Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Awst 2022
Cyhoeddwyd 19 Hydref 2022
1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2022
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £295,903
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 13.6%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.9%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 155.2
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Medi 2022 am 9.30am dydd Mercher 16 Tachwedd 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai y DU gan 13.6% yn y flwyddyn hyd at Awst 2022, i lawr o 16.0% yng Ngorffennaf 2022. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.9% rhwng Gorffennaf ac Awst 2022, i lawr o gynnydd o 3.0% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Gorffennaf ac Awst 2021).
Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yn Ne Orllewin Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 17.0% yn y flwyddyn hyd at Awst 2022. Roedd y twf blynyddol lleiaf yn Llundain, lle cynyddodd prisiau gan 8.3% yn y flwyddyn hyd at Awst 2022.
Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Awst 2022 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod ymholiadau gan brynwyr newydd yn parhau i leihau, a bod cyflenwad ar y farchnad yn parhau i fod yn gyfyngedig.
Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2022 Chwarter 3 fod y galw am eiddo yn parhau i fod yn fwy na’r cyflenwad. Fodd bynnag, roedd darpar brynwyr tai yn fwy gofalus erbyn hyn oherwydd pryderon ynghylch y cynnydd mewn costau byw.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Awst 2022, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 104,980. Mae hyn 7.6% yn uwch na flwyddyn yn ôl (Awst 2021). Rhwng Gorffennaf ac Awst 2022, cynyddodd trafodion y DU gan 1.1% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.
Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Awst 2022 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu’n sydyn i 74,300 yn Awst 2022 o 63,700 yng Ngorffennaf 2022. Mae hyn yn uwch na’r cyfartaledd 12 mis cyn y pandemig hyd at Chwefror 2020 o 66,800.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 13.6% yn y flwyddyn hyd at Awst 2022, i lawr o 16.0% yng Ngorffennaf 2022.
Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Awst 2022 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 14.6%.
Yn Lloegr, cynyddodd prisiau tai gan 14.3% yn y flwyddyn hyd at Awst 2022.
Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 9.7% yn y flwyddyn hyd at Awst 2022.
Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 9.6% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2022.
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £220,059 | 0.2% | 14.6% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2022) | £169,063 | 3.2% | 9.6% |
Lloegr | £315,965 | 1.0% | 14.3% |
Yr Alban | £195,391 | 0.2% | 9.7% |
De Ddwyrain Lloegr | £406,981 | 1.4% | 14.8% |
De Orllewin Lloegr | £335,927 | 1.3% | 17.0% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £255,114 | 2.3% | 16.9% |
Dwyrain Lloegr | £364,885 | 1.2% | 14.3% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £255,202 | -0.2% | 13.9% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £164,395 | 0.9% | 14.3% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £219,025 | 0.4% | 15.3% |
Llundain | £552,755 | 0.9% | 8.3% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £212,313 | 0.8% | 13.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.9% rhwng Gorffennaf 2022 ac Awst 2022, i lawr o gynnydd o 3.0% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Gorffennaf 2021 ac Awst 2021). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.1% rhwng Gorffennaf 2022 ac Awst 2022.
Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Awst 2022 | Awst 2021 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £466,016 | £404,061 | 15.3% |
Tŷ pâr | £285,575 | £250,141 | 14.2% |
Tŷ teras | £241,932 | £212,757 | 13.7% |
Fflat neu fflat deulawr | £238,438 | £216,473 | 10.1% |
Holl | £295,903 | £260,430 | 13.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Gwlad | Mehefin 2022 | Mehefin 2021 |
---|---|---|
Cymru | 2,211 | 6,371 |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2022) | 1,933 | 2,652 |
Lloegr | 41,351 | 145,089 |
Yr Alban | 8,480 | 11,177 |
Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mehefin 2021) â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 0.3% yn Lloegr, lleihaodd gan 21.2% yn yr Alban a chynyddodd gan 12.3% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 19.3% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 2022.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2022, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 53.9% yn Lloegr, 36.9% yng Ngogledd Iwerddon, 47.2% yng Nghymru ac wedi lleihau gan 22.2% yn yr Alban.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Mehefin
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mehefin 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2022, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 4.2% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2022.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 51.7% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2022.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog Mehefin 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £394,707 | 3.0% | 22.5% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £279,121 | 1.2% | 6.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog Awst 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £246,776 | 0.8% | 13.5% |
Cyn berchen-feddiannydd | £347,016 | 1.0% | 14.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
Statws cyllido | Pris cyfartalog Awst 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £280,289 | 1.0% | 13.3% |
Morgais | £309,311 | 0.9% | 14.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 006 5288
Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost aimee.north@ons
Ffôn 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost [email protected]
Ffôn 028 90 336035
Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost [email protected]
Ffôn 07919 570915