Anerchiad

Ysgrifennydd Cymru yn galw am addysg gryfach a mwy uchelgeisiol yng Nghymru

Stephen Crabb yn nodi'r her sgiliau sy’n wynebu Cymru mewn araith bwysig ar addysg.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
" "

Gwirio yn erbyn yr araith a wnaed:

Mae’n braf bod yn ôl yma ym Mhencoed ac yn y ganolfan ragoriaeth wych hon ym maes Technoleg Ddigidol.

Does dim ond raid inni edrych ar Sony yma ym Mhencoed i gael ein hatgoffa o’r hyn y gall Cymru ei gynnig mewn oes o weddnewidiadau economaidd a chymdeithasol sy’n cael eu sbarduno gan dechnoleg.

Mae Sony wedi bod yn rhan bwysig o’r dirwedd economaidd yn Ne Cymru ers dros 40 mlynedd erbyn hyn, ac mae wedi dal ati a ffynnu drwy sawl cylch economaidd, gan ailddyfeisio ei fodel busnes, ac aros ar flaen y gad yn y maes cynhyrchu uwch-dechnoleg.

Mae’r safle hefyd yn gartref i’r Raspberry Pi - y cyfrifiadur maint cerdyn credyd sy’n creu ychydig o chwyldro yn y ffordd y mae plant yn dysgu sgiliau rhaglennu cyfrifiadurol ac mae’n cael ei gynhyrchu yma ym Mhencoed.

A gadewch imi sôn am fy merch, a ddaeth adref o’r ysgol ar ddiwrnod cyntaf y tymor a dweud ei bod wedi ymuno â Chlwb y Raspberry Pi - pan ofynnodd imi a oeddwn yn gwybod beth oedd clwb o’r fath, roeddwn yn gallu dweud fy mod. Ac yn fwy na hynny, roeddwn yn gallu dweud wrthi ei fod yn cael ei wneud ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn gynnyrch rwy’n falch iawn ohono.

Ond dysgais ddoe bod Raspberry Pi 2 newydd ar gael erbyn hyn - mewn ymateb i’r galw enfawr o bob rhan o’r byd a chynnydd arbennig mewn gwerthiannau sy’n creu 30 swydd newydd yma ym Mhencoed.

Ni allech gael lle gwell ar gyfer ystyried rôl addysg a sgiliau yn sbarduno llwyddiant economaidd Cymru i’r dyfodol.

Bedair wythnos yn ôl, clywodd rai ohonoch fy nisgrifiad o faint yr her economaidd sy’n wynebu Cymru.

Yn yr araith honno, siaradais am y cynllun hirdymor y mae llywodraeth y DU wedi bod yn ei roi ar waith ar gyfer yr economi dros y pum mlynedd diwethaf a pham fy mod yn credu mai’r cynllun hwn yw cyfle gorau Cymru i symud oddi ar waelod tabl cynghrair economaidd y DU.

Yn yr araith honno, siaradais am ailgydbwyso’r economi sydd wrth wraidd ein cynllun economaidd…

… ailgydbwyso ein heconomi i greu sylfaen gryfach a mwy diogel ar gyfer twf; y math o dwf a fydd yn creu ac yn lledaenu cyfoeth yn fwy cynaliadwy ac yn decach ar draws pob rhan o’r DU - gan gynnwys yma yng Nghymru.

Siaradais bryd hynny am y rhesymau dros fod yn optimistaidd am ddyfodol Cymru, y ffaith ein bod wedi gweld 20,000 o swyddi gweithgynhyrchu yn cael eu creu yma yng Nghymru ers 2010, gyda dros 5,000 o swyddi newydd yn y sector gweithgynhyrchu uwch yn unig…

Mae’r broses o ailgydbwyso’r economi ar waith erbyn hyn, ac mae’n dechrau dwyn ffrwyth go iawn i Gymru.

