Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ebrill 2016
Cyhoeddwyd 14 Mehefin 2016
1. Prif ystadegau
Ar gyfer Ebrill 2016:
- pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £209,054
- y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 8.2%
- y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.6%
- y ffigur mynegai misol ar gyfer y DU oedd 109.6 (Ionawr 2015 = 100)
2. Datganiad economaidd
Mae’r pwysau parhaus ar brisiau yn y farchnad dai wedi mynd law yn llaw â dangosyddion galw cryf o’i gymharu â dangosyddion cyflenwi yn y misoedd diwethaf. Fodd bynnag, yn dilyn cyfraddau uwch o Dreth Tir Toll Stamp a Threth Trafodion Tir ac Adeiladau ar eiddo ychwanegol yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, ceir arwyddion bod y farchnad yn arafu yn Ebrill 2016.
Mae’n ymddangos bod amseriad y dreth tir toll stamp wedi arafu galw yn ystod y mis, ond mae hyn yn dilyn cyfnod o gynnydd mewn gweithgarwch. Yn dilyn chwe mis o gynnydd olynol, cwympodd nifer y benthyciadau a gymeradwywyd i brynu tai gan 5.8% yn Ebrill 2016 o’i gymharu â’r mis blaenorol, i’w lefel isaf er Mai 2015. Parhaodd nifer gwerthiannau tai y DU i dyfu yn y tri mis hyd at Ebrill 2016 (Chwefror i Ebrill): gan godi gan 8.3% o’i gymharu â’r tri mis blaenorol (Tachwedd i Ionawr), er i werthiannau ostwng gan 45.2% yn Ebrill 2016 o’i gymharu â Mawrth 2016. Mae data Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) hefyd yn awgrymu y lleihaodd y galw gan brynwyr am y tro cyntaf yn Ebrill 2016 yn dilyn cyfnod o dwf parhaus er Mawrth 2015.
Roedd dangosyddion o gyflenwad yn y farchnad dai yn fwy cymysg. Nododd Crynodeb o Amodau Busnes Asiantau Banc Lloegr ar gyfer Mai 2016 brinder o gyflenwad tai marchnad eilaidd, tra nododd RICS i’r cyflenwad cyffredinol (cyfarwyddiadau newydd i werthu) barhau i leihau yn Ebrill. Fodd bynnag, awgrymodd datganiad diweddaraf Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol y cynyddodd allbwn tai a adeiledir o’r newydd gan 3.4% yn y tri mis blaenorol (Ionawr i Fawrth) o’i gymharu â’r un cyfnod flwyddyn yn gynharach.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2016) | £117,524 | -1.0% | 5.9% |
Yr Alban | £138,445 | 1.5% | 3.3% |
Cymru | £139,385 | -1.9% | 1.7% |
Lloegr | £224,731 | 0.7% | 9.1% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £145,149 | 2.3% | 5.8% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £167,762 | 1.6% | 7.8% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £146,712 | 1.6% | 6.0% |
Dwyrain Lloegr | £263,420 | 1.2% | 13.6% |
De Ddwyrain Lloegr | £301,689 | 0.3% | 12.3% |
De Orllewin Lloegr | £227,404 | -2.8% | 6.0% |
Llundain | £470,025 | 0.6% | 14.5% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £173,321 | 2.2% | 7.1% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £121,719 | -0.9% | 0.1% |
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Ebrill 2016 | Ebrill 2015 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £310,364 | £290,900 | 6.7% |
Tŷ pâr | £197,168 | £181,200 | 8.8% |
Tŷ teras | £171,298 | £157,103 | 9.0% |
Fflat neu fflat deulawr | £187,793 | £173,968 | 8.0% |
Holl | £209,054 | £193,225 | 8.2% |
4.Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
4.1Nifer y gwerthiannau: Chwefror 2016
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Chwefror 2016 | Chwefror 2015 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Lloegr | 56,884 | 56,261 | 1.1% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2016) | 5,272 | 4,555 | 15.7% |
Yr Alban | 5,507 | 5,113 | 7.7% |
Cymru | 2,796 | 2,686 | 4.1% |
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Chwefror 2016
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £254,604 | 4.6% | 10.2% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £205,914 | 0.3% | 8.0% |
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £176,773 | 0.9% | 8.2% |
Cyn berchen-feddiannydd | £242,109 | 0.4% | 8.4% |
7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.
Statws ariannu | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £198,492 | 0.0% | 7.3% |
Morgais | £218,490 | 0.9% | 8.8% |
8. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai’r DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Mynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai y DU.
10. Cysylltu
Eileen Morrison, Data Services Team Leader, HM Land Registry
E-bost [email protected]
Telephone 0300 006 5288
Aimee North, Head of Housing Market Indices, Office for National Statistics
E-bost [email protected]
Telephone 01633 456400
Ciara Cunningham, Statistician for the Northern Ireland HPI
E-bost [email protected]
Telephone 028 90 336035