Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mai 2022
Cyhoeddwyd 20 Gorffennaf 2022
1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2022
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £212,414
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 14.4%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.9%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 156.0
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mehefin 2022 am 9.30am dydd Mercher 17 Awst 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 14.4% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022, i lawr o 15.4% yn Ebrill 2022. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU, sef 12.8% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.9% rhwng Ebrill a Mai 2022, o’i gymharu â chynnydd o 1.8% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ebrill 2021 a Mai 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.4% rhwng Ebrill 2022 a Mai 2022.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2022, lleihaodd nifer y trafodion gan 26.0% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 41.7% dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Fai 2022. Gwelwyd y twf cryfaf ym Mro Morgannwg, gan godi 24.8% i £318,000 yn y flwyddyn hyd at Fai 2022. Mewn cyferbyniad, Sir Ddinbych welodd y newid blynyddol lleiaf, gyda chynnydd o 6.9% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £192,000.
O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai sengl y twf blynyddol mwyaf, gan godi 15.4% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022 i £324,000. Gwelwyd y cynnydd blynyddoedd lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan godi 9.8% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022, i’r pris cyfartalog o £136,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 14.4% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022, i lawr o 15.4% yn Ebrill 2022.
Pris cyfartalog fesul awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Awdurdodau lleol | Mai 2022 | Mai 2021 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £190,330 | £166,229 | 14.5% |
Blaenau Gwent | £132,388 | £108,406 | 22.1% |
Bro Morgannwg | £317,527 | £254,465 | 24.8% |
Caerdydd | £256,271 | £231,535 | 10.7% |
Caerffili | £179,459 | £158,057 | 13.5% |
Casnewydd | £225,453 | £198,126 | 13.8% |
Castell-nedd Port Talbot | £154,556 | £137,455 | 12.4% |
Ceredigion | £262,751 | £216,184 | 21.5% |
Conwy | £215,710 | £189,375 | 13.9% |
Gwynedd | £206,383 | £183,120 | 12.7% |
Merthyr Tudful | £145,327 | £125,952 | 15.4% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £198,616 | £180,415 | 10.1% |
Powys | £240,904 | £205,300 | 17.3% |
Rhondda Cynon Taf | £148,562 | £133,471 | 11.3% |
Sir Benfro | £230,977 | £198,276 | 16.5% |
Sir Ddinbych | £192,258 | £179,865 | 6.9% |
Sir Fynwy | £340,326 | £297,102 | 14.5% |
Sir y Fflint | £210,114 | £185,705 | 13.1% |
Sir Gaerfyrddin | £203,369 | £173,952 | 16.9% |
Tor-faen | £187,687 | £166,965 | 12.4% |
Wrecsam | £197,003 | £173,719 | 13.4% |
Ynys Môn | £230,067 | £204,670 | 12.4% |
Cymru | £212,414 | £185,654 | 14.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Ym Mai 2022, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £340,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £132,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Mai 2022 | Mai 2021 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £324,485 | £281,178 | 15.4% |
Tŷ pâr | £205,508 | £179,663 | 14.4% |
Tŷ teras | £166,270 | £145,038 | 14.6% |
Fflat neu fflat deulawr | £135,803 | £123,659 | 9.8% |
Holl | £212,414 | £185,654 | 14.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Mawrth 2022 | Mawrth 2021 |
---|---|---|
Abertawe | 205 | 331 |
Blaenau Gwent | 65 | 96 |
Bro Morgannwg | 114 | 245 |
Caerdydd | 275 | 575 |
Caerffili | 136 | 258 |
Casnewydd | 120 | 250 |
Castell-nedd Port Talbot | 108 | 212 |
Ceredigion | 50 | 111 |
Conwy | 122 | 196 |
Gwynedd | 107 | 225 |
Merthyr Tudful | 63 | 68 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 144 | 245 |
Powys | 98 | 212 |
Rhondda Cynon Taf | 214 | 369 |
Sir Benfro | 107 | 253 |
Sir Ddinbych | 90 | 191 |
Sir Gaerfyrddin | 169 | 308 |
Sir Fynwy | 66 | 202 |
Sir y Fflint | 134 | 222 |
Tor-faen | 64 | 127 |
Wrecsam | 96 | 201 |
Ynys Môn | 53 | 143 |
Cymru | 2,600 | 5,040 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2022, lleihaodd nifer y trafodion gan 26.0% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 23.7% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Mawrth 2018 | 3,800 |
Mawrth 2019 | 3,639 |
Mawrth 2020 | 3,340 |
Mawrth 2021 | 5,040 |
Mawrth 2022 | 2,600 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Mawrth 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £331,159 | 6.3% | 34.2% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £201,633 | 0.8% | 11.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Mai 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £182,992 | 1.1% | 14.2% |
Cyn berchen-feddiannydd | £247,011 | 0.6% | 14.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllidoPris cyfartalog Mai 2022 | Newid misol | Newid blynyddol | |
---|---|---|---|
Arian parod | £205,733 | 0.5% | 14.2% |
Morgais | £216,337 | 1.1% | 14.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mawrth 2022 |
---|---|
Cymru | 1 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EM
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 006 5288