Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ionawr 2024
Cyhoeddwyd 20 Mawrth 2024
1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2024
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £213,063
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.8%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.1%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 156.5
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Chwefror 2024 am 9.30am ddydd Mercher 17 Ebrill 2024. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.8% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024. Roedd hyn i fyny o ostyngiad o 2.8% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023 ac yn arafach na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o negyddol 0.6% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.1% rhwng Rhagfyr 2023 ac Ionawr 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 2.2% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.6% rhwng Rhagfyr 2023 ac Ionawr 2024.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2022 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 41.2% yng Nghymru a lleihaodd gan 36.1% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 7 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024. Ceredigion welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 4.8% i £264,000 yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024. Mewn cyferbyniad, Casnewydd welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 6.7% i £222,000 yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024.
Yng Nghymru, dangosodd tai sengl y chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan ddangos dim newid (0.0%) yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024 i £322,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan leihau 2.6% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024, i’r pris cyfartalog o £136,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, gostyngodd prisiau cyfartalog gan 0.8% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024 (amcangyfrif dros dro), i fyny o ostyngiad o 2.8% yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2023 (amcangyfrif diwygiedig).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Ionawr 2024 | Ionawr 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £193,035 | £198,253 | -2.6% |
Blaenau Gwent | £136,283 | £136,561 | -0.2% |
Bro Morgannwg | £296,023 | £291,593 | 1.5% |
Caerdydd | £268,053 | £266,695 | 0.5% |
Caerffili | £185,927 | £191,684 | -3% |
Casnewydd | £222,234 | £238,117 | -6.7% |
Castell-nedd Port Talbot | £162,424 | £172,699 | -5.9% |
Ceredigion | £263,706 | £251,645 | 4.8% |
Conwy | £218,993 | £222,694 | -1.7% |
Gwynedd | £205,327 | £209,845 | -2.2% |
Merthyr Tudful | £144,376 | £152,952 | -5.6% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £209,478 | £206,186 | 1.6% |
Powys | £227,883 | £236,152 | -3.5% |
Rhondda Cynon Taf | £157,647 | £165,631 | -4.8% |
Sir Benfro | £235,578 | £232,127 | 1.5% |
Sir Ddinbych | £202,468 | £205,622 | -1.5% |
Sir Fynwy | £331,773 | £338,252 | -1.9% |
Sir y Fflint | £219,632 | £216,445 | 1.5% |
Sir Gaerfyrddin | £205,588 | £211,356 | -2.7% |
Torfaen | £193,459 | £195,475 | -1% |
Wrecsam | £205,611 | £203,920 | 0.8% |
Ynys Môn | £232,756 | £235,884 | -1.3% |
Cymru | £213,063 | £214,784 | -0.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Ionawr 2024, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £332,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £136,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Ionawr 2024 | Ionawr 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £321,652 | £321,695 | 0.0% |
Tŷ pâr | £207,791 | £208,966 | -0.6% |
Tŷ teras | £167,389 | £169,397 | -1.2% |
Fflat neu fflat deulawr | £136,285 | £139,914 | -2.6% |
Holl | £213,063 | £214,784 | -0.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Awdurdodau lleol | Tachwedd 2023 | Tachwedd 2022 |
---|---|---|
Abertawe | 124 | 274 |
Blaenau Gwent | 29 | 82 |
Bro Morgannwg | 79 | 178 |
Caerdydd | 185 | 482 |
Caerffili | 77 | 193 |
Casnewydd | 97 | 209 |
Castell-nedd Port Talbot | 85 | 167 |
Ceredigion | 37 | 66 |
Conwy | 95 | 172 |
Gwynedd | 82 | 170 |
Merthyr Tudful | 29 | 59 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 81 | 182 |
Powys | 76 | 150 |
Rhondda Cynon Taf | 142 | 323 |
Sir Benfro | 71 | 138 |
Sir Ddinbych | 82 | 152 |
Sir Gaerfyrddin | 126 | 189 |
Sir Fynwy | 51 | 131 |
Sir y Fflint | 83 | 181 |
Torfaen | 30 | 108 |
Wrecsam | 59 | 160 |
Ynys Môn | 29 | 87 |
Cymru | 1,749 | 3,853 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2022 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Tachwedd 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 41.2% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CTEF wedi lleihau gan 24.1% yng Nghymru yn y 12 mis hyd at Dachwedd 2023.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Tachwedd 2019 | 4,494 |
Tachwedd 2020 | 4,236 |
Tachwedd 2021 | 4,661 |
Tachwedd 2022 | 3,853 |
Tachwedd 2023 | 1,749 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Tachwedd 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £321,555 | 9.2% | 16.6% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £211,233 | -0.7% | -2.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Ionawr 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £184,231 | -0.4% | -0.9% |
Cyn berchen-feddiannydd | £246,685 | 0.1% | -0.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Ionawr 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £206,122 | 0.0% | -0.7% |
Morgais | £217,116 | -0.2% | -0.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Tachwedd 2023 |
---|---|
Cymru | 2 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 006 5288