Araith Ysgrifennydd Cymru yn derbynfa Dydd Gwyl Dewi
Alun Cairns yn croesawi Cymru i Stryd Downing
Brif Weinidog, Foneddigion a Boneddigesau,
dweud wnes i fod heddiw’n ddiwrnod andros o bwysig. Dyma’n cyfle i ddathlu, tanlinellu a dangos ein parch at genedl orau’r byd! Mae gennyn ni ein hiaith ein hunain, ein hanes a’n diwylliant.
Wedi’r cwbl, mae gennyn ni fwy o gestyll am bob milltir sgwâr na’r un wlad arall.
Petaech chi gwastatau ein mynyddoedd, bydden ni’n fwy na Lloegr.
Ac mae’r Gymraeg ymysg yr ieithoedd byw hynaf yn Ewrop – a gyda’ch croeso chi, Brif Weinidog, mae cynifer o bobl wedi teithio i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yma yn Rhif 10 - dydw i ddim yn meddwl bod y waliau wedi clywed cymaint o Gymraeg ers y dyddiad pryd roedd Lloyd George yn byw yma!
Does dim rhyfedd bod ein hallforion yn cynyddu mor sydyn cystal yw ansawdd y cynnyrch sydd ar gael yma heddiw.
Ac mae Cor y Boro (Cor y Borough) o Lundain a’r telynor Rhys Wardough o Fro Morgannwg yn enghreifftiau rhagorol o’n harlwy diwylliannol anhygoel.
Rydw i’n cael y fraint o weld y pwys rydych chi’n ei roi ar bob rhan o’r Deyrnas Unedig, Brif Weinidog, ond mae’r derbyniad hwn yn dangos eto i’r cyhoedd y parch a’r pwyslais arbennig gennych chi i bob un o bedair gwlad ein Hundeb annwyl.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, Rydyn ni wedi cael y pleser o weld ein harlwy gorau ym maes chwaraeon a diwylliant – o Opera i Bêl-droed neu rygbi. – Ac rydw i’n siŵr y byddwch chi’n cytuno bod hwnna’n gais yn Twickenham bythefnos yn ôl!
Wrth gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf rydyn ni wedi cael ein cyffwrdd gan hanesion dewr y Cymry a frwydrodd dros ein rhyddid
A dim ond ychydig wythnosau yn ôl, cefais i’r fraint o fod yr Aelod Seneddol cyntaf erioed i wneud araith yn y Gymraeg mewn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin.
A chyn i ni edrych tua’r dyfodol, rhaid i ni gofio ein gwreiddiau a’n treftadaeth, mae’n werth cofio’r hyn a ddywedodd Dewi Sant sef Byddwch lawen. Cadwch eich ffydd a’ch cred a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf fi’.
Ac wrth edrych tua’r dyfodol – ymysg y llu o ymrwymiadau polisi cyffrous i Gymru - i helpu i dyfu ein heconomi a gwella’r ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau – Roedd y wlad i gyd yn falch dros ben pan wnaethoch chi gytuno y bydd rhwystr Toll Hafren wrth ddod i mewn i Gymru wedi cael ei ddileu erbyn yr adeg pryd byddwn ni’n cwrdd y flwyddyn nesaf.
Foneddigion a Boneddigesau, dyma’r Prif Weinidog.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2018Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Mawrth 2018 + show all updates
-
Translation added
-
First published.