Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Awst 2024
Cyhoeddwyd 16 Hydref 2024
1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2024
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £293,000
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 2.8%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.5%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 153.6
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Medi 2024 am 9.30am ddydd Mercher 20 Tachwedd 2024. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
2.8% oedd y chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog yn y DU yn y 12 mis hyd at Awst 2024 (amcangyfrif dros dro), i fyny o’r amcangyfrif diwygiedig o 1.8% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024.
£293,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Awst 2024 (amcangyfrif dros dro), sy’n £8,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Awst 2024 yn Lloegr i £310,000 (2.3%), cynyddodd yng Nghymru i £223,000 (3.5%) a chynyddodd yn yr Alban i £200,000 (5.4%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2024 i £185,000 yng Ngogledd Iwerddon (6.4%).
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU yn fwy cyflym rhwng Gorffennaf 2024 ac Awst 2024 (1.5%) nag yn yr un cyfnod 12 mis yn ôl (0.5%). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.0% rhwng Gorffennaf 2024 ac Awst 2024.
O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Orllewin Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 4.6% yn y 12 mis hyd at Awst 2024. De Orllewin Lloegr oedd y rhanbarth gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 0.8% yn y 12 mis hyd at Awst 2024.
Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Awst 2024 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod ymholiadau gan brynwyr newydd a gwerthiannau a gytunwyd wedi cynyddu yn Awst, a bod y llif o restriadau newydd yn parhau i fod yn arwydd o duedd gadarnhaol. Adroddodd RICS hefyd er bod y rhan fwyaf o ardaloedd y DU yn dangos naill ai darlun gwastad neu weddol cadarnhaol erbyn hyn ar gyfer prisiau tai, mae rhai eithriadau megis yr Alban a Gogledd Iwerddon, sydd wedi bod yn codi’n gadarn.
Adroddodd crynodeb o amodau busnes – 2024 Chwarter 2 Asiantau Banc Lloegr fod y farchnad dai yn sefydlog o ran nifer y trafodion a lefel y galw.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU Cyllid a Thollau EF ar gyfer Awst 2024, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 90,000. Mae hyn 5.4% yn uwch na 12 mis yn ôl (Awst 2023). Rhwng Gorffennaf 2024 ac Awst 2024, lleihaodd trafodion y DU gan 0.4% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.
Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr ar gyfer Awst 2024 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu gan 2,400 i 64,900 yn Awst 2024, y lefel uchaf er Awst 2022 (72,000).
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
£293,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Awst 2024 (amcangyfrif dros dro), sy’n £8,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Awst 2024 yn Lloegr i £310,000 (2.3%), cynyddodd yng Nghymru i £223,000 (3.5%) a chynyddodd yn yr Alban i £200,000 (5.4%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2024 i £185,000 yng Ngogledd Iwerddon (6.4%).
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £222,925 | 2.6% | 3.5% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2024) | £185,025 | 3.6% | 6.4% |
Lloegr | £309,572 | 1.6% | 2.3% |
Yr Alban | £199,971 | 1.2% | 5.4% |
De Ddwyrain Lloegr | £384,804 | 1.4% | 1.6% |
De Orllewin Lloegr | £320,774 | 0.3% | 0.8% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £250,229 | 1.4% | 2.1% |
Dwyrain Lloegr | £344,190 | 1.0% | 1.4% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £255,102 | 1.1% | 2.6% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £166,032 | 1.5% | 1.7% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £225,248 | 2.4% | 4.6% |
Llundain | £531,212 | 2.2% | 1.4% |
Swydd Gaerefrog a Humber | £219,433 | 2.7% | 4.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU yn fwy cyflym rhwng Gorffennaf 2024 ac Awst 2024 (1.5%) nag yn yr un cyfnod 12 mis yn ôl (0.5%). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.0% rhwng Gorffennaf 2024 ac Awst 2024.
Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Awst 2024 | Awst 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £443,355 | £436,151 | 1.7% |
Tŷ pâr | £285,310 | £275,408 | 3.6% |
Tŷ teras | £243,437 | £236,337 | 3.0% |
Fflat neu fflat deulawr | £239,043 | £233,036 | 2.6% |
Holl | £292,924 | £285,073 | 2.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Yn ddiweddar, mae cyfanswm y trafodion sydd ar gael i gyfrifo amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer y misoedd diweddaraf wedi bod yn is nag yn hanesyddol (gweler Mynegai Prisiau Tai y DU Adran 2.2: Cywirdeb: Accuracy)). Mae hyn wedi deillio o gyfuniad o gyfanswm nifer y trafodion yng Nghymru a Lloegr yn disgyn dros y flwyddyn ddiwethaf (nododd CTEF ostyngiad o 22% yn 2023) a gostyngiad yng nghyfran y trafodion, a broseswyd gan Gofrestrfa Tir EF, ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf. Y sampl ar gyfer yr amcangyfrif diweddaraf yw tua hanner y trafodion arferol. Effeithiwyd yn arbennig ar brosesu adeiladau newydd.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF yn cydweithio i ddatrys hyn, gan gynnwys ceisio mwy o gydbwysedd rhwng prosesu ceisiadau a dderbyniwyd yn ddiweddar a’r rheini sy’n hŷn, er mwyn helpu i ddiogelu ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.
Yn 2020, cyflwynwyd system gronni ar gyfer trafodion adeiladau newydd am rai misoedd yng Nghymru a Lloegr. Yn Rhagfyr 2023, cyflwynwyd gwelliant methodoleg i fodel Prydain Fawr, oedd yn cynyddu cydlyniad y DU ac yn gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU. O Ragfyr 2023, cynyddodd Cofrestrfa Tir EF brosesu Mynegai Prisiau Tai y DU, felly disgwylir i gyfran cyfanswm y trafodion a broseswyd ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf gynyddu yn y misoedd nesaf.
Ym Mawrth 2024 ac Ebrill 2024, cafodd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU eu hadolygu o Ionawr 2021 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU o 12 mis. Yn adroddiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen. O adroddiad Hydref 2024, bydd Mynegai Prisiau Tai y DU yn dychwelyd i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis.
Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer a dylent nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Awst 2024 yn seiliedig ar oddeutu 35,200 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 6,600 ar gyfer yr Alban, a 1,900 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 35% o amcangyfrif gwerthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Awst 2024, fel y manylir yn ei gyhoeddiad Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth o £40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol â’r polisi diwygiadau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.
Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod adolygu a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad ansawdd Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau’r gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau posibl yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforedig, cwmni neu fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond yn cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.
Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygiadau, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Gwlad | Mehefin 2024 | Mehefin 2023 |
---|---|---|
Lloegr | 27,427 | 56,427 |
Gogledd Iwerddon | 1,688 | 1,740 |
Yr Alban | 8,493 | 9,380 |
Cymru | 1,599 | 3,210 |
Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2023 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2024, lleihaodd nifer y trafodion gan 29.7% yn Lloegr, lleihaodd gan 7.9% yn yr Alban, a lleihaodd gan 33.5% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 6.0% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 2024.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd yn y 12 mis hyd at Fehefin 2024, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 4.0% yn Lloegr, 8.1% yn yr Alban, 3.6% yng Nghymru a 9.8% yng Ngogledd Iwerddon.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2020 i 2024 yn ôl gwlad: Mehefin
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2024, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 25.0%.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Gyllid a Thollau EF yn y DU wedi lleihau gan 4.5% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2024.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog Mehefin 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £417,612 | -0.8% | 25.6% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £282,024 | 0.5% | 1.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog Awst 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £246,576 | 2.0% | 3.4% |
Cyn berchen-feddiannydd | £338,048 | 1.1% | 2.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
Statws cyllido | Pris cyfartalog Awst 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £276,805 | 1.5% | 2.1% |
Morgais | £305,429 | 1.6% | 3.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.
Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 006 5288
Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost aimee.north@ons
Ffôn 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost [email protected]
Ffôn 028 90 336035
Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost [email protected]
Ffôn 0131 378 4991