Ond yn yr araith honno, siaradais hefyd am rai o’r cwestiynau difrifol y mae angen inni roi sylw iddynt yng Nghymru os ydym i wireddu’r weledigaeth economaidd hon.

Heddiw, hoffwn ystyried un yn unig o’r cwestiynau hyn yn fwy manwl - ac o bosib yr un mwyaf difrifol ohonynt i gyd.

Oherwydd rwy’n credu mai’r hyn a fydd yn bennaf gyfrifol am lwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol fydd ein gallu i harneisio gwybodaeth, gwella ein lefelau sgiliau a chreu tir ffrwythlon ar gyfer arloesi yng Nghymru.

A bydd llwyddiant ein system addysg yn greiddiol i hyn.

Mae rhai yn rhybuddio yn erbyn cysylltu addysg bob amser â nodau economaidd neu nodau yn ymwneud â’r gweithle. Ac maent yn iawn wrth gwrs. Mae addysg a dysgu yn gynhenid werthfawr ar eu telerau’u hunain. Ond, yma yng Nghymru, ni chredaf fod digon o ffocws wedi bod ar swyddogaeth hanfodol addysg mewn perthynas â’n perfformiad economaidd.

Yn aml, mae addysg yn cael ei thrin fel is-set o ddadleuon ehangach am wasanaethau cyhoeddus - ac am rai rhesymau da. Ond efallai nad ydym wedi dangos pa mor bwysig ydy addysg fel rhywbeth sy’n sbarduno llwyddiant economaidd hirdymor.

Ni chredaf mai damwain yw’r ffaith y dyfarnwyd mai Ffindir a Singapore, y ddwy wlad y barnwyd bod ganddynt y systemau addysg gorau yn y byd, yw’r ail a’r drydedd economi fyd-eang fwyaf cystadleuol gan Fforwm Economaidd y Byd.

Ac nid cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith mai’r gwledydd hynny, dros y 50 mlynedd diwethaf, sydd wedi bod yn fwyaf llwyddiannus yn gwella sgiliau eu pobl sydd wedi gweld y twf cyflymaf.

Mae gwledydd fel y Swistir, yr Almaen, Singapore a Japan – rhai o economïau mwyaf cystadleuol y byd- i gyd yn cael sgôr uchel ar fynegai addysg yr OECD.

Ac mewn oes pan mae cyfalaf byd-eang yn symudol iawn, a gweithwyr fwyfwy hefyd, nid dim ond ymarfer damcaniaethol ydy cymariaethau rhyngwladol. Maent yn wirioneddol bwysig o ran y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud am fewnfuddsoddi.

Wrth i’r economi fyd-eang barhau i newid, bydd lefelau addysg a sgiliau yn dod yn ffactor pwysicach byth ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch mewnfuddsoddi.

Ac rydym yn gwybod nad yw’r byd yn aros yn ei unfan.

Mae ein cystadleuwyr, ein partneriaid masnachu, y gwledydd â mantolenni mawr a fydd gobeithio yn dod i fuddsoddi yng Nghymru … maent i gyd yn gwybod hyn.

Dyna pam mae ein gweledigaeth o economi wedi’i hailgydbwyso yn canolbwyntio gymaint ar addysg a sgiliau – ac ar y math iawn o addysg a sgiliau.

Mae’n egluro’r pwyslais cryf rydym yn ei roi ar drylwyrder a safonau yn yr ysgolion. Gan adeiladu ar y diwygiadau a gyflwynwyd gan Tony Blair dros ddegawd yn ôl, rydym wedi parhau i ehangu’r rhaglen academïau a diwygio’r cwricwlwm.

Dyna pam rydym wedi achub prentisiaethau o domen y sector addysg drwy roi mwy o sylw i’r llwybr galwedigaethol a’i hyrwyddo, a chreu dros 2 filiwn yn fwy o brentisiaethau ers 2010 a gwella ansawdd cyrsiau galwedigaethol.

