Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Tachwedd 2021
Cyhoeddwyd 19 Ionawr 2022
1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2021
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £199,877
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 12.1%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.7%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 146.8
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Rhagfyr 2021 am 9.30am ddydd Mercher 16 Chwefror 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau cyfartalog Cymru gan 12.1% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021, i lawr o 14.4% yn Hydref 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 10.0% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.7% rhwng Hydref a Thachwedd 2021, o’i gymharu â chynnydd o 1.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Hydref a Thachwedd 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.7% rhwng Hydref a Thachwedd 2021.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2021, gostyngodd nifer y trafodion gan 36.9% yng Nghymru, o 2518 i 1590. Lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 19.8%, o 67663 i 54279 dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn Nhachwedd 2021 o’i gymharu â Hydref 2020. Gwelwyd y twf cryfaf yng Ngheredigion, gan godi 24.6% i £248,000 yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021. Mewn cyferbyniad, Sir y Fflint welodd y newid blynyddol lleiaf, gyda chynnydd o 8.9% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £197,000.
O’r holl fathau o eiddo, tai sengl welodd y twf blynyddol mwyaf, gan godi 15.3% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021 i £312,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 6.9% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021 i £128,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 12.1% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021, i lawr o 14.4% yn Hydref 2021.
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Tachwedd 2021 | Tachwedd 2020 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £183,963 | £158,717 | 15.9% |
Blaenau Gwent | £117,731 | £99,562 | 18.2% |
Bro Morgannwg | £289,122 | £235,859 | 22.6% |
Caerdydd | £244,033 | £218,447 | 11.7% |
Caerffili | £168,491 | £148,089 | 13.8% |
Casnewydd | £219,465 | £194,022 | 13.1% |
Castell-nedd Port Talbot | £149,489 | £131,173 | 14% |
Ceredigion | £247,529 | £198,730 | 24.6% |
Conwy | £204,344 | £185,419 | 10.2% |
Gwynedd | £190,867 | £170,172 | 12.2% |
Merthyr Tudful | £134,173 | £110,784 | 21.1% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £190,962 | £169,393 | 12.7% |
Powys | £231,689 | £198,582 | 16.7% |
Rhondda Cynon Taf | £139,428 | £126,007 | 10.7% |
Sir Benfro | £232,872 | £192,571 | 20.9% |
Sir Ddinbych | £192,314 | £166,754 | 15.3% |
Sir Fynwy | £322,073 | £282,717 | 13.9% |
Sir y Fflint | £197,479 | £181,397 | 8.9% |
Sir Gaerfyrddin | £192,488 | £163,733 | 17.6% |
Tor-faen | £189,214 | £160,008 | 18.3% |
Wrecsam | £195,496 | £164,749 | 18.7% |
Ynys Môn | £222,882 | £191,110 | 16.6% |
Cymru | £199,877 | £178,255 | 12.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Nhachwedd 2021, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £322,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai 118,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Tachwedd 2021 | Tachwedd 2020 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £311,760 | £270,343 | 15.3% |
Tŷ pâr | £194,988 | £172,147 | 13.3% |
Tŷ teras | £152,303 | £139,077 | 9.5% |
Fflat neu fflat deulawr | £128,186 | £119,895 | 6.9% |
Holl | £199,877 | £178,255 | 12.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Medi 2021 | Medi 2020 |
---|---|---|
Abertawe | 114 | 218 |
Blaenau Gwent | 35 | 51 |
Bro Morgannwg | 76 | 145 |
Caerdydd | 141 | 299 |
Caerffili | 68 | 126 |
Casnewydd | 62 | 140 |
Castell-nedd Port Talbot | 78 | 132 |
Ceredigion | 39 | 73 |
Conwy | 88 | 138 |
Gwynedd | 70 | 113 |
Merthyr Tudful | 29 | 37 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 65 | 157 |
Powys | 70 | 113 |
Rhondda Cynon Taf | 119 | 227 |
Sir Benfro | 82 | 115 |
Sir Ddinbych | 72 | 99 |
Sir Gaerfyrddin | 93 | 190 |
Sir Fynwy | 51 | 76 |
Sir y Fflint | 74 | 145 |
Tor-faen | 39 | 63 |
Wrecsam | 57 | 117 |
Ynys Môn | 68 | 85 |
Cymru | 1,590 | 2,859 |
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 36.9% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 48.5% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Medi 2017 | 4,424 |
Medi 2018 | 3,959 |
Medi 2019 | 3,923 |
Medi 2020 | 2,859 |
Medi 2021 | 1,590 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Medi 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £286,569 | 3.7% | 29.4% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £195,429 | 3.7% | 17.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Tachwedd 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £171,300 | -0.7% | 11.5% |
Cyn berchen-feddiannydd | £233,710 | -0.8% | 12.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Tachwedd 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £194,184 | -0.4% | 11.8% |
Morgais | £203,275 | -0.8% | 12.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Medi 2021 |
---|---|
Cymru | 2 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 0068317