Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Awst 2024
Cyhoeddwyd 16 Hydref 2024
1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2024
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £223,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 3.5%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.6%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 163.7
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Medi 2024 am 9.30am ddydd Mercher 20 Tachwedd 2024. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 3.5% yn y 12 mis hyd at Awst 2024, i £223,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i fyny o 1.5% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024 ac yn uwch na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 2.8% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Awst 2024.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.6% rhwng Gorffennaf 2024 ac Awst 2024, o’i gymharu â chynnydd o 0.6% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.0% rhwng Gorffennaf 2024 ac Awst 2024.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2023 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2024, lleihaodd nifer y trafodion gan 33.5% yng Nghymru a lleihaodd gan 25.0% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 14 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Awst 2024. Blaenau Gwent welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 7.4% i £135,000 yn y 12 mis hyd at Awst 2024. Mewn cyferbyniad, Gwynedd welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 3.4% i £201,000 yn y 12 mis hyd at Awst 2024.
Yng Nghymru, fflatiau a fflatiau deulawr oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 4.7% yn y 12 mis hyd at Awst 2024, i’r pris cyfartalog o £147,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn tai sengl, gan gynyddu 1.7% yn y 12 mis hyd at Awst 2024, i’r pris cyfartalog o £328,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 3.5% yn y 12 mis hyd at Awst 2024 (amcangyfrif dros dro), i fyny o 1.5% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Awst 2024 | Awst 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £204,463 | £196,496 | 4.1% |
Blaenau Gwent | £135,304 | £125,945 | 7.4% |
Bro Morgannwg | £295,612 | £301,264 | -1.9% |
Caerdydd | £275,440 | £263,285 | 4.6% |
Caerffili | £190,191 | £186,029 | 2.2% |
Casnewydd | £240,402 | £232,724 | 3.3% |
Castell-nedd Port Talbot | £176,768 | £167,845 | 5.3% |
Ceredigion | £245,655 | £249,179 | -1.4% |
Conwy | £218,184 | £219,792 | -0.7% |
Gwynedd | £201,205 | £208,259 | -3.4% |
Merthyr Tudful | £161,290 | £154,403 | 4.5% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £212,388 | £203,700 | 4.3% |
Powys | £238,184 | £241,500 | -1.4% |
Rhondda Cynon Taf | £163,524 | £158,026 | 3.5% |
Sir Benfro | £237,801 | £223,252 | 6.5% |
Sir Ddinbych | £204,038 | £198,319 | 2.9% |
Sir Fynwy | £354,170 | £335,120 | 5.7% |
Sir y Fflint | £217,992 | £214,923 | 1.4% |
Sir Gaerfyrddin | £196,536 | £200,860 | -2.2% |
Torfaen | £190,542 | £196,683 | -3.1% |
Wrecsam | £208,990 | £197,754 | 5.7% |
Ynys Môn | £232,592 | £238,939 | -2.7% |
Cymru | £222,925 | £215,294 | 3.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Awst 2024, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy lle mai £354,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £135,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Awst 2024 | Awst 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £328,498 | £322,968 | 1.7% |
Tŷ pâr | £216,885 | £208,376 | 4.1% |
Tŷ teras | £177,494 | £170,367 | 4.2% |
Fflat neu fflat deulawr | £146,804 | £140,266 | 4.7% |
Holl | £222,925 | £215,294 | 3.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Awdurdodau lleol | Mehefin 2024 | Mehefin 2023 |
---|---|---|
Abertawe | 109 | 221 |
Blaenau Gwent | 25 | 70 |
Bro Morgannwg | 74 | 169 |
Caerdydd | 187 | 389 |
Caerffili | 71 | 152 |
Casnewydd | 66 | 195 |
Castell-nedd Port Talbot | 69 | 148 |
Ceredigion | 41 | 55 |
Conwy | 87 | 133 |
Gwynedd | 91 | 121 |
Merthyr Tudful | 32 | 43 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 92 | 169 |
Powys | 63 | 121 |
Rhondda Cynon Taf | 129 | 271 |
Sir Benfro | 54 | 130 |
Sir Ddinbych | 56 | 102 |
Sir Gaerfyrddin | 102 | 204 |
Sir Fynwy | 57 | 116 |
Sir y Fflint | 58 | 150 |
Torfaen | 42 | 86 |
Wrecsam | 67 | 111 |
Ynys Môn | 27 | 54 |
Cymru | 1,599 | 3,210 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2024, lleihaodd nifer y trafodion gan 33.5% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd yn y 12 mis hyd at Fehefin 2024, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 3.6% yng Nghymru.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Mehefin 2020 | 2,013 |
Mehefin 2021 | 7,096 |
Mehefin 2022 | 3,618 |
Mehefin 2023 | 3,210 |
Mehefin 2024 | 1,599 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Mehefin 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £336,246 | -0.9% | 25.7% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £210,564 | 0.0% | 0.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Awst 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £194,294 | 2.8% | 4.4% |
Cyn berchen-feddiannydd | £255,656 | 2.4% | 2.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Awst 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £215,686 | 3.1% | 3.1% |
Morgais | £227,180 | 2.4% | 3.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mehefin 2024 |
---|---|
Cymru | 9 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 006 5288