Ac rwy’n credu bod Cymru angen y math hwn o ffocws gymaint ag unrhyw le arall – yn fwy efallai.

Oherwydd, gadewch inni fod yn onest a gweld y ffeithiau fel y maent.

Mae ein perfformiad economaidd yn dal ar waelod tabl cynghrair y DU.

Ac rwy’n casáu hynny.

Ie, cafwyd rhywfaint o symudiad cadarnhaol iawn o ran twf a chyflogau go iawn, ond mewn gwirionedd mae gennym gryn ffordd i fynd cyn inni gau’r bwlch rhyngom a gweddill y DU.

Ie, mae’r darlun economaidd yng Nghymru yn gwella, ond rydym yn cychwyn o sylfaen is.

Ac os ydych chi – fel fi – yn credu yn y berthynas hon rwyf wedi’i disgrifio rhwng canlyniadau addysgol a llwyddiant economaidd, fe ddylen ni fod yn gofyn rhai cwestiynau anodd iawn am dueddiadau addysgol Cymru dros y genhedlaeth ddiwethaf.

Mae wedi cael ei ddweud sawl gwaith o’r blaen y bydd llwyddiant yn yr 21ain ganrif yn dod i ran yr economïau hynny a fydd yn gallu defnyddio gwybodaeth ac arloesedd yn fwyaf llwyddiannus.

Os ydym yn wirioneddol gredu’r datganiad hwnnw, mae angen inni ystyried ein record yn ofalus iawn a bod yn barod i ddod i gasgliadau clir – a’r cyntaf ohonynt yw nad ydym wedi bod yn ddigon uchelgeisiol o ran ein gweledigaeth ar gyfer addysg yng Nghymru.

Nid pan fyddwch yn ei gymharu â’n perfformiad yn y gorffennol; nid pan fyddwch yn ei gymharu â’n cymdogion yn y DU ac yn Ewrop ar hyn o bryd; ac nid pan fyddwch yn ei gymharu â’r hyn a fydd, mi gredaf, yn heriau inni i’r dyfodol.

Nid hanner digon uchelgeisiol.

A phan rwy’n sôn am y diffyg yn ein dyheadau – nid cyhuddiad gen i yw hyn – mae’n dod yn syth o’r gymuned fusnes yma yng Nghymru.

Rwy’n ymweld â busnesau ymhob rhan o Gymru bob wythnos i ddysgu am yr heriau maent yn eu hwynebu ac i weld beth yn rhagor y gellir ei wneud i’w cefnogi wrth iddynt arwain yr adferiad economaidd yng Nghymru. A phob wythnos, rwy’n clywed galwad cyfarwydd am i rywbeth gael ei wneud i wella safonau sgiliau pobl ifanc sy’n cychwyn gweithio – neu rwy’n clywed am fylchau penodol iawn mewn sgiliau mewn rhannau gwerthfawr o’r economi lle mae cyfleoedd gwaith o safon ar gael sy’n cynnig cyflogau da… ond lle nad yw’r sgiliau ar gael yn y gweithlu lleol.

Clywn hyn gan CBI Cymru, a luniodd adroddiad ym mis Hydref y llynedd yn cyfuno’r holl bryderon gan fusnesau am addysg yng Nghymru.

A’u casgliad?

“Mae addysg yn fater o bwysigrwydd eithriadol i Gymru, a bydd yn parhau felly… mae gormod o bobl ifanc, am ormod o amser, wedi cael eu gadael i lawr gan y system.”

Mae Sefydliad y Cyfarwyddwyr hefyd wedi cyfeirio’n flaenorol at lefelau sgiliau “dychrynllyd o isel” ymysg pobl ifanc Cymru.

Os ydym yn barod i wynebu’r ffeithiau, rhaid inni ddod i’r casgliad nad ydym yn gwneud yn ddigon da o ran addysg ein talent ifanc yng Nghymru.

