Araith i'r Cynulliad Cenedlaethol
Stephen Crabb yn gosod allan rhaglen ddeddfwriaethol gyntaf y Llywodraeth
Cyflwyniad
Diolch yn fawr, Fadam Lywydd.
A gaf fi ddechrau drwy ddweud cymaint o fraint yw hi i fod yma yn adeilad gwych y Senedd ar gyfer y ddadl hon ar raglen ddeddfwriaethol gyntaf Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig - rhaglen Un Genedl sy’n ceisio cryfhau’r Deyrnas Unedig gyfan.
Dyma fy nghyfle cyntaf i gymryd rhan yn nhrafodion y Cynulliad, ac rwy’n falch o gyfleu dymuniadau da iawn fy nau Is-ysgrifennydd Gwladol yn Swyddfa Cymru - y naill a’r llall gynt o’r parthau hyn, ac a fydd yn gyfarwydd iawn i bawb ohonoch.
Mae hi bron i flwyddyn ers i mi gael fy mhenodi’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Ar y pryd, roedd aelodau Llywodraeth Glymblaid y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, yn enwedig y Prif Weinidog, yn rhan o’r ymgyrch i annog yr Alban i aros yn y Deyrnas Unedig.
Rwy’n sylweddoli nad oedd pob Aelod o’r lle hwn a aeth i fyny i’r Alban i ymgyrchu ar yr un ochr i’r ddadl. Ond byddaf yn cofio am byth sefyll yn y Senedd yn Holyrood gyda Ruth Davidson ar un o fy ymweliadau yno ychydig ddyddiau cyn y bleidlais, wrth i grwpiau ysgol gael eu tywys ar deithiau o amgylch y siambr, a myfyrio ar y foment ryfeddol roeddem yn rhan ohoni.
Fe’m trawodd nad oedd amheuaeth o gwbl y byddai lle’r Senedd honno’n dod yn fwyfwy pwysig ym mywyd cenedl yr Alban beth bynnag fyddai canlyniad y bleidlais y dydd Iau hwnnw, a’i bod yn anorfod y byddai awdurdod a rôl y Senedd honno fel corff deddfu ac fel fforwm trafod a dadlau a datrys cenedlaethol yn siŵr o dyfu.
A dyna dynged y Cynulliad Cenedlaethol hwn hefyd, mi gredaf.
Bod yn Senedd.
Mae’r Senedd hon, wedi’r cyfan, yn fan y mae fy mhlant fy hun yn ymweld â hi ar eu tripiau gyda’r ysgol a’r Urdd i ddysgu am ddemocratiaeth yng Nghymru; Dyma’r fan lle safodd y Prif Weinidog a minnau ochr yn ochr â phlant ysgol o Gaerdydd a gwylio’r arddangosiad rhyfeddol hwnnw yn yr awyr i nodi diwedd uwchgynhadledd NATO fis Medi diwethaf; dyma’r fan lle daeth aelodau o’r gymuned Ffrengig ynghyd ag uwch Rabbi Cymru ac Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslimiaid Cymru ddiwrnodau ar ôl erchyllterau terfysgol Charlie Hebdo ym Mharis – lle i alaru a sefyll gyda’n gilydd; ac i’r Senedd hon y daw cymunedau o bob rhan o Gymru i brotestio ynghylch newidiadau i’w gwasanaethau ysbyty.
Oherwydd go brin fod Senedd heb brotestiadau yn Senedd o gwbl.
Yn gynyddol ac yn ddiamheuol, mae hwn yn fan ymgynnull pwysig: yn lle trafod a gwneud penderfyniadau, yn symbol o fywyd cenedlaethol Cymru.
Ac rwy’n sefyll yma brynhawn heddiw yn cydnabod bod y drefn hon rwy’n cydymffurfio â hi - dod yma i siarad am Araith Rasol Ei Mawrhydi - a ragwelwyd ac y deddfwyd ar ei chyfer yn y dyddiau pan oedd Cynulliad deddfwriaethol cryf i Gymru yn ymddangos yn bell i ffwrdd - yn dipyn o anacroniaeth. Bargod o gyfnod arall.
Madam Lywydd, rwy’n gwybod bod hyn yn rhywbeth rydych chi a minnau wedi siarad amdano droeon, ac felly byddwch yn falch o glywed fy mod yn bwriadu diddymu’r drefn hon fel rhan o’r Bil Cymru arfaethedig a gyhoeddwyd yn yr Araith Rasol fis diwethaf.
