlaen.

Y peth olaf sydd ei angen ar Gymru, yn fy marn i, yw ychwanegu mwy o risg gwleidyddol ac economaidd a mwy o ansefydlogrwydd ariannol. Hwn yw’r perygl yr wyf yn ei weld yn y rhethreg a’r addewidion sydd eisoes yn cael eu gwneud ar ddechrau’r flwyddyn etholiad bwysig hon.

Glynu at y cynllun hirdymor yw’r peth gorau i Gymru.

Felly rwyf yn credu bod y dewis a gaiff Cymru ymhen rhai misoedd yn ddewis clir iawn. Nid yw’n amser i wneud dewisiadau ideolegol, llwythol, sentimental na phrotest.

Mae’n foment i benderfynu’n ddifrifol gan weld yn glir – er budd cenedlaethol Cymru – i barhau â’r gwaith yr ydym wedi’i ddechrau …i drwsio ein heconomi,

…sicrhau twf mwy cytbwys,

…a helpu i greu’r genedl gref, hyderus, lwyddiannus sy’n edrych tuag allan yr wyf yn credu y gall Cymru fod.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Ionawr 2015