Ychydig fisoedd yn ôl, es i un o brif ffatrïoedd peirianneg Cymru - cyflogwr rhanbarthol mawr a rhan o gwmni byd-eang. Cefais fy ngwahodd i gymryd rhan yn y seremoni graddio ar gyfer eu prentisiaid ar eu blwyddyn olaf. Ar ôl y seremoni, fe’m synnwyd gan daith addysgol rhai o’r prentisiaid hyn. Roedd rhai ohonynt yn eu hugeiniau hwyr, ac wedi graddio’n barod o’r Brifysgol, a chael eu hunain yn ddi-waith gyda’r hyn a ddisgrifiwyd ganddynt yn awr fel graddau “diwerth”, ac wedi dewis ailgychwyn gyda phrentisiaeth bedair blynedd o safon.

I’r oedolion ifanc hyn, y brentisiaeth oedd eu hail gyfle; y peth sydd wedi gweddnewid eu cyfleoedd bywyd a’u potensial ar gyfer ennill arian – yn fwy na’r llythrennau academaidd ar ôl eu henwau.

[y cyd-destun gwleidyddol wedi’i dynnu]

Ac rwyf wedi cael y fraint o weld sawl cynllun prentisiaeth ardderchog ledled Cymru yn y chwe mis diwethaf.

Yma ym Mhencoed mae Academi Sony Cymru, sy’n hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, peirianwyr, rheolwyr a thechnegwyr.

Un o’m hymweliadau cyntaf fel Ysgrifennydd Gwladol ym mis Gorffennaf oedd i Airbus ym Mrychdyn lle cefais daith o gwmpas y ffatri gyda rhai o’u prentisiaid. Gallech fod wedi tybio mai rheolwyr profiadol oedd y bobl ifanc – o weld dyfnder eu hangerdd a’r wybodaeth y gwnaethant ei dangos am fusnes Airbus.

A chredaf fod arweinwyr busnes y dyfodol yr un mor debygol o ddod o lawr y ffatri ag o brifysgol neu ysgol fusnes. Yn wir, mae Sony yn enghraifft dda: mae tri o’r pum person ar y bwrdd gweithredol yn gyn brentisiaid.

A dyna beth mae’r Prif Weinidog yn ei olygu pan mae’n dweud y dylai cyflogwyr allu edrych ar rywun sydd â phrentisiaeth a rhywun sydd â gradd a pheidio â rhoi barn ar werth o ran pwy sydd â’r cymhwyster gorau.

Rydym yn codi statws addysg alwedigaethol.

Fel y dywedodd David Cameron: “Mae prentisiaethau wrth galon ein cenhadaeth i ailadeiladu’r economi, gan roi cyfle i bobl ifanc ddysgu crefft, datblygu eu gyrfaoedd a chreu gweithlu gwirioneddol fyd-eang, hyfedr sy’n gallu cystadlu a ffynnu yn y ras fyd-eang ffyrnig sydd ohoni.”

Credaf fod adfer a dyrchafu sgiliau galwedigaethol yn un o brif gyflawniadau’r Llywodraeth Glymblaid hon.

Hyd yn oed yng nghanol anawsterau economaidd, rydym wedi gweld dwy filiwn o brentisiaethau newydd yn cael eu creu. Mae hyn yn weddnewidiol – ac rydym yn benderfynol o fynd ymhellach. Yn wir, mae’r Prif Weinidog am weld tair miliwn o brentisiaethau newydd yn cael eu creu erbyn 2020.

Ond nid y cynlluniau prentisiaeth o’r radd flaenaf a gynigir gan gwmnïau fel Airbus a Sony ddylai fod yr enghreifftiau sy’n cael sylw yng Nghymru – y rhain ddylai fod y meincnod – safon rhagoriaeth yng Nghymru ar gyfer pob prentisiaeth.

Mae hynny’n bod yn uchelgeisiol.

