Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Awst 2022
Cyhoeddwyd 19 Hydref 2022
1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2022
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £220,059
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 14.6%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.2%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 161.6
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Medi 2022 am 9.30am dydd Mercher 16 Tachwedd 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 14.6% yn y flwyddyn hyd at Awst 2022, i lawr o 17.4% yng Ngorffennaf 2022. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 13.6% yn y flwyddyn hyd at Awst 2022. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.2% rhwng Gorffennaf ac Awst 2022, o’i gymharu â chynnydd o 2.7% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Gorffennaf 2021 ac Awst 2021). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.2% rhwng Gorffennaf 2022 ac Awst 2022.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mehefin 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 12.3% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 4.2% dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Awst 2022. Gwelwyd y twf cryfaf ym Merthyr Tudful, gan godi 22.7% i £157,000 yn y flwyddyn hyd at Awst 2022. Mewn cyferbyniad, Gwynedd welodd y newid blynyddol lleiaf, gyda chynnydd o 9.9% yn y flwyddyn hyd at Awst 2022 a’r pris tŷ cyfartalog oedd £208,000.
O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai sengl y twf blynyddol mwyaf, gan godi 15.7% yn y flwyddyn hyd at Awst 2022 i £340,000. Gwelwyd y twf blynyddoedd lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan godi 10.7% yn y flwyddyn hyd at Awst 2022, i’r pris cyfartalog o £138,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 14.6% yn y flwyddyn hyd at Awst 2022, i lawr o 17.4% yng Ngorffennaf 2022.
Awdurdodau lleol | Awst 2022 | Awst 2021 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £196,492 | £175,137 | 12.2% |
Blaenau Gwent | £133,698 | £112,666 | 18.7% |
Bro Morgannwg | £311,787 | £266,223 | 17.1% |
Caerdydd | £260,478 | £236,807 | 10% |
Caerffili | £190,045 | £164,571 | 15.5% |
Casnewydd | £232,275 | £209,595 | 10.8% |
Castell-nedd Port Talbot | £166,454 | £142,143 | 17.1% |
Ceredigion | £266,800 | £219,563 | 21.5% |
Conwy | £224,274 | £196,471 | 14.2% |
Gwynedd | £207,920 | £189,205 | 9.9% |
Merthyr Tudful | £156,565 | £127,609 | 22.7% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £207,593 | £183,057 | 13.4% |
Powys | £247,075 | £221,403 | 11.6% |
Rhondda Cynon Taf | £158,915 | £140,340 | 13.2% |
Sir Benfro | £246,694 | £212,442 | 16.1% |
Sir Ddinbych | £207,503 | £178,753 | 16.1% |
Sir Fynwy | £356,727 | £309,535 | 15.2% |
Sir y Fflint | £211,436 | £191,148 | 10.6% |
Sir Gaerfyrddin | £209,039 | £182,752 | 14.4% |
Tor-faen | £202,905 | £175,217 | 15.8% |
Wrecsam | £207,497 | £183,426 | 13.1% |
Ynys Môn | £240,742 | £215,147 | 11.9% |
Cymru | £220,059 | £192,019 | 14.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Awst 2022, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy lle mai £357,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £134,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Awst 2022 | Awst 2021 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £339,517 | £293,535 | 15.7% |
Tŷ pâr | £212,933 | £186,319 | 14.3% |
Tŷ teras | £171,347 | £149,275 | 14.8% |
Fflat neu fflat deulawr | £137,934 | £124,553 | 10.7% |
Holl | £220,059 | £192,019 | 14.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Mehefin 2022 | Mehefin 2021 |
---|---|---|
Abertawe | 162 | 437 |
Blaenau Gwent | 45 | 126 |
Bro Morgannwg | 111 | 394 |
Caerdydd | 220 | 727 |
Caerffili | 128 | 338 |
Casnewydd | 111 | 307 |
Castell-nedd Port Talbot | 113 | 268 |
Ceredigion | 44 | 130 |
Conwy | 95 | 272 |
Gwynedd | 87 | 208 |
Merthyr Tudful | 45 | 97 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 111 | 323 |
Powys | 90 | 301 |
Rhondda Cynon Taf | 184 | 492 |
Sir Benfro | 87 | 261 |
Sir Ddinbych | 77 | 181 |
Sir Gaerfyrddin | 108 | 370 |
Sir Fynwy | 84 | 269 |
Sir y Fflint | 111 | 347 |
Tor-faen | 79 | 153 |
Wrecsam | 73 | 240 |
Ynys Môn | 46 | 130 |
Cymru | 2,211 | 6,371 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mehefin 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 12.3% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 47.2% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2022.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Mehefin 2018 | 4,344 |
Mehefin 2019 | 3,997 |
Mehefin 2020 | 2,013 |
Mehefin 2021 | 6,371 |
Mehefin 2022 | 2,211 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Mai 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £318,924 | 2.9% | 26.2% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £208,577 | 1.3% | 8.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Awst 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £189,230 | 0.0% | 14.5% |
Cyn berchen-feddiannydd | £256,397 | 0.5% | 14.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Awst 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £213,344 | 0.7% | 14.4% |
Morgais | £224,008 | 0.0% | 14.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mehefin 2022 |
---|---|
Cymru | 5 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 006 5288