Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ionawr 2022
Cyhoeddwyd 23 Mawrth 2022
1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2022
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £206,251
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 13.9%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 1.3%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 151.5
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Chwefror 2022 am 9.30am ddydd Mercher 13 Ebrill 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 13.9% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022, i fyny o 12.4% yn Rhagfyr 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU, sef 9.6% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.3% rhwng Rhagfyr 2021 ac Ionawr 2022, o’i gymharu â gostyngiad o 0.1% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Rhagfyr 2020 ac Ionawr 2021). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.9% rhwng Rhagfyr 2021 ac Ionawr 2022.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 35.3% yng Nghymru o 3,585 i 2,319. Lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 44.4%, o 82,412 i 45,800, dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd pob ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn Ionawr 2022 o’i gymharu ag Ionawr 2021. Gwelwyd y twf cryfaf ym Mro Morgannwg, gan godi 20.8% i £297,000 yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022. Mewn cyferbyniad, Sir y Fflint welodd y newid blynyddol lleiaf, gyda chynnydd o 7.2% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £199,000.
O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai sengl y twf blynyddol mwyaf, gan godi 15.6% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022 i £320,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 6.8% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022 i £131,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 13.9% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022, i fyny o 12.4% yn Rhagfyr 2021.
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Ionawr 2022 | Ionawr 2021 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £187,230 | £166,484 | 12.5% |
Blaenau Gwent | £120,907 | £101,981 | 18.6% |
Bro Morgannwg | £297,314 | £246,098 | 20.8% |
Caerdydd | £243,583 | £222,438 | 9.5% |
Caerffili | £171,916 | £152,788 | 12.5% |
Casnewydd | £222,019 | £199,830 | 11.1% |
Castell-nedd Port Talbot | £156,831 | £131,729 | 19.1% |
Ceredigion | £238,864 | £203,952 | 17.1% |
Conwy | £206,231 | £186,188 | 10.8% |
Gwynedd | £191,727 | £177,315 | 8.1% |
Merthyr Tudful | £141,892 | £121,346 | 16.9% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £197,107 | £172,266 | 14.4% |
Powys | £239,470 | £212,111 | 12.9% |
Rhondda Cynon Taf | £141,989 | £128,167 | 10.8% |
Sir Benfro | £234,796 | £199,187 | 17.9% |
Sir Ddinbych | £196,593 | £175,769 | 11.8% |
Sir Fynwy | £328,106 | £301,720 | 8.7% |
Sir y Fflint | £198,666 | £185,387 | 7.2% |
Sir Gaerfyrddin | £195,740 | £167,581 | 16.8% |
Tor-faen | £184,608 | £165,286 | 11.7% |
Wrecsam | £197,340 | £172,081 | 14.7% |
Ynys Môn | £221,349 | £198,778 | 11.4% |
Cymru | £206,251 | £181,118 | 13.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Ionawr 2022, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle mai £328,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £121,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Ionawr 2022 | Ionawr 2021 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £319,526 | £276,415 | 15.6% |
Tŷ pâr | £199,736 | £175,326 | 13.9% |
Tŷ teras | £159,520 | £140,081 | 13.9% |
Fflat neu fflat deulawr | £130,738 | £122,374 | 6.8% |
Holl | £206,251 | £181,118 | 13.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Tachwedd 2021 | Tachwedd 2020 |
---|---|---|
Abertawe | 192 | 295 |
Blaenau Gwent | 56 | 66 |
Bro Morgannwg | 118 | 253 |
Caerdydd | 220 | 410 |
Caerffili | 128 | 228 |
Casnewydd | 110 | 208 |
Castell-nedd Port Talbot | 99 | 159 |
Ceredigion | 61 | 105 |
Conwy | 104 | 212 |
Gwynedd | 111 | 184 |
Merthyr Tudful | 29 | 81 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 111 | 202 |
Powys | 85 | 158 |
Rhondda Cynon Taf | 186 | 313 |
Sir Benfro | 108 | 166 |
Sir Ddinbych | 81 | 115 |
Sir Gaerfyrddin | 127 | 309 |
Sir Fynwy | 64 | 128 |
Sir y Fflint | 117 | 240 |
Tor-faen | 85 | 116 |
Wrecsam | 69 | 169 |
Ynys Môn | 58 | 119 |
Cymru | 2,319 | 4,236 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 35.3% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 1.9% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Tachwedd 2017 | 4,474 |
Tachwedd 2018 | 5,057 |
Tachwedd 2019 | 4,494 |
Tachwedd 2020 | 4,236 |
Tachwedd 2021 | 2,319 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Tachwedd 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £294,074 | 4.3% | 30.5% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £194,917 | -0.8% | 11.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Ionawr 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £176,893 | 1.2% | 13.5% |
Cyn berchen-feddiannydd | £240,958 | 1.4% | 14.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Ionawr 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £200,614 | 1.7% | 13.9% |
Morgais | £209,658 | 1.1% | 13.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Tachwedd 2021 |
---|---|
Cymru | 3 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EM
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 006 5288