Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Chwefror 2024
Cyhoeddwyd 17 Ebrill 2024
1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2024
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £211,000
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd -1.2%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.4%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 154.8
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2024 am 9.30am ddydd Mercher 22 Mai 2024. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.2% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024. Roedd hyn i fyny o ostyngiad o 2.3% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024 ac yn arafach na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o negyddol 0.2% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.4% rhwng Ionawr 2024 a Chwefror 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 0.7% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.5% rhwng Ionawr 2024 a Chwefror 2024.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2022 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 44.3% yng Nghymru a lleihaodd gan 42.3% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 5 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024. Ceredigion welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 3.5% i £248,000 yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024. Mewn cyferbyniad, Casnewydd welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 7.5% i £220,000 yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024.
Yng Nghymru, tai pâr oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan leihau 0.4% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024 i £206,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn tai teras, gan leihau 2.5% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024, i’r pris cyfartalog o £164,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, gostyngodd prisiau cyfartalog gan 1.2% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024 (amcangyfrif dros dro), i fyny o ostyngiad o 2.3% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Chwefror 2024 | Chwefror 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £193,294 | £193,707 | -0.2% |
Blaenau Gwent | £127,018 | £136,028 | -6.6% |
Bro Morgannwg | £296,260 | £288,341 | 2.7% |
Caerdydd | £265,427 | £266,484 | -0.4% |
Caerffili | £183,186 | £184,794 | -0.9% |
Casnewydd | £219,652 | £237,555 | -7.5% |
Castell-nedd Port Talbot | £161,772 | £173,380 | -6.7% |
Ceredigion | £248,227 | £239,770 | 3.5% |
Conwy | £220,289 | £221,895 | -0.7% |
Gwynedd | £208,308 | £204,553 | 1.8% |
Merthyr Tudful | £148,847 | £154,962 | -3.9% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £206,497 | £209,044 | -1.2% |
Powys | £238,023 | £242,177 | -1.7% |
Rhondda Cynon Taf | £152,022 | £162,423 | -6.4% |
Sir Benfro | £227,062 | £235,317 | -3.5% |
Sir Ddinbych | £195,940 | £202,464 | -3.2% |
Sir Fynwy | £332,921 | £339,398 | -1.9% |
Sir y Fflint | £221,426 | £215,340 | 2.8% |
Sir Gaerfyrddin | £195,802 | £206,611 | -5.2% |
Torfaen | £195,165 | £195,247 | 0% |
Wrecsam | £205,932 | £204,550 | 0.7% |
Ynys Môn | £230,281 | £235,702 | -2.3% |
Cymru | £210,717 | £213,351 | -1.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Chwefror 2024, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £333,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £127,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Chwefror 2024 | Chwefror 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £318,907 | £320,682 | -0.6% |
Tŷ pâr | £206,458 | £207,280 | -0.4% |
Tŷ teras | £163,990 | £168,152 | -2.5% |
Fflat neu fflat deulawr | £137,214 | £138,734 | -1.1% |
Holl | £210,717 | £213,351 | -1.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Awdurdodau lleol | Rhagfyr 2023 | Rhagfyr 2022 |
---|---|---|
Abertawe | 116 | 233 |
Blaenau Gwent | 25 | 77 |
Bro Morgannwg | 70 | 197 |
Caerdydd | 158 | 474 |
Caerffili | 79 | 212 |
Casnewydd | 82 | 173 |
Castell-nedd Port Talbot | 64 | 184 |
Ceredigion | 36 | 70 |
Conwy | 78 | 137 |
Gwynedd | 84 | 145 |
Merthyr Tudful | 35 | 78 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 75 | 208 |
Powys | 63 | 128 |
Rhondda Cynon Taf | 118 | 293 |
Sir Benfro | 76 | 146 |
Sir Ddinbych | 57 | 123 |
Sir Gaerfyrddin | 95 | 217 |
Sir Fynwy | 60 | 117 |
Sir y Fflint | 71 | 169 |
Torfaen | 37 | 73 |
Wrecsam | 54 | 136 |
Ynys Môn | 36 | 80 |
Cymru | 1,569 | 3,670 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2022 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Rhagfyr 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 44.3% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF wedi lleihau gan 17.9% yng Nghymru yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Rhagfyr 2019 | 4,089 |
Rhagfyr 2020 | 4,929 |
Rhagfyr 2021 | 4,545 |
Rhagfyr 2022 | 3,670 |
Rhagfyr 2023 | 1,569 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Rhagfyr 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £314,807 | 0.7% | 17.6% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £210,428 | 0.0% | -2.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Chwefror 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £182,112 | 0.4% | -1.3% |
Cyn berchen-feddiannydd | £244,135 | 0.4% | -1.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Chwefror 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £204,644 | 0.6% | -0.9% |
Morgais | £214,326 | 0.3% | -1.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Rhagfyr 2023 |
---|---|
Cymru | 7 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 006 5288