Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Hydref 2022
Cyhoeddwyd 14 Rhagfyr 2022
1. Prif ystadegau ar gyfer Hydref 2022
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £223,824
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 11.8%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.1%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 164.4
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Tachwedd 2022 am 9.30am dydd Mercher 18 Ionawr 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 11.8% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2022, gan gynyddu’n arafach na phrisiau tai cyfartalog yn y DU (12.6%) ac i lawr o 12.9% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022.
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.1% rhwng Medi a Hydref 2022, o’i gymharu â chynnydd o 1.0% yn ystod yr un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.3% rhwng Medi a Hydref 2022.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Awst 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Awst 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 83.6% yng Nghymru a chan 70.7% yn y DU.
Yng Nghymru, dangosodd tai teras y newid canrannol blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 13.4% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2022 i £175,000. Gwelwyd y newid canrannol blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan godi 8.2% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2022, i’r pris cyfartalog o £139,000.
Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Hydref 2022. Roedd y newid canrannol blynyddol mwyaf ym Merthyr Tudful, lle cynyddodd prisiau tai cyfartalog gan 19.7% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2022 i £161,000. Roedd y newid canrannol blynyddol lleiaf ar Ynys Môn, lle cynyddodd prisiau tai cyfartalog gan 6.6% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2022 i £238,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 11.8% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2022, i lawr o 12.9% ym Medi 2022.
Awdurdodau lleol | Hydref 2022 | Hydref 2021 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £199,870 | £179,265 | 11.5% |
Blaenau Gwent | £136,727 | £117,903 | 16% |
Bro Morgannwg | £315,192 | £277,292 | 13.7% |
Caerdydd | £268,330 | £239,624 | 12% |
Caerffili | £192,019 | £164,908 | 16.4% |
Casnewydd | £234,975 | £216,927 | 8.3% |
Castell-nedd Port Talbot | £170,011 | £145,877 | 16.5% |
Ceredigion | £260,369 | £232,082 | 12.2% |
Conwy | £218,756 | £200,682 | 9% |
Gwynedd | £215,859 | £193,374 | 11.6% |
Merthyr Tudful | £160,511 | £134,086 | 19.7% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £218,096 | £190,928 | 14.2% |
Powys | £268,531 | £233,616 | 14.9% |
Rhondda Cynon Taf | £162,142 | £140,864 | 15.1% |
Sir Benfro | £248,396 | £217,049 | 14.4% |
Sir Ddinbych | £212,865 | £180,202 | 18.1% |
Sir Fynwy | £359,922 | £320,677 | 12.2% |
Sir y Fflint | £215,618 | £198,152 | 8.8% |
Sir Gaerfyrddin | £213,885 | £186,389 | 14.8% |
Tor-faen | £203,155 | £182,936 | 11.1% |
Wrecsam | £212,542 | £187,238 | 13.5% |
Ynys Môn | £237,831 | £223,173 | 6.6% |
Cymru | £223,824 | £200,151 | 11.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Hydref 2022, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy lle mai £360,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £137,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Hydref 2022 | Hydref 2021 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £343,145 | £310,866 | 10.4% |
Tŷ pâr | £217,205 | £193,319 | 12.4% |
Tŷ teras | £175,214 | £154,502 | 13.4% |
Fflat neu fflat deulawr | £138,647 | £128,085 | 8.2% |
Holl | £223,824 | £200,151 | 11.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Awst 2022 | Awst 2021 |
---|---|---|
Abertawe | 243 | 250 |
Blaenau Gwent | 71 | 100 |
Bro Morgannwg | 162 | 214 |
Caerdydd | 286 | 344 |
Caerffili | 155 | 214 |
Casnewydd | 137 | 169 |
Castell-nedd Port Talbot | 139 | 165 |
Ceredigion | 62 | 79 |
Conwy | 123 | 164 |
Gwynedd | 116 | 128 |
Merthyr Tudful | 51 | 57 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 161 | 180 |
Powys | 120 | 155 |
Rhondda Cynon Taf | 233 | 352 |
Sir Benfro | 123 | 195 |
Sir Ddinbych | 102 | 119 |
Sir Gaerfyrddin | 200 | 254 |
Sir Fynwy | 84 | 117 |
Sir y Fflint | 155 | 217 |
Tor-faen | 85 | 117 |
Wrecsam | 110 | 143 |
Ynys Môn | 43 | 99 |
Cymru | 2,961 | 3,832 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Awst 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Awst 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Awst 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 83.6% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 1.2% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Awst 2022.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Awst 2018 | 4,811 |
Awst 2019 | 4,546 |
Awst 2020 | 2,525 |
Awst 2021 | 3,832 |
Awst 2022 | 2,961 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Awst 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £313,397 | 2.7% | 25.3% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £214,280 | 0.6% | 13.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Hydref 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £193,018 | 0.1% | 12.4% |
Cyn berchen-feddiannydd | £260,059 | 0.0% | 11.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Medi 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £215,998 | -0.2% | 11.1% |
Morgais | £228,335 | 0.2% | 12.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Awst 2022 |
---|---|
Cymru | 11 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 006 5288