Ac felly mae angen ymrwymiad arnom gan Lywodraeth Cymru sydd o leiaf yr un mor gryf â’r un sy’n cael ei roi gan ein Prif Weinidog ar gyfer ehangu nifer y prentisiaethau ledled Cymru, a gwella’u hansawdd.

Ond pan fyddwn yn siarad am sgiliau galwedigaethol, rydym wrth gwrs yn aml yn meddwl am sgiliau ymarferol a thechnegol.

Ond un o’r sgiliau galwedigaethol mwyaf pwysig yw gallu darllen ac ysgrifennu’n dda a bod yn hyderus gyda mathemateg sylfaenol. Gwn am gwmnïau lle mae ennill gradd C o leiaf mewn cymhwyster TGAU Mathemateg a Saesneg yn rhan o’u prentisiaethau ar gyfer pobl ifanc. Mae’r rhain hefyd yn sgiliau galwedigaethol.

Ac rydym yn twyllo’n hunain os ydym yn credu na allwn wneud yn well mewn perthynas â lefelau sgiliau sylfaenol y gweithlu ar draws y DU. Dyna’n union beth oedd y Prif Weinidog yn cyfeirio ato ddoe pan ddywedodd nad yw cyffredinedd yn dderbyniol – dyma’r trafodaethau anodd rydym yn eu cael ar lefel llywodraeth y DU a dylent fod yn digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru hefyd.

Oherwydd dywed dros 40 y cant o fusnesau yng Nghymru nad oes gan eu gweithwyr y sgiliau llythrennedd sylfaenol gofynnol.

Dyma’r gwirionedd anghyfleus yr ydym naill ai’n ymrwymo i roi sylw iddo yng Nghymru neu – unwaith eto – yn ei anwybyddu oherwydd dyna’r llwybr haws i’w gymryd.

Gadewch inni ystyried astudiaeth ryngwladol yr OECD ar gyflawniad academaidd, Pisa, sy’n cymharu cyflawniad academaidd rhyngwladol.

Unwaith eto, roedd y canlyniadau diweddaraf yn dangos bod Cymru yn gwneud yn salach na gweddill y DU mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.

Ond nid dim ond yn salach na gweddill y DU – ond yn salach na chyfartaledd yr OECD.

Yn hytrach na chael ein cymharu â gwledydd fel Japan, De Korea, UDA a’r Almaen, rydym wedi bod yn gostwng yn y tabl, gan wneud yn waeth nag Estonia, Slofenia, Latfia a Gwlad Pwyl. Dyma’r gwledydd y mae eu pobl ifanc yn cystadlu’n uniongyrchol â’n pobl ifanc ni am swyddi’r dyfodol.

Rwyf am i blant Cymru dyfu yn gwybod y gallent fod yn gweithio ar y Chwiliedydd Gofod Rosetta, neu’n dylunio cerbydau modur y dyfodol, neu’n gweithio yma yn Sony yn datblygu technoleg wych sy’n gwella bywydau pobl mewn ffyrdd gwahanol.

Felly, ar wahân i sgiliau sylfaenol: TG, rhaglennu a pheirianneg meddalwedd sydd ar frig y rhestr blaenoriaethau yng nghyswllt sgiliau Cymru. Bydd y galw am sgiliau gwell a sgiliau lefel uwch yn parhau i dyfu wrth inni ddatblygu’r cynnyrch a’r gwasanaethau yr ydym eu hangen yn yr 21ain Ganrif.

Canfu astudiaeth gan Gomisiwn y DU dros Addysg a Sgiliau fod dros un rhan o dair o fusnesau yng Nghymru yn credu mai TG fydd y sgil bwysicaf y byddant ei hangen yn y dyfodol.

Ond yma yng Nghymru gwelwyd gostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio cyfrifiadureg yn y brifysgol ac yn astudio TG mewn ysgolion.