Rwy’n siŵr y dewch o hyd i lawer gwell ddefnydd ar gyfer y sedd hon.
Ond dychwelaf at Fil Cymru yn y man.
Araith y Frenhines
Madam Lywydd, datganiad o fwriad Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig yw helpu pobl sy’n gweithio, hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ac uno holl bobloedd ein cenedl.
Drwy araith y Frenhines fis diwethaf, cyhoeddom ein rhaglen ddeddfwriaethol i adeiladu ar y gwaith pwysig y bu i ni ddechrau arno bum mlynedd yn ôl i wella bywydau pawb yn ein gwlad, a hoffwn grynhoi’r hyn rwy’n credu y mae hyn yn ei olygu i Gymru.
Araith y Frenhines: Helpu pobl sy’n gweithio a chyfiawnder cymdeithasol Yn gyntaf, rwy’n falch o fod yn rhan o Lywodraeth sydd wedi goruchwylio sawl cwymp nodedig mewn diweithdra ar draws y Deyrnas Unedig ac yn enwedig yma yng Nghymru ers 2010. Rhan gwbl ganolog o’n rhaglen yn y Senedd hon yw gweld hynny’n parhau, ac felly byddwn yn cyflwyno ein Bil Cyflogaeth Lawn a Budd-daliadau Lles i helpu rhagor o bobl i fanteisio ar y cyfleoedd gwaith a bywyd a ddaw yn sgil gwaith newydd.
Nid oes dim yn bwysicach i mi na gweld Cymru’n rhannu ffrwyth adferiad economaidd y Deyrnas Unedig yn llawn.
Ers 2010, mae 34,000 yn llai o blant yng Nghymru yn cael eu magu mewn cartrefi lle nad oes yr un rhiant yn gweithio. Mae hynny’n hollol drawsnewidiol i’r bywydau hynny – i’r unigolion a’r teuluoedd hynny sy’n cael eu magu yn gweld model rôl yn mynd i weithio ac yn dod â chyflog adref, gan dorri rhwystrau symudedd cymdeithasol.
Ac felly yn y Senedd hon byddwn yn parhau i ddiwygio lles, annog cyflogaeth drwy gapio budd-daliadau a’i gwneud yn ofynnol i bobl ifanc ennill cyflog neu ddysgu.
Byddwn yn parhau i wobrwyo gwaith caled drwy helpu pobl i gadw rhagor o’r arian maent yn ei ennill. Drwy’r Bil Cyllid byddwn yn codi lwfans personol di-dreth i £10,600 flwyddyn nesaf ac i £12,500 erbyn diwedd y Senedd hon. A gadewch i ni fod yn glir ynghylch yr hyn y mae hynny’n ei olygu…. pobl ar yr incwm isaf yn talu llai o dreth: rhagor o arian yn mynd yn ôl at y bobl sydd ei angen fwyaf.
Byddwn hefyd yn deddfu i wneud yn siŵr nad yw’r bobl hynny sy’n gweithio 30 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog yn talu unrhyw dreth incwm o gwbl, a byddwn yn pasio deddf i sicrhau nad oes unrhyw godiad mewn cyfraddau treth incwm, TAW nac Yswiriant Gwladol yn ystod cyfnod y Senedd hon.
Rhan allweddol o’n cynllun i helpu pobl sy’n gweithio yw’r mesurau y byddwn yn eu cyflwyno i gefnogi busnesau yng Nghymru, - sef y crewyr swyddi go iawn a gwir arwyr yr adferiad economaidd hwn.
Mae tua 230,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru heddiw, cynnydd o 26,000 ers 2010, ac rwyf eisiau gweld y ffigur hwnnw’n codi ymhell dros chwarter miliwn erbyn 2020, gyda phob busnes newydd yn cyflwyno swyddi newydd, cyfleoedd a chyfoeth newydd i’n cenedl.
Ac felly drwy’r Bil Menter byddwn yn torri £10 biliwn oddi ar gostau rheoleiddio i fusnesau, gan helpu cwmnïau i dyfu a chreu swyddi a sicrhau bod Prydain yn parhau i fod yn un o’r economïau mwyaf cystadleuol lle gellir cynnal busnes.
