Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Chwefror 2023
Cyhoeddwyd 19 Ebrill 2023
1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2023
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £287,506
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 5.5%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -1.0%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 152.8
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2023 am 9.30am ddydd Mercher 24 Mai 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
5.5% oedd y newid canrannol blynyddol ar gyfer prisiau tai cyfartalog yn y DU yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023, o’i gymharu â 6.5% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023 a 9.0% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2022.
£288,000 oedd pris tŷ cyfartalog yn y DU yn Chwefror 2023, sy’n £16,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog dros y 12 mis i £308,000 (6.0%) yn Lloegr, i £215,000 yng Nghymru (6.4%), i £180,000 yn yr Alban (1.0%) ac i £175,000 yng Ngogledd Iwerddon (10.2%).
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, lleihaodd prisiau tai cyfartalog gan 1.0% rhwng Ionawr 2023 a Chwefror 2023, a lleihaodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Achosodd hyn i gyfradd chwyddiant flynyddol y DU arafu y mis hwn.
Roedd chwyddiant prisiau tai blynyddol ar ei uchaf yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 8.6% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023. Llundain oedd yr ardal gyda’r twf blynyddol lleiaf yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 2.9% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023. Fodd bynnag, gwelwyd chwyddiant blynyddol is yn yr Alban nag yn Llundain, gyda phrisiau’n cynyddu 1.0% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023.
Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Chwefror 2023 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ostyngiad yn y galw a dyma’r degfed darlleniad misol negyddol olynol ar gyfer ymholiadau gan brynwyr newydd. Fodd bynnag, dyma’r canlyniad lleiaf negyddol hefyd er Gorffennaf y flwyddyn ddiwethaf.
Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2023 Chwarter 1 fod gweithgarwch yn y farchnad eilaidd a cheisiadau am brisiadau wedi cynyddu’n gymedrol, ond nododd fod y galw yn debyg yn fras i’r cyflenwad o eiddo sydd ar gael.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Chwefror 2023, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 90,340. Mae hyn 18.2% yn is na 12 mis yn ôl (Chwefror 2022). Rhwng Ionawr 2023 a Chwefror 2023, lleihaodd trafodion yn y DU gan 4.1% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.
Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Chwefror 2023 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu i 43,500 yn Chwefror 2023, o 39,600 yn Ionawr 2023. Dyma’r cynnydd misol cyntaf er Awst 2022.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 5.5% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023, i lawr o 6.5% yn Ionawr 2023.
Ar lefel gwlad, cofnodwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 6.4%.
Yn Lloegr, cynyddodd prisiau tai gan 6.0% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023.
Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 1.0% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023.
Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 10.2% yn y 12 mis hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2022.
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £215,343 | -0.6% | 6.4% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2022) | £175,234 | -0.5% | 10.2% |
Lloegr | £308,365 | -0.8% | 6.0% |
Yr Alban | £180,287 | -2.6% | 1.0% |
De Ddwyrain Lloegr | £395,571 | -1.2% | 5.8% |
De Orllewin Lloegr | £326,616 | -1.2% | 5.8% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £249,751 | -1.1% | 7.4% |
Dwyrain Lloegr | £357,697 | -0.1% | 5.6% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £253,921 | -0.4% | 8.6% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £159,980 | -2.3% | 7.6% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £214,146 | -0.6% | 7.0% |
Llundain | £532,212 | -1.1% | 2.9% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £207,220 | 0.0% | 5.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.0% rhwng Ionawr 2023 a Chwefror 2023. Roedd hyn i lawr o ostyngiad o 0.1% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl (Ionawr 2022 a Chwefror 2022). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.3% rhwng Ionawr 2023 a Chwefror 2023.
Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Chwefror 2023 | Chwefror 2022 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £457,449 | £426,923 | 7.2% |
Tŷ pâr | £278,223 | £262,614 | 5.9% |
Tŷ teras | £234,029 | £221,675 | 5.6% |
Fflat neu fflat deulawr | £228,242 | £223,521 | 2.1% |
Holl | £287,506 | £272,454 | 5.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Gwlad | Rhagfyr 2022 | Rhagfyr 2021 |
---|---|---|
Cymru | 2,817 | 4,122 |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2022) | 2,047 | 2,260 |
Lloegr | 48,463 | 65,784 |
Yr Alban | 7,735 | 8,934 |
Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 43.6% yn Lloegr, lleihaodd gan 12.2% yn yr Alban a chynyddodd gan 29.0% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 0.1% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 2022.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2022, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 1.7% yn Lloegr, wedi lleihau gan 10.3% yng Nghymru, wedi lleihau gan 11.1% yn yr Alban, ac wedi lleihau gan 11.7% yng Ngogledd Iwerddon.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Tachwedd
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2022, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 30.5%.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 3.1% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2022.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog Rhagfyr 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £398,257 | -0.5% | 23.5% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £285,355 | -0.4% | 7.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog Chwefror 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £238,742 | -1.0% | 5.0% |
Cyn berchen-feddiannydd | £337,145 | -1.1% | 5.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
Statws cyllido | Pris cyfartalog Chwefror 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £271,941 | -1.0% | 5.1% |
Morgais | £299,991 | -1.0% | 5.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
9. Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 006 5288
Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost aimee.north@ons
Ffôn 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost [email protected]
Ffôn 028 90 336035
Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost [email protected]
Ffôn 07919 570915