Cwmnïau corfforaethol yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Ionawr i Fawrth 2018
Datganiad chwarterol yn rhoi gwybodaeth am nifer y cwmnïau ar y gofrestr, cwmnïau sydd newydd eu corffori a chwmnïau sydd wedi’u tynnu o’r gofrestr.
Dogfennau
Manylion
Mae Tŷ’r Cwmnïau yn cynhyrchu adroddiadau chwarterol am y cwmnïau hynny sydd newydd eu corffori ar y gofrestr ac sy’n cael eu tynnu o’r gofrestr, a meintiau’r gofrestr gyfan a’r gofrestr effeithiol. Rhoddir gwybodaeth ychwanegol am ddiddymiadau cwmnïau a gweithdrefnau ansolfedd eraill.
Rhoddir gwybodaeth am bob cwmni, am gwmnïau cyhoeddus ac am bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PAC). Mae’r tablau’n ymdrin â’r Deyrnas Unedig yn gyfan, a Chymru a Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn unigol.
Mae’r adroddiad ystadegol llawn ar gael ar hyn o bryd yn Saesneg yn unig. Yn y dyfodol, os hoffech chi weld cyfieithiad Cymraeg o fersiynau’r adroddiad hwn, anfonwch e-bost at [email protected].
Ystadegau blaenorol
Gallwch ddarllen datganiadau ystadegau blaenorol ar gyfer cwmnïau corfforedig, neu gellir gweld sganiad o ddatganiadau ystadegau blynyddoedd blaenorol ar Yr Archifau Gwladol.