Mae Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau yn rhagweld y bydd y DU erbyn 2022 angen 2 filiwn yn ychwanegol o reolwyr, gweithwyr proffesiynol a gweithwyr proffesiynol cyswllt.

Mae’r Academi Beirianneg Frenhinol yn amcangyfrif y bydd Prydain angen 640,000 o raddedigion peirianneg newydd erbyn 2020.

Bydd y rhain yn swyddi o safon ac rwy’n llawn uchelgais ac yn awyddus i bobl ifanc Cymru gael eu cyfran deg o’r cyfleoedd hyn. Ond wrth edrych ar nifer y disgyblion yng Nghymru sy’n astudio Mathemateg neu’r gwyddorau ar gyfer Safon Uwch, y gwirionedd eto ydy nad ydy pethau’n edrych yn addawol iddynt heb inni feddwl yn ddifrifol o’r newydd.

Neu ystyriwch sgiliau iaith fodern.

Ychydig flynyddoedd yn ôl y gred oedd mai Saesneg fyddai iaith arferol busnes byd-eang ac y byddai pŵer Microsoft a’r rhyngrwyd yn lleihau’r angen am sgiliau iaith.

Ond i’r gwrthwyneb. Yn yr economi fyd-eang, mae mwy o werth nag erioed yn cael ei roi ar sgiliau iaith.

Dangosai arolwg sgiliau diweddar a gynhaliwyd gan y CBI fod 70 y cant o fusnesau yn gwerthfawrogi sgiliau iaith dramor er mwyn meithrin gwell perthynas â’u cleientiaid, cyflenwyr a chwsmeriaid.

Mae Cymru wedi gweld gostyngiad difrifol yn y nifer sy’n astudio ieithoedd tramor ers diwedd y 1990au – ar gyfer TGAU a Safon Uwch.

[y cyd-destun gwleidyddol wedi’i dynnu]

A’r cymwysterau hyn sy’n rhoi mynediad at gyrsiau gradd, Cynllun Erasmus, a chymaint mwy o gyfleoedd bywyd a gyrfa eraill dramor ar gyfer pobl ifanc Cymru.

Mae gormod o dystiolaeth yn dangos bod disgyblion gorau a mwyaf disglair Cymru yn colli allan ar y cyfleoedd pwysig.

Yn 2013, gostyngodd nifer y myfyrwyr o Gymru a gafodd le yn Rhydychen neu Gaergrawn i’r nifer isaf ers deng mlynedd.

Pobl ifanc talentog Cymru yn colli cyfleoedd.

Ond mae’n llawer mwy na hyn.

Ganrif yn ôl, roedd cymunedau glofaol De Cymru yn buddsoddi llawer o’u harian eu hunain mewn addysg - mewn llyfrgelloedd ac ystafelloedd darllen - er mwyn i’w plant gael mwy o ddewisiadau mewn bywyd a mwy o gyfleoedd.

Roeddynt yn deall dyhead ac uchelgais ac yn gwybod bod addysg yn borth at ddiogelwch ariannol a symudedd cymdeithasol.

Ac yn yr 21ain Ganrif, mae angen inni ofyn a ydym yn dal i ehangu’r cyfleoedd drwy addysg i’r rheini sydd eu hangen fwyaf. Ac fel pobl sy’n caru Cymru, dylem fod yn bryderus iawn fod Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant Alun Milburn y llynedd wedi canfod bod disgyblion sy’n cael cinio ysgol am ddim yn Lloegr 50% yn fwy tebygol o gael 5 TGAU da na disgyblion tebyg yng Nghymru.

Pan nad ydych yn fodlon gofyn y cwestiynau anodd ac ymrwymo i newid pethau lle mae angen gwneud hynny, y rheini yr ydych yn eu methu yw’r rheini nad ydynt wedi cael y manteision gorau mewn bywyd.