Araith y Frenhines: Un Genedl
Ar wahân i fesurau a fydd yn cryfhau ein cefnogaeth i bobl sy’n gweithio a sicrhau cyfiawnder cymdeithasol drwy dorri cylchoedd dibyniaeth, bydd ein rhaglen ddeddfwriaethol hefyd yn cryfhau’r cysylltiadau sy’n rhwymo gwahanol rannau ein Teyrnas Unedig ynghyd.
Nid oes unrhyw gwestiwn mai un o heriau gwleidyddol strategol allweddol ein gwaith, ochr yn ochr â’r angen i ailadeiladu ein cyllid cenedlaethol a lleihau’r diffyg, yw’r cyfansoddiad, a sut rydym yn cyd-fyw fel teulu o genhedloedd.
Ac felly, amcan hollol greiddiol gan y Llywodraeth yn San Steffan yw ceisio cryfhau’r Deyrnas Unedig yn Un Genedl.
Mae hynny’n golygu ymateb i her cenedlaetholdeb yn uniongyrchol, oherwydd ein bod yn credu’n gryf yn yr Undeb - ar gyfer yr holl fudd a chyfuno risg a’r cyfle mae’n ei gynnig i bawb ohonom - ac rydym yn gwybod nad yw hi wedi darfod ar y Deyrnas Unedig hon.
Datganoli
Ond mae hefyd yn golygu cyflawni ar ddatganoli, nid am ein bod yn meddwl y dylem gwrdd â chenedlaetholwyr hanner ffordd, ond oherwydd mai rhan greiddiol o’n hathroniaeth yw cydnabod, yn enwedig yn yr 21ain ganrif, wrth i rymoedd globaleiddio lunio ac ail-lunio ein byd, mai’r hyn fydd yn allweddol i lwyddiant economaidd ar gyfer cenhedloedd datblygedig fydd gwthio pŵer am i lawr a datganoli.
Mae’n golygu cydnabod nad yw’r model hen ffasiwn o wladwriaeth genedl Fictoraidd, wedi ei chanoli’n helaeth iawn, yn darparu’r modd i wasgaru grym a gwneud penderfyniadau sydd ei angen mewn oes pan fo gwybodaeth, deallusrwydd a chyfalaf yn symud ar garlam.
Ynghyd â hynny mae rhagor o gydnabyddiaeth, a fu ers degawdau bellach, na allwn barhau ag economi’r Deyrnas Unedig yn dod yn gynyddol unochrog, gyda Llundain a de ddwyrain Lloegr yn brif gynhyrchydd cyfoeth a thwf ar gyfer y Deyrnas Unedig – a’r ardal honno’n edrych yn gynyddol fel dinas-wladwriaeth ynddi’i hunan.
Fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i ymateb i’r angen ymarferol ar frys i adfer cydbwysedd ein heconomi, fel bod cyfoeth yn cael ei greu a’i ddosbarthu yn llawer mwy cyfartal a theg ar draws y Deyrnas Unedig
Bil Cymru
Ac felly byddwn yn anrhydeddu’r ymrwymiadau a wnaethom i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y Senedd ddiwethaf. Yn yr Alban, byddwn yn cadw at ein haddewidion i ddatganoli rhagor o bwerau sylweddol i Senedd yr Alban yn unol ag argymhellion Comisiwn Smith. Yng Ngogledd Iwerddon, byddwn yn bwrw ymlaen â Chytundeb Tŷ Stormont er mwyn helpu i greu dyfodol mwy llewyrchus, sefydlog a diogel ar gyfer pobl yno.
Ac yn hollbwysig ar gyfer siambr hon, byddwn yn gweithredu Cytundeb Dydd Gŵyl Dewi i fynd ati i ail-ysgrifennu’r setliad datganoli ar gyfer Cymru yn sylfaenol, i’w wneud yn gliriach, yn gryfach ac yn decach. Roedd hwn yn ymrwymiad clir yn ein maniffesto ac yn un y byddwn yn ei gyflawni - yn llawn.
Yn ôl ym mis Hydref, pan ofynnodd y Prif Weinidog i mi yn ystod yr oriau ar ôl y refferendwm yr Alban i edrych eto ar setliad datganoli Cymru, rwy’n gwybod bod rhai yn y siambr hon a oedd yn amau lle byddai proses Dydd Gŵyl Dewi yn arwain.
