Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Medi 2022
Cyhoeddwyd 16 Tachwedd 2022
1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2022
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £294,559
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 9.5%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.0%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 154.5
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Hydref 2022 am 9.30am dydd Mercher 14 Rhagfyr 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Y gyfradd twf flynyddol ar gyfer prisiau tai cyfartalog yn y DU ar gyfer Medi 2022 oedd 9.5%, o’i chymharu ag 13.1% yn y flwyddyn hyd at Awst 2022, ac 15.2% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022. Roedd dau ffactor wedi achosi’r arafu yn y twf blynyddol y mis hwn:
- Parhaodd prisiau tai yn y DU yn ddigyfnewid rhwng Awst a Medi 2022.
- Cynyddodd prisiau tai yn y DU yn sylweddol ym Medi 2021, ar yr un pryd â’r newidiadau yn y Dreth Tir Toll Stamp.
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan swm llai rhwng Gorffennaf a Medi 2022 na’r un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r effaith sylfaenol hon wedi arwain at arafu yn y twf blynyddol ers Gorffennaf 2022.
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan £3,200 rhwng Gorffennaf ac Awst 2022 a pharhau’n ddigyfnewid rhwng Awst a Medi 2022. Mewn cyferbyniad, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan £7,500 rhwng Gorffennaf ac Awst 2021, a chan £8,600 rhwng Awst a Medi 2021. Mae’n debygol bod prisiau tai cyfartalog wedi eu chwyddo ychydig ym Medi 2021 wrth i brynwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ruthro i gwblhau prynu eiddo cyn y newidiadau i’r Dreth Tir Toll Stamp ar ddiwedd Medi 2021. Mae rhagor o wybodaeth am yr effaith a gafodd y newidiadau i drethi tir ar brisiau tai yn y DU yn 2021 i’w gweld yn natganiadau blaenorol y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Arweiniodd y cynnydd graddol mewn prisiau yn 2022 at bris tŷ cyfartalog yn y DU yn cyrraedd ei lefelau uchaf erioed. Y pris tŷ cyfartalog yn y DU oedd £295,000 ym Medi 2022, sy’n £26,000 yn uwch na’r adeg hon y flwyddyn ddiwethaf, ac yn ddigyfnewid ers Awst 2022. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog dros y flwyddyn i £314,000 (9.6%) yn Lloegr, i £224,000 yng Nghymru (12.9%), i £192,000 yn yr Alban (7.3%) ac i £176,000 yng Ngogledd Iwerddon (10.7%).
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, parhaodd prisiau tai cyfartalog yn ddigyfnewid yn y DU rhwng Awst a Medi 2022, gyda newid o 0.0% yn y pris. Mae hyn i lawr o gynnydd o 3.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Awst a Medi 2021).
Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yn Ne Orllewin Lloegr lle cynyddodd prisiau gan 11.9% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022. Roedd y twf blynyddol lleiaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 5.8% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022.
Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Medi 2022 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod ymholiadau gan brynwyr newydd wedi parhau i leihau am y pumed mis yn olynol, a bod cyflenwad ar y farchnad yn parhau i fod yn gyfyngedig.
Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2022 Chwarter 3 fod y galw am eiddo yn parhau i fod yn fwy na’r cyflenwad. Fodd bynnag, roedd darpar brynwyr tai yn fwy gofalus erbyn hyn oherwydd pryderon ynghylch y cynnydd mewn costau byw.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Medi 2022, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 103,930. Mae hyn 36.8% yn is na flwyddyn yn ôl (Medi 2021). Rhwng Awst a Medi 2022, cynyddodd trafodion yn y DU gan 0.2% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.
Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Medi 2022 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi gostwng yn sylweddol i 66,800 ym Medi 2022, o 74,400 yn Awst 2022. Mae hyn yn is na’r cyfartaledd 6 mis o 67,200.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 9.5% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022, i lawr o 13.1% yn Awst 2022.
Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 12.9%.
Yn Lloegr, cynyddodd prisiau tai gan 9.6% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022.
Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 7.3% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022.
Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 10.7% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2022.
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £223,798 | 2.0% | 12.9% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2022) | £176,131 | 4.1% | 10.7% |
Lloegr | £314,278 | 0.0% | 9.6% |
Yr Alban | £191,941 | -0