Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Chwefror 2022
Cyhoeddwyd 13 Ebrill 2022
1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2022
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £205,114
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 14.2%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.7%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 150.7
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2022 am 9.30am ddydd Mercher 18 Mai 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 14.2% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022, i fyny o 14.0% yn Ionawr 2022. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 10.9% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.7% rhwng Ionawr a Chwefror 2022, o’i gymharu â gostyngiad o 0.9% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ionawr a Chwefror 2021). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.2% rhwng Ionawr a Chwefror 2022.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 47.3% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 47.1% dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022. Gwelwyd y twf cryfaf ym Merthyr Tudful, lle cododd 22.7% i £148,000 yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022. Mewn cyferbyniad, Sir y Fflint welodd y newid blynyddol lleiaf, gyda chynnydd o 9.1% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £201,000.
O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai sengl y twf blynyddol mwyaf, gan godi 16.9% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022 i £318,000. Gwelwyd y cynnydd blynyddoedd lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan godi 10.8% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022, i’r pris cyfartalog o £133,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 14.2% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022, i fyny o 14.0% yn Ionawr 2022.
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Chwefror 2022 | Chwefror 2021 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £185,164 | £167,567 | 10.5% |
Blaenau Gwent | £122,221 | £102,888 | 18.8% |
Bro Morgannwg | £301,218 | £249,670 | 20.6% |
Caerdydd | £250,224 | £224,242 | 11.6% |
Caerffili | £177,006 | £151,673 | 16.7% |
Casnewydd | £223,798 | £203,058 | 10.2% |
Castell-nedd Port Talbot | £154,510 | £130,963 | 18% |
Ceredigion | £240,976 | £204,835 | 17.6% |
Conwy | £209,880 | £180,791 | 16.1% |
Gwynedd | £202,108 | £175,539 | 15.1% |
Merthyr Tudful | £147,837 | £120,493 | 22.7% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £190,771 | £171,528 | 11.2% |
Powys | £237,610 | £212,918 | 11.6% |
Rhondda Cynon Taf | £145,968 | £129,228 | 13% |
Sir Benfro | £229,187 | £199,902 | 14.6% |
Sir Ddinbych | £194,922 | £175,948 | 10.8% |
Sir Fynwy | £336,692 | £301,490 | 11.7% |
Sir y Fflint | £201,483 | £184,701 | 9.1% |
Sir Gaerfyrddin | £194,890 | £169,582 | 14.9% |
Tor-faen | £183,931 | £165,346 | 11.2% |
Wrecsam | £197,476 | £174,302 | 13.3 |
Ynys Môn | £228,788 | £199,987 | 14.4% |
Cymru | £205,114 | £179,554 | 14.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Chwefror 2022, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle roedd y pris cyfartalog yn £337,000. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle roedd y pris cyfartalog yn £122,000.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Chwefror 2022 | Chwefror 2021 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £318,093 | £272,068 | 16.9% |
Tŷ pâr | £197,867 | £173,324 | 14.2% |
Tŷ teras | £158,271 | £140,338 | 12.8% |
Fflat neu fflat deulawr | £133,301 | £120,351 | 10.8% |
Holl | £205,114 | £179,554 | 14.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Rhagfyr 2021 | Rhagfyr 2020 |
---|---|---|
Abertawe | 186 | 347 |
Blaenau Gwent | 50 | 98 |
Bro Morgannwg | 82 | 245 |
Caerdydd | 250 | 495 |
Caerffili | 104 | 227 |
Casnewydd | 100 | 244 |
Castell-nedd Port Talbot | 91 | 235 |
Ceredigion | 55 | 129 |
Conwy | 105 | 208 |
Gwynedd | 108 | 224 |
Merthyr Tudful | 31 | 75 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 96 | 216 |
Powys | 94 | 252 |
Rhondda Cynon Taf | 170 | 366 |
Sir Benfro | 82 | 219 |
Sir Ddinbych | 58 | 194 |
Sir Gaerfyrddin | 133 | 291 |
Sir Fynwy | 67 | 150 |
Sir y Fflint | 101 | 257 |
Tor-faen | 49 | 160 |
Wrecsam | 100 | 168 |
Ynys Môn | 71 | 129 |
Cymru | 2,183 | 4,929 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 47.3% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 15.5% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Rhagfyr 2017 | 4,659 |
Rhagfyr 2018 | 4,255 |
Rhagfyr 2019 | 4,089 |
Rhagfyr 2020 | 4,929 |
Rhagfyr 2021 | 2,183 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Rhagfyr 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £283,667 | -0.1% | 23.7% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £199,044 | 2.2% | 11.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Chwefror 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £175,952 | -0.7% | 13.5% |
Cyn berchen-feddiannydd | £239,543 | -0.6% | 15.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws ariannu | Pris cyfartalog Chwefror 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £198,684 | -1.1% | 14.1% |
Morgais | £208,899 | -0.5% | 14.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Rhagfyr 2021 |
---|---|
Cymru | 1 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EM
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 006 5288