Ond o’r eiliad y sychodd yr inc ar y ddogfen Pwerau at Bwrpas a gyhoeddom ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, cynullais dîm o swyddogion yn Swyddfa Cymru i ddechrau drafftio’r ddeddfwriaeth newydd. Ac felly rwy’n bwriadu cyhoeddi Bil Cymru ar ffurf drafft yn ystod yr hydref eleni ar gyfer craffu cyn y broses ddeddfu, cyn ei gyflwyno i’r Senedd yn gynnar y flwyddyn nesaf. Bydd yn rhywbeth a alwn yn ‘Fil parhad’ y bydd angen cwblhau ei daith yn ystod ail flwyddyn y Senedd hon, a chael Cydsyniad Brenhinol erbyn dechrau 2017.
Ac i’r lleisiau hynny sy’n mynegi pryder nad yw Bil Cymru yn symud mor gyflym â deddfwriaeth yr Alban - gadewch i ni fod yn gwbl glir ynghylch graddfa’r hyn rydym yn ei wneud yma. Nid atodiad i’r trefniadau presennol ar gyfer Cymru yw hwn, na rhyw fath o ategyn ychwanegol – mae’r hyn rydym yn dechrau arno yn golygu ail-ysgrifennu’r setliad datganoli ar raddfa sylfaenol, y pecyn mwyaf pellgyrhaeddol ac arwyddocaol o bwerau a ddatganolwyd i Gymru erioed. Ac rwyf wedi bod yn glir o’r diwrnod cyntaf y byddaf yn cymryd yr amser sydd ei angen i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn iawn.
Oherwydd pan fyddwn yn sôn am fodel cliriach, cryfach a thecach o ddatganoli - sydd wrth wraidd ein pecyn Dydd Gŵyl Dewi - rydym yn golygu cliriach o ran egluro cyfrifoldebau drwy fodel cadw pwerau newydd; cryfach, drwy ddarparu pwerau a chymwyseddau newydd i’r lle hwn ac i’r Gweinidogion; ac, yn hollbwysig, yn decach, drwy fwrw ymlaen â’n hymrwymiad cyllido teg a mynd i’r afael â’r gwendidau o ran sut mae fformiwla Barnett yn gweithredu ar gyfer Cymru.
Madam Lywydd, rwy’n falch mai fi yw Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru i fynd i’r Trysorlys, i ddadlau’r achos dros gyllid teg i Gymru a sicrhau’r ymrwymiad hanesyddol hwnnw i arian gwaelodol - fel y cynigiwyd yng Nghomisiwn Holtham.
Ond rwy’n credu ei bod yn bryd i Lywodraeth Cymru ddangos ei hymrwymiad ei hun i’r pecyn cyfan drwy wneud cynnydd ar y pwerau codi treth incwm sydd ar gael iddi’n barod.
Nid oes Senedd arall yn y byd nad yw’n gyfrifol am godi arian yn ogystal â’i wario.
Ym 1773 chwalodd y ‘Meibion Rhyddid’ y llongau te yn Harbwr Boston gyda’r alwad i uno “Dim trethiant heb gynrychiolaeth”. Wel, yma yng Nghymru mae gennym sefyllfa o chwith, braidd: cynrychiolaeth a phwerau deddfu llawn ond heb gyfrifoldeb ar gyfer trethiant arwyddocaol. Rhan greiddiol o ymddangosiad democratiaeth oedd perthynas gyfunedig rhwng deddfu a chodi arian i ategu’r ddeddfwriaeth honno – rhywbeth canolog i atebolrwydd democrataidd.
Madam Lywydd, mae hwn yn becyn o ddatganoli i Gymru. Ac os oes unrhyw un yma yn meddwl y gellir datgymalu’r pecyn hwn rywsut, neu y gellir chwarae gemau gwleidyddol gydag unrhyw ran ohono, yna maent mewn perygl o gamddeall yn ddybryd yr hyn rydym yn ceisio ei gyflawni yma, a beth yw’r cyfle i ni yng Nghymru.
Mae’r cyfle i sefydlu setliad datganoli, na fydd yn mynd mor bell ag y byddai Plaid Cymru neu rai pobl eraill yn ei hoffi, efallai, ond sydd, yn fy marn i, yn adlewyrchu lle mae barn gyhoeddus Cymru ar hyn o bryd i gyflawni canlyniad ein Refferendwm ein hunain yn 2011 pan - drwy fwyafrif o ddwy i Un – y dywedodd pobl Cymru ‘ie’ i Gynulliad deddfu llawn. Ond gan gydnabod hefyd bod cefnogaeth ar gyfer annibyniaeth a chwalu’r Undeb ar lefel is nag erioed, bron â bod, yng Nghymru.
