Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Tachwedd 2021
Cyhoeddwyd 19 Ionawr 2022
1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2021
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £270,708
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 10.0%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.2%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 142.0
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Rhagfyr 2021 am 9.30am ddydd Mercher 16 Chwefror 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai y DU gan 10.0% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021, i fyny o 9.8% yn Hydref 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.2% rhwng Hydref a Thachwedd 2021, o’i gymharu â chynnydd o 1.0% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Hydref a Thachwedd 2020).
Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Nghymru lle cynyddodd prisiau gan 12.1% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle cynyddodd prisiau gan 5.1% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021.
Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Hydref 2021 fod ymholiadau gan brynwyr newydd wedi cynyddu dros y mis ond bod eiddo newydd ar werth wedi lleihau ymhellach. Mae’r cefndir hwn o gyflenwad cyfyngedig hefyd yn sail ar gyfer twf mewn prisiau.
Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr ar gyfer 2021 Chwarter 4 fod y galw cryf am dai a phrinder eiddo i’w gwerthu yn parhau, a bod hynny wedi gwthio prisiau i fyny.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Tachwedd 2021, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 96,290. Mae hyn 16.4% yn is na blwyddyn yn ôl. Rhwng Hydref a Thachwedd 2021, cynyddodd trafodion y DU gan 24.3% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, yn dilyn cynnydd mawr yn y mis blaenorol.
Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Tachwedd 2021 mai’r ffigwr o ran morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd ar gyfer rhoi benthyg yn y dyfodol) oedd 67,000 yn Nhachwedd 2021, sydd i lawr o 67,200 yn Hydref 2021.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 10.0% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021, i fyny o 9.8% yn Hydref 2021.
Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 12.1%.
Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 11.4% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021.
Yn Lloegr cynyddodd prisiau tai gan 9.8% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2021.
Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 10.7% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2021.
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £199,877 | -0.7% | 12.1% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2021) | £159,109 | 3.0% | 10.7% |
Lloegr | £288,130 | 1.4% | 9.8% |
Yr Alban | £182,755 | 1.0% | 11.4% |
De Ddwyrain Lloegr | £369,093 | 0.5% | 9.6% |
De Orllewin Lloegr | £308,497 | 2.5% | 12.9% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £229,277 | 0.4% | 10.7% |
Dwyrain Lloegr | £336,937 | 2.1% | 12.3% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £230,888 | 1.9% | 9.8% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £149,249 | 1.8% | 8.7% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £197,797 | 2.3% | 10.8% |
Llundain | £519,934 | 0.2% | 5.1% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £191,036 | 1.0% | 7.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.2% rhwng Hydref a Thachwedd 2021, o’i gymharu â chynnydd o 1.0% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Hydref a Thachwedd 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.4% rhwng Hydref a Thachwedd 2021.
Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Tachwedd 2021 | Tachwedd 2020 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £428,134 | £376,014 | 13.9% |
Tŷ pâr | £261,325 | £234,463 | 11.5% |
Tŷ teras | £217,340 | £201,321 | 8.0% |
Fflat neu fflat deulawr | £223,078 | £211,188 | 5.6% |
Holl | £270,708 | £246,065 | 10.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Medi 2021 | Medi 2020 |
---|---|---|
Cymru | 1,590 | 2,859 |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2021) | 2,510 | 1,766 |
Lloegr | 40,929 | 62,864 |
Yr Alban | 9,250 | 10,619 |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 23.4% yn Lloegr, lleihaodd gan 9.0% yn yr Alban a lleihaodd gan 36.9% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 62.6% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2021.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 77.5% yn Lloegr, wedi lleihau gan 10.0% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 48.5% yng Nghymru a chan 73.7% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Medi
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2021, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 23.4% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 77.5% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog Medi 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £359,717 | 2.9% | 21.7% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £265,918 | 3.4% | 11.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Math o brynwr | Pris cyfartalog Tachwedd 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £225,175 | 1.4% | 9.1% |
Cyn berchen-feddiannydd | £317,774 | 1.1% | 11.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
Statws ariannu | Pris cyfartalog Tachwedd 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £256,739 | 1.1% | 9.5% |
Morgais | £282,557 | 1.3% | 10.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Eileen Morrison, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 006 5288
Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost [email protected]
Ffôn 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost [email protected]
Ffôn 028 90 336035
Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost [email protected]
Ffôn 07919 570915