Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mai 2023
Cyhoeddwyd 19 Gorffennaf 2023
1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2023
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £213,374
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 1.8%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.6%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 156.7
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mehefin 2022 am 9.30am ddydd Mercher 16 Awst 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.8% yn y 12 mis hyd at Fai 2023. Roedd hyn i fyny o 1.7% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2023 ac yn arafach na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU, sef 1.9% yn y 12 mis hyd at Fai 2023.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.6% rhwng Ebrill 2023 a Mai 2023, o’i gymharu â chynnydd o 0.5% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.1% rhwng Ebrill 2023 a Mai 2023.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 8.0% yng Nghymru a chan 9.6% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd 17 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fai 2023. Gwelwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf yn Sir Fynyw, gan godi 7.4% i £367,000 yn y 12 mis hyd at Fai 2023. Mewn cyferbyniad, Sir Benfro welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 1.3% i £233,000 yn y 12 mis hyd at Fai 2023.
Yng Nghymru, dangosodd fflatiau a fflatiau deulawr y chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan godi 2.6% yn y 12 mis hyd at Fai 2023 i £137,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn tai pâr, gan godi 0.9% yn y 12 mis hyd at Fai 2023, i’r pris cyfartalog o £205,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 1.8% yn y 12 mis hyd at Fai 2023, i fyny o 1.7% yn Ebrill 2023.
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Mai 2023 | Mai 2022 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £191,370 | £189,881 | 0.8% |
Blaenau Gwent | £129,372 | £125,868 | 2.8% |
Bro Morgannwg | £311,122 | £302,166 | 3% |
Caerdydd | £267,101 | £253,571 | 5.3% |
Caerffili | £178,834 | £173,176 | 3.3% |
Casnewydd | £234,334 | £227,726 | 2.9% |
Castell-nedd Port Talbot | £162,517 | £154,005 | 5.5% |
Ceredigion | £247,368 | £248,127 | -0.3% |
Conwy | £213,459 | £206,881 | 3.2% |
Gwynedd | £203,955 | £205,604 | -0.8% |
Merthyr Tudful | £155,075 | £144,485 | 7.3% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £200,641 | £197,848 | 1.4% |
Powys | £239,130 | £239,588 | -0.2% |
Rhondda Cynon Taf | £153,099 | £149,370 | 2.5% |
Sir Benfro | £233,389 | £236,550 | -1.3% |
Sir Ddinbych | £204,298 | £193,477 | 5.6% |
Sir Fynwy | £367,223 | £341,995 | 7.4% |
Sir y Fflint | £217,336 | £205,806 | 5.6% |
Sir Gaerfyrddin | £205,498 | £197,422 | 4.1% |
Torfaen | £193,029 | £187,422 | 3% |
Wrecsam | £201,129 | £194,827 | 3.2% |
Ynys Môn | £226,459 | £228,652 | -1% |
Cymru | £213,374 | £209,599 | 1.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Ym Mai 2023, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £367,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £129,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Mai 2023 | Mai 2022 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £326,767 | £320,304 | 2.0% |
Tŷ pâr | £205,423 | £203,512 | 0.9% |
Tŷ teras | £167,078 | £163,720 | 2.1% |
Fflat neu fflat deulawr | £136,517 | £133,100 | 2.6% |
Holl | £213,374 | £209,599 | 1.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Awdurdodau lleol | Mawrth 2023 | Mawrth 2022 |
---|---|---|
Abertawe | 184 | 297 |
Blaenau Gwent | 35 | 86 |
Bro Morgannwg | 99 | 174 |
Caerdydd | 272 | 386 |
Caerffili | 124 | 197 |
Casnewydd | 116 | 181 |
Castell-nedd Port Talbot | 130 | 156 |
Ceredigion | 48 | 71 |
Conwy | 127 | 175 |
Gwynedd | 110 | 133 |
Merthyr Tudful | 42 | 79 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 112 | 198 |
Powys | 83 | 147 |
Rhondda Cynon Taf | 176 | 304 |
Sir Benfro | 122 | 161 |
Sir Ddinbych | 85 | 138 |
Sir Gaerfyrddin | 143 | 225 |
Sir Fynwy | 61 | 111 |
Sir y Fflint | 119 | 187 |
Torfaen | 71 | 112 |
Wrecsam | 91 | 127 |
Ynys Môn | 43 | 72 |
Cymru | 2,393 | 3,717 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2022 ag amcangyfrif dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mawrth 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 8.0% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF wedi lleihau gan 15.6% yng Nghymru yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Mawrth 2019 | 3,639 |
Mawrth 2020 | 3,340 |
Mawrth 2021 | 5,040 |
Mawrth 2022 | 3,717 |
Mawrth 2023 | 2,393 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Mawrth 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £339,170 | 1.1% | 21.1% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £209,387 | -0.4% | 4.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Mai 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £183,564 | 0.9% | 1.7% |
Cyn berchen-feddiannydd | £248,540 | 0.3% | 2.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Mai 2023 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £205,800 | 0.6% | 1.6% |
Morgais | £217,724 | 0.6% | 1.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mawrth 2023 |
---|---|
Cymru | 6 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 006 5288