Ystadegau swyddogol achrededig

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mawrth 2024

Cyhoeddwyd 22 Mai 2024

1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2024

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £283,000

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.8%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.7%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 148.3

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2024 am 9.30am ddydd Mercher 19 Mehefin 2024. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

1.8% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fawrth 2024, o’i gymharu â negyddol 0.2% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024.

£283,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU ym Mawrth 2024 (amcangyfrif dros dro), sydd £5,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fawrth 2024 yn Lloegr i £299,000 (1.0%), cynyddodd yng Nghymru i £214,000 (1.3%) a chynyddodd yn yr Alban i £192,000 (6.7%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2024 i £178,000 yng Ngogledd Iwerddon (4.0%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.7% rhwng Chwefror 2024 a Mawrth 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 1.2% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.

O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yn Swydd Gaerefrog a’r Humber, lle cynyddodd prisiau gan 5.0% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2024. Llundain oedd yr ardal gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle gostyngodd prisiau gan 3.4% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2024.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Mawrth 2024 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) gynnydd yn y galw gan brynwyr am y trydydd mis yn olynol. Dyma’r cynnydd mwyaf yn y gyfres galw gan brynwyr er Chwefror 2022. Hefyd adroddodd RICS bedwerydd cynnydd olynol yn y llif o restriadau newydd, tra bod eu tueddiadau prisiau tai yn awgrymu darlun sefydlog ar y cyfan ar gyfer prisiau tai ar y lefel gyfansymiol.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2024 Chwarter 1 y disgwylir i brisiau tai barhau’n sefydlog neu dyfu’n gymedrol dros y misoedd nesaf, a bod y gostyngiad mewn cyfraddau morgais yn cefnogi galw.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU CThEF ar gyfer Mawrth 2024, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 84,000. Mae hyn 6.5% yn is na 12 mis yn ôl (Mawrth 2023). Rhwng Chwefror 2024 a Mawrth 2024, cynyddodd trafodion y DU gan 1.4% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Mawrth 2024 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu i 61,300 ym Mawrth 2024 o 60,500 yn Chwefror 2024. Dyma’r swm uchaf er Medi 2022.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.8% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Fawrth 2024, i fyny o ostyngiad o 0.2% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Chwefror 2024.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y 12 mis hyd at Fawrth 2024 yn yr Alban, lle cynyddodd prisiau tai gan 6.7%.

Yn Lloegr, cynyddodd prisiau tai gan 1.0% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2024.

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai gan 1.3% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2024.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai cyfartalog gan 4.0% yn y 12 mis hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2024.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £213,753 0.9% 1.3%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2024) £178,499 0.4% 4.0%
Lloegr £299,321 0.5% 1.0%
Yr Alban £191,678 2.3% 6.7%
De Ddwyrain Lloegr £373,223 0.3% -1.3%
De Orllewin Lloegr £316,262 0.2% 0.5%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £242,223 0.3% 1.0%
Dwyrain Lloegr £341,979 0.5% 0.8%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £246,298 1.4% 2.4%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £158,569 -0.4% 3.2%
Gogledd Orllewin Lloegr £216,501 1.1% 3.8%
Llundain £499,663 -0.9% -3.4%
Swydd Gaerefrog a Humber £209,868 2.2% 5.0%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Chwefror 2024 a Mawrth 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 1.2% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl (Chwefror 2023 a Mawrth 2023). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.1% rhwng Chwefror 2024 a Mawrth 2024.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mawrth 2024 Mawrth 2023 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £440,085 £429,319 2.5%
Tŷ pâr £275,684 £269,632 2.2%
Tŷ teras £230,406 £227,464 1.3%
Fflat neu fflat deulawr £229,813 £227,628 1.0%
Holl £282,776 £277,855 1.8%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

Yn ddiweddar, mae cyfanswm y trafodion sydd ar gael i gyfrifo amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer y misoedd diweddaraf wedi bod yn is nag yn hanesyddol (gweler UK HPI QMI Section 2.2: Accuracy). Mae hyn wedi deillio o gyfuniad o gyfanswm nifer y trafodion yng Nghymru a Lloegr yn disgyn dros y flwyddyn ddiwethaf (mae CThEF wedi nodi gostyngiad o 22% yn y 12 mis hyd at fis Tachwedd 2023) a gostyngiad yng nghyfran y trafodion, a broseswyd gan Gofrestrfa Tir EF, am yr amcangyfrif cyntaf. Y sampl ar gyfer yr amcangyfrif diweddaraf yw tua hanner y trafodion arferol. Effeithiwyd yn arbennig ar brosesu adeiladau newydd.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF yn cydweithio i ddatrys hyn, gan gynnwys ceisio mwy o gydbwysedd rhwng prosesu ceisiadau a dderbyniwyd yn ddiweddar a’r rheini sy’n hŷn, er mwyn helpu i ddiogelu ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

Yn 2020, cyflwynwyd cronni ar gyfer trafodion adeiladau newydd am fisoedd penodol yng Nghymru a Lloegr. Yn Rhagfyr 2023, gwnaed gwelliant methodoleg i fodel Prydain Fawr, a oedd yn cynyddu cydlyniad y DU ac yn gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU. O Ragfyr 2023, cynyddwyd prosesu Mynegai Prisiau Tai y DU gan Gofrestrfa Tir EF, felly disgwylir i gyfran cyfanswm y trafodion a broseswyd ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf gynyddu o’r rhyddhau ar 14 Chwefror 2024. Ym Mawrth 2024 ac Ebrill 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2021 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis.

Bydd Mynegai Prisiau Tai y DU nawr yn dychwelyd i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis ar gyfer datganiadau yn y dyfodol. Yn y cyfamser, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer ac fe’u cynghorir i nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Ionawr 2024 Ionawr 2023
Lloegr 19,365 45,117
Gogledd Iwerddon 1,511 1,556
Yr Alban 6,047 5,917
Cymru 1,041 2,459

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2024, lleihaodd nifer y trafodion gan 46.3% yn Lloegr, cynyddodd gan 4.4% yn yr Alban, a lleihaodd gan 48.0% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 5.9% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2024.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024, fod nifer y trafodion CThEF wedi lleihau gan 12.6% yn Lloegr, wedi cynyddu gan 4.2% yn yr Alban, wedi lleihau gan 13.1% yng Nghymru, ac wedi cynyddu gan 0.7% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2020 i 2024 yn ôl gwlad: Ionawr

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ionawr 2024, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 38.2%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF ar gyfer y DU wedi lleihau gan 11.1% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2024.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Ionawr 2024 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £388,789 6.1% 17.0%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £276,194 -0.3% -1.8%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Mawrth 2024 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £236,461 0.8% 1.8%
Cyn berchen-feddiannydd £328,831 0.8% 1.6%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Mawrth 2024 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £268,102 0.9% 1.5%
Morgais £294,403 0.7% 1.8%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.

Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll.  O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost [email protected]

Ffôn 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost [email protected]

Ffôn 028 90 336035

Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost [email protected]

Ffôn 0131 378 4991