Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Rhagfyr 2021

Cyhoeddwyd 16 Chwefror 2022

1. Prif ystadegau ar gyfer Rhagfyr 2021

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £204,835

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 13.0%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.0%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 150.5

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ionawr 2022 am 9.30am ddydd Mercher 23 Mawrth 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 13.0% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021, i fyny o 12.6% yn Nhachwedd 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU, sef 10.8% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.0% rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2021, o’i gymharu â chynnydd o 1.7% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Tachwedd a Rhagfyr 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.9% rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2021.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Hydref 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Hydref 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 45.7% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 56.0% dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn Rhagfyr 2021 o’i gymharu â Rhagfyr 2020. Gwelwyd y twf cryfaf ym Mro Morgannwg, gan godi 20.8% i £294,000 yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021. Mewn cyferbyniad, gwelwyd y newid blynyddol lleiaf yng Ngwynedd, gyda chynnydd o 6.1% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £187,000.

O’r holl fathau o eiddo, tai sengl welodd y twf blynyddol mwyaf, gan godi 15.4% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021 i £317,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 8.5% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021 i £131,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 13.0% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021, i fyny o 12.6% yn Nhachwedd 2021.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Rhagfyr 2021 Rhagfyr 2020 Gwahaniaeth
Abertawe £188,632 £163,220 15.6%
Blaenau Gwent £113,473 £102,298 10.9%
Bro Morgannwg £293,623 £243,076 20.8%
Caerdydd £247,852 £219,770 12.8%
Caerffili £167,060 £150,670 10.9%
Casnewydd £223,281 £197,076 13.3%
Castell-nedd Port Talbot £155,531 £134,678 15.5%
Ceredigion £240,179 £201,696 19.1%
Conwy £207,446 £186,950 11%
Gwynedd £187,001 £176,279 6.1%
Merthyr Tudful £135,016 £117,443 15%
Pen-y-bont ar Ogwr £201,020 £170,680 17.8%
Powys £229,249 £206,584 11%
Rhondda Cynon Taf £141,916 £129,324 9.7%
Sir Benfro £233,913 £194,816 20.1%
Sir Ddinbych £192,688 £170,570 13%
Sir Fynwy £329,862 £293,684 12.3%
Sir y Fflint £198,278 £185,977 6.6%
Sir Gaerfyrddin £188,366 £166,422 13.2%
Tor-faen £185,437 £164,307 12.9%
Wrecsam £197,901 £168,280 17.6%
Ynys Môn £224,057 £195,940 14.3%
Cymru £204,835 £181,274 13%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Rhagfyr 2021, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £330,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £113,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Rhagfyr 2021 Rhagfyr 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £317,403 £274,956 15.4%
Tŷ pâr £197,369 £174,806 12.9%
Tŷ teras £158,776 £141,909 11.9%
Fflat neu fflat deulawr £131,091 £120,797 8.5%
Holl £204,835 £181,274 13.0%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Hydref 2021 Hydref 2020
Abertawe 141 287
Blaenau Gwent 42 98
Bro Morgannwg 88 212
Caerdydd 209 455
Caerffili 108 211
Casnewydd 87 173
Castell-nedd Port Talbot 107 217
Ceredigion 35 121
Conwy 103 181
Gwynedd 125 147
Merthyr Tudful 32 67
Pen-y-bont ar Ogwr 98 252
Powys 85 180
Rhondda Cynon Taf 156 321
Sir Benfro 75 158
Sir Ddinbych 47 161
Sir Gaerfyrddin 114 280
Sir Fynwy 64 106
Sir y Fflint 89 194
Tor-faen 57 112
Wrecsam 97 161
Ynys Môn 58 106
Cymru 2,017 4,200

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Hydref 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Hydref 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Hydref 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 45.7% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 0.2% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Hydref 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Hydref 2017 4,471
Hydref 2018 4,387
Hydref 2019 4,294
Hydref 2020 4,200
Hydref 2021 2,017

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Hydref 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £292,721 3.9% 29.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £195,976 0.3% 13.2%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Rhagfyr 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £175,908 2.3% 12.5%
Cyn berchen-feddiannydd £238,945 1.7% 13.6%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Rhagfyr 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £197,658 1.5% 12.0%
Morgais £208,930 2.2% 13.4%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Hydref 2021
Cymru 2

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EM

Ebost [email protected]

Ffôn 0300 006 5288