Bydd plant i rieni ymroddedig a chyfoethog yn cael eu hail neu drydydd cyfle. Ond i blant nad yw hynny ar gael iddynt, yr ysgol yn aml yw eu prif gyfle a’r cyfle gorau i wella’u bywyd.

I’r disgyblion hynny, nid yw dweud “ni wnaethom gadw’n llygad ar y bêl” fel esgus dros y dirywiad mewn canlyniadau, yn dal dŵr. Mae arnom angen i Weinidogion Cymru goleddu’r agenda hwn yn fwy cadarnhaol.

Yn San Steffan, rydym wedi cael ugain mlynedd o drafod a dadlau caled am safonau ysgol, strwythurau ysgol, arweinyddiaeth ysgolion, dewis rhiant - pob agwedd ar y system addysg. Ac er inni weld rhai gweddnewidiadau arbennig drwy’r rhaglen academïau, mae’r Prif Weinidog yn dal yn barod – fel y gwnaeth ddoe – i sefyll o blaid rhieni a disgyblion a dweud “nid yw digonol yn unig yn ddigon da”, ac na fyddwn yn goddef cyffredinedd a diffyg uchelgais yn y system.

Dyna, mi gredaf, yw’r math o onestrwydd a’r lefel ymrwymiad i addysg y mae arweinwyr busnes a rhieni am ei weld gan Weinidogion Cymru hefyd.

A’r gwir ydy mai yma yng Nghymru nid dim ond nad oes diwygiadau wedi cael eu gwneud yw’r broblem ond nad ydym wedi dechrau cael y ddadl honno hyd yn oed.

Oherwydd mae arweinyddiaeth gref yn golygu gofyn y cwestiynau anodd hyn a’u hwynebu’n gadarn.

Ac nid yw ceisio atal y ddadl ac osgoi cytundeb cadarn yn arwydd o gwbl o gariad at Gymru.

Mae rhieni, disgyblion ac athrawon Cymru yn haeddu gwell.

Un o gryfderau mawr Cymru ydy’r ffaith ei bod yn wlad sy’n llai rhanedig yn gymdeithasol na rhannau eraill o’r DU. Yng Nghymru mae gennym fwy o ddiddordeb yn cael gwybod i ble rydych yn mynd nag o lle rydych yn dod.

Mae’n ffaith nad oes neb yn rhoi sylw iddo fod Prif Weinidog Cymru a minnau wedi cael ein haddysg mewn ysgolion cyfun yn Ne Cymru. A dyna sut y dylai fod.

Cawsom gymorth gan addysg wladol ardderchog yma yng Nghymru – a llawer mwy fel ni.

Ac rwy’n gwybod ei fod yntau’n rhannu fy uchelgais ar gyfer economi Cymru.

Ond mae’n rhaid i’r uchelgais economaidd hwn gynnwys gweledigaeth o ragoriaeth ac uchelgais yn ei hysgolion ac yn ein system addysg.

Mae gennym athrawon arbennig yng Nghymru; a phenaethiaid ysbrydoledig y mae eu harweinyddiaeth yn gwneud gwahaniaeth - fel Heather Vaughan yn ysgol gynradd St Woolas yng Nghasnewydd; mae gennym fyfyrwyr hynod alluog fel Ellie Atkinson sydd newydd gael cynnig lle yn Yale yn yr Unol Daleithiau.

Mae gennym lawer iawn i fod yn gadarnhaol yn ei gylch. Does neb yn ceisio tanseilio hyn.

Ond gallwn wneud yn llawer gwell.

Ac mae’r uchelgais cyson hwnnw a’r gwaith o geisio rhagor o welliant yn nodwedd o addysg wych a’r economïau hynny a fydd yn arwain y ffordd yn yr 21ain ganrif.

Nid yw hon yn ddadl braf i’w chael. Ond mae’n rhaid inni ddechrau gofyn y cwestiynau hyn er budd rhieni, athrawon a disgyblion Cymru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Chwefror 2015 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.