Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Chwefror 2023
Cyhoeddwyd 19 Ebrill 2023
1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2023
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £215,343
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 6.4%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.6%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 158.2
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2022 am 9.30am ddydd Mercher 24 Mai 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 6.4% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023. Roedd hyn i fyny o 5.7% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023 ac yn gyflymach na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU, sef 5.5% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.6% rhwng Ionawr 2023 a Chwefror 2023, o’i gymharu â gostyngiad o 1.2% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.2% rhwng Ionawr 2023 a Chwefror 2023.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 29.0% yng Nghymru a chan 30.5% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 21 awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023. Gwelwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf yn Sir Gaerfyrddin, gan godi 14.8% i £214,000 yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023. Mewn cyferbyniad, Gwynedd welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 1.3% i £201,000 yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023.
Yng Nghymru, dangosodd tai sengl y chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan godi 7.6% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023 i £335,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan godi 2.4% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023, i’r pris cyfartalog o £135,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 6.4% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023, i fyny o 5.7% yn Ionawr 2023.
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Chwefror 2023 | Chwefror 2022 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £189,418 | £184,057 | 2.9% |
Blaenau Gwent | £137,240 | £122,940 | 11.6% |
Bro Morgannwg | £313,772 | £290,963 | 7.8% |
Caerdydd | £266,159 | £247,852 | 7.4% |
Caerffili | £184,153 | £174,269 | 5.7% |
Casnewydd | £243,492 | £221,942 | 9.7% |
Castell-nedd Port Talbot | £165,853 | £152,036 | 9.1% |
Ceredigion | £260,366 | £246,229 | 5.7% |
Conwy | £214,757 | £207,529 | 3.5% |
Gwynedd | £201,298 | £203,961 | -1.3% |
Merthyr Tudful | £157,848 | £140,428 | 12.4% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £204,956 | £189,733 | 8% |
Powys | £251,937 | £233,060 | 8.1% |
Rhondda Cynon Taf | £159,064 | £146,006 | 8.9% |
Sir Benfro | £241,813 | £230,926 | 4.7% |
Sir Ddinbych | £205,171 | £193,640 | 6% |
Sir Fynwy | £364,643 | £328,340 | 11.1% |
Sir y Fflint | £219,884 | £201,656 | 9% |
Sir Gaerfyrddin | £213,785 | £186,151 | 14.8% |
Torfaen | £202,470 | £185,228 | 9.3% |
Wrecsam | £204,093 | £194,712 | 4.8% |
Ynys Môn | £244,381 | £226,849 | 7.7% |
Cymru | £215,343 | £202,482 | 6.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Chwefror 2023, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £365,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £137,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Chwefror 2023 | Chwefror 2022 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £334,546 | £310,989 | 7.6% |
Tŷ pâr | £207,857 | £195,882 | 6.1% |
Tŷ teras | £167,081 | £157,282 | 6.2% |
Fflat neu fflat deulawr | £134,557 | £131,396 | 2.4% |
Holl | £215,343 | £202,482 | 6.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Awdurdodau lleol | Rhagfyr 2022 | Rhagfyr 2021 |
---|---|---|
Abertawe | 197 | 335 |
Blaenau Gwent | 61 | 102 |
Bro Morgannwg | 144 | 185 |
Caerdydd | 328 | 513 |
Caerffili | 181 | 216 |
Casnewydd | 130 | 197 |
Castell-nedd Port Talbot | 142 | 163 |
Ceredigion | 57 | 84 |
Conwy | 111 | 205 |
Gwynedd | 127 | 162 |
Merthyr Tudful | 70 | 74 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 147 | 186 |
Powys | 96 | 160 |
Rhondda Cynon Taf | 231 | 327 |
Sir Benfro | 108 | 182 |
Sir Ddinbych | 94 | 93 |
Sir Gaerfyrddin | 175 | 252 |
Sir Fynwy | 72 | 119 |
Sir y Fflint | 120 | 189 |
Tor-faen | 58 | 110 |
Wrecsam | 102 | 165 |
Ynys Môn | 66 | 103 |
Cymru | 2,817 | 4,122 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 29.0% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 10.3% yng Nghymru yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2022.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Rhagfyr 2018 | 4,255 |
Rhagfyr 2019 | 4,089 |
Rhagfyr 2020 | 4,929 |
Rhagfyr 2021 | 4,122 |
Rhagfyr 2022 | 2,817 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Rhagfyr 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £331,623 | 0.5% | 28.8% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £216,528 | 0.6% | 9.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Chwefror 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £184,529 | -0.9% | 5.9% |
Cyn berchen-feddiannydd | £251,872 | -0.3% | 6.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Chwefror 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £207,789 | -0.6% | 5.6% |
Morgais | £219,694 | -0.6% | 6.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Rhagfyr 2022 |
---|---|
Cymru | 6 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 006 5288