Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mawrth 2023
Cyhoeddwyd 24 Mai 2023
1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2023
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £285,009
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 4.1%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -1.2%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 149.5
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2023 am 9.30am ddydd Mercher 21 Mehefin 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Y newid canrannol blynyddol ar gyfer prisiau tai cyfartalog yn y DU oedd 4.1% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023, o’i gymharu â 5.8% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023.
Y pris tŷ cyfartalog yn y DU oedd £285,000 ym Mawrth 2023, sy’n £11,000 yn uwch na 12 mis yn ôl, ond £8,000 yn is na’r brig diweddar yn Nhachwedd 2022. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog dros y 12 mis i £304,000 (4.1%) yn Lloegr, i £214,000 yng Nghymru (4.8%), i £185,000 yn yr Alban (3.0%) ac i £172,000 yng Ngogledd Iwerddon (5.0%).
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, lleihaodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.2% rhwng Chwefror 2023 a Mawrth 2023, ond cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.
Roedd chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yn Ne Orllewin Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 5.4% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023. Llundain oedd yr ardal gyda’r twf blynyddol lleiaf yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 1.5% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023.
Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Mawrth 2023 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ostyngiad yn y galw. Pan gaiff ei dadagregu, mae’r duedd ar i lawr yn y galw gan brynwyr yn parhau ar draws y DU, gyda bron pob rhanbarth/gwlad yn cofnodi darlleniad negyddol yn y datganiadau diweddaraf.
Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2023 Chwarter 1 fod gweithgarwch yn y farchnad eilaidd a cheisiadau am brisiadau wedi cynyddu’n gymedrol, ond nododd fod y galw yn debyg yn fras i’r cyflenwad o eiddo sydd ar gael.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mawrth 2023, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 89,560. Mae hyn 18.9% yn is na 12 mis yn ôl (Mawrth 2022). Rhwng Chwefror 2023 a Mawrth 2023, cynyddodd trafodion yn y DU gan 1.3% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.
Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Mawrth 2023 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu’n sylweddol i 52,000 ym Mawrth 2023, o 44,100 yn Chwefror 2023, ond mae’n parhau’n is na’r cyfartaledd misol ar gyfer 2022, sef 62,700.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 4.1% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023, i lawr o 5.8% yn Chwefror 2023.
Ar lefel gwlad, cofnodwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 4.8%.
Yn Lloegr, cynyddodd prisiau tai gan 4.1% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023.
Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 3.0% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023.
Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 5.0% yn y 12 mis hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2023.
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £214,174 | -0.6% | 4.8% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2023) | £172,005 | -1.8% | 5.0% |
Lloegr | £304,193 | -1.5% | 4.1% |
Yr Alban | £184,877 | 0.7% | 3.0% |
De Ddwyrain Lloegr | £394,543 | -0.4% | 4.6% |
De Orllewin Lloegr | £326,035 | -0.6% | 5.4% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £246,092 | -1.2% | 4.9% |
Dwyrain Lloegr | £351,898 | -2.0% | 3.9% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £245,132 | -4.0% | 3.4% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £156,912 | -1.6% | 4.0% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £211,759 | -1.3% | 5.2% |
Llundain | £523,325 | -1.7% | 1.5% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £203,635 | -2.1% | 4.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.2% rhwng Chwefror 2023 a Mawrth 2023. Roedd hyn i lawr o gynnydd o 0.5% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl (Chwefror 2022 a Mawrth 2023). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.9% rhwng Chwefror 2023 a Mawrth 2023.
Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Mawrth 2023 | Mawrth 2022 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £453,949 | £431,184 | 5.3% |
Tŷ pâr | £277,291 | £264,692 | 4.8% |
Tŷ teras | £229,752 | £223,048 | 3.0% |
Fflat neu fflat deulawr | £227,925 | £221,211 | 3.0% |
Holl | £285,009 | £273,787 | 4.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Gwlad | Ionawr 2023 | Ionawr 2022 |
---|---|---|
Lloegr | 36,038 | 51,592 |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2023) | 1,427 | 1,953 |
Yr Alban | 5,791 | 7,326 |
Cymru | 2,001 | 2,969 |
Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2023 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2023, cynyddodd nifer y trafodion gan 17.8% yn Lloegr, lleihaodd gan 19.4% yn yr Alban a chynyddodd gan 9.9% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 21.3% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2023.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y 12 mis
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Ionawr
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2023 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2023, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 9.3%.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 9.6% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog Ionawr 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £389,659 | -0.9% | 11.1% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £282,246 | -0.9% | 5.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog Mawrth 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £236,682 | -1.3% | 3.8% |
Cyn berchen-feddiannydd | £334,480 | -1.1% | 4.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
Statws cyllido | Pris cyfartalog Mawrth 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £269,272 | -1.1% | 3.8% |
Morgais | £297,619 | -1.2% | 4.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Dosbarthiadau trafodion tai
Rhwng Hydref a Rhagfyr 2022, cafwyd 169,263 o werthiannau eiddo.
Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:
-
Cymru oedd £150,000 i £179,999 – prynwyd 1,187 o eiddo
-
Gogledd Iwerddon oedd £150,000 i £179,999 – prynwyd 909 o eiddo
-
Lloegr oedd £175,000 i £199,999 – prynwyd 10,780 o eiddo
-
Yr Alban oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 2,548 o eiddo
Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr ) 2022 ar gyfer gwledydd y DU. Cyflwynir data ar gyfer Prydain Fawr mewn bandiau o £25,000 hyd at £10 miliwn, ac yna band mwy am dros £10 miliwn. Cyflwynir data ar gyfer Gogledd Iwerddon mewn bandiau o £25,000 hyd at £500,000, ac yna band mwy am dros £500,000.
Yn unol â pholisi adolygu Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 006 5288
Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost aimee.north@ons
Ffôn 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost [email protected]
Ffôn 028 90 336035
Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost [email protected]
Ffôn 07919 570915