Gan fy mod yn credu’n gryf bod y cyhoedd yng Nghymru yn dyheu i ni symud ymlaen fel cenedl ac i’r lle hwn - y Cynulliad Cenedlaethol hwn, y Senedd hon - ddod yn fforwm go iawn ar gyfer trafod, datrys ac ymdeimlad o bwrpas a gweithredu, yn fynegiant o’n huchelgais cenedlaethol ar gyfer twf economaidd, creu cyfoeth, cyflawniadau addysgol, canlyniadau iechyd o’r radd flaenaf er mwyn iddo ddarparu atebion ar yr holl faterion sy’n wirioneddol bwysig i’r bobl y mae’n eu gwasanaethu, nid yn gyfrwng ar gyfer sgwrs ddiddiwedd am ragor o bwerau, neu gynhyrchu consensws diflas sy’n bodloni ar gyffredinedd, lle mae cyllid yn cael ei ddefnyddio bob amser fel yr esgus cenedlaethol mawr dros beidio â chyflawni ein potensial.
Efallai y bydd yn peri tipyn o syndod i chi, Madam Lywydd, na holwyd fi unwaith ar yr un garreg drws ledled Cymru ynghylch rhagor o bwerau neu ddatganoli yn ystod yr ymgyrch etholiadol diweddar.
Mewn gwirionedd, mae pawb ohonom yn gwybod yr hyn roedd y pleidleiswyr yn dymuno ei drafod.
Ac mae’r datgysylltiad a’r gagendor rhwng eu pryderon a’r hyn y mae sylwebyddion Cymru yn canolbwyntio arno bob dydd yn enfawr.
Lleoliaeth
Ac oherwydd ein bod ni yng Nghymru yn treulio’r holl amser yn siarad am ddatganoli rhagor o bwerau i’r Cynulliad, rydym mewn perygl o golli’r cyfleoedd cyffrous sy’n trawsnewid rhagolygon economaidd a chymdeithasol rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.
Rydym ni yng Nghymru mewn perygl o gael ein hongian ar hen fodel o ddatganoli o’r 20fed ganrif. Ar yr un pryd, rydym yn gweld lleoliaeth a datganoli, datganoli is-genedlaethol, yn ffynnu ar draws gweddill y Deyrnas Unedig mewn ffyrdd na fyddai llawer iawn o bobl wedi gallu ei ragweld yn cael ei ddarparu o Whitehall. A bydd ein Bil Datganoli a Lleoliaeth newydd a gyhoeddwyd yn yr Araith Rasol yn mynd â’r dull radical hwnnw i lefel newydd.
Madam Lywydd, pan fyddaf yn gweld cynghorau cryf dan ofal Llafur yn taro bargeinion gyda Changhellor y Trysorlys a’r Trysorlys mewn lleoedd fel Manceinion a Newcastle, neu yn Glasgow - yr holl ardaloedd metro hynny sydd â phoblogaethau nad ydynt yn annhebyg i Gymru, gan ddatgloi eu potensial i sbarduno arloesi, twf a chynhyrchiant newydd ar gyfer eu rhanbarthau, nid wyf eisiau gweld Cymru yn cael ei gadael ar ôl.
Oherwydd dylai’r un synnwyr hwnnw o ddatganoli, grymuso a gwthio pwerau i lawr i gymunedau fod yn nodweddiadol o’r lle hwn hefyd.
Ac felly bydd Bargen Dinas Caerdydd yn brawf litmws o ddau beth i ni wleidyddion o Gymru: Bydd yn datgelu a ydym ni yng Nghymru yn deall yr agenda ddatganoli a’r cyfleoedd cyffrous y mae’n eu cyflwyno o ran adnewyddiad economaidd a dinesig yma yng Nghymru. Ac yn hanfodol, bydd hefyd yn brawf o’n pragmatiaeth wleidyddol.
Rydym yn genedl fach ac rwy’n credu bod gennym rym mwy na’n maint ni pan fyddwn yn cydweithio. Nid wyf yn credu bod rhyfela llwythol hen ffasiwn gwleidyddiaeth Cymru wedi bod o fudd mawr i Gymru dros y blynyddoedd, ac nid wyf yn credu mai dyna beth mae’r rhan fwyaf o bobl Cymru yn dymuno ei gael gan eu gwleidyddion mewn gwirionedd – yn sicr, dyna’r neges a glywaf yn uchel ac yn glir gan y gymuned fusnes sydd eisiau gweld pragmatiaeth a chydweithio yn dod yn rai o nodweddion gwleidyddiaeth Cymru. Ac mae’r dull hwnnw’n sicr yn un rwy’n ceisio ei gyflawni yn ystod fy nghyfnod fel Ysgrifennydd Cymru.
Ac felly, ar ôl i Fil Cymru gael ei basio, bydd y baich yn disgyn ar y lle hwn i fwrw ymlaen â’r agenda leoliaeth ddeinamig sy’n trawsnewid rhagolygon economaidd dinasoedd, rhanbarthau a siroedd yn Lloegr.
Ond gallaf gyhoeddi heddiw, fel cam cyntaf, y byddwn yn datganoli’r broses o wneud penderfyniadau ar geisiadau am bob fferm wynt ar y tir - waeth beth yw’r capasiti cynhyrchu - i lawr i’r lefel leol drwy’r Bil Ynni a’r ddeddfwriaeth gysylltiedig… gan gynnwys yma yng Nghymru.
Bydd y newid hwn yn rhoi rhagor o lais i bobl leol ynghylch a ddylid adeiladu ffermydd gwynt yn eu hardaloedd. Ac yn unol â naws Cytundeb Dydd Gŵyl Dewi, mater i’r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru fydd penderfynu sut dylid ymdrin â’r ceisiadau hyn yn y dyfodol ac a ddylent aros ar y lefel leol.
Casgliad
Credaf fod pob un ohonom yn y Siambr hon yn rhannu gweledigaeth gyffredin ar gyfer Cymru: Cymru sy’n hyderus, yn allblyg ac yn fwy o rym nag y byddai ei maint yn ei awgrymu yn yr economi fyd-eang.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dechrau ar raglen ddeddfwriaethol gyffrous i helpu i wireddu’r dyhead hwnnw, ond er mwyn i Gymru lwyddo o ddifri, rhaid i hon fod yn fenter ar y cyd ar y naill ben a’r llall i’r M4.
Nid wyf eisiau gweld Cymru ar ei hôl hi. Ac felly rwyf yn dod yma heddiw i ddweud ei bod yn bryd i ni roi terfyn ar y drafodaeth ddi-baid am ragor o bwerau sydd wedi nodweddu gwleidyddiaeth Cymru am yr 16 mlynedd ddiwethaf.
Rwy’n gwrthod y syniad bod datganoli yn daith ddiddiwedd o ryw fath. Mae pobl Cymru wedi gwrthod annibyniaeth ac maent yn blino ar y diffyg cysylltiad gwleidyddol maent yn ei weld rhwng y materion sy’n bwysig iddynt hwy a’r ddadl am ddatganoli sy’n ymddangos fel pe bai hi’n ddiddiwedd y maent yn ein gweld ni’n ymwneud â hi.
A bydd yr hyn fydd yn atgyfnerthu rôl y Cynulliad hwn ym mywyd cenedlaethol Cymru yn fwy na dim ond newid ei enw i Senedd (y bydd gennych y pŵer i’w wneud yn y dyfodol); yn fwy nag unrhyw becyn o gymwyseddau datganoledig newydd o Lundain i Gaerdydd; yn fwy na galluogi pobl 16 a 17 oed i bleidleisio yng Nghymru (unwaith eto, y bydd gennych y pŵer i’w wneud yn y dyfodol), ac yn fwy hyd yn oed na rhoi terfyn ar yr Ysgrifennydd Gwladol yn dod yma bob blwyddyn i drafod araith y Frenhines; bydd yn digwydd pan fydd pobl ym mhob rhan o Gymru - yn enwedig y rhai sy’n teimlo fwyaf pell o Gaerdydd, yn y gogledd ac yn y gorllewin, yn cydnabod bod y Cynulliad hwn yn gwbl hanfodol i fynd i’r afael â’r materion canolog sydd o bwys i’w bywydau - nid dim ond fforwm ar gyfer cwyno, ond talwrn penderfynu a gweithredu.
Madam Lywydd, rwy’n credu y bydd Bil newydd Cymru, a gyhoeddwyd yn araith Ei Mawrhydi fis diwethaf, wedi ei hategu gan gyllid teg a phwerau trethu newydd, yn cynnig y cyfle i Gymru symud ymlaen o’r ddadl am bwerau ac edrych tuag allan ac at i fyny.
Diolch i chi am y cyfle hwn i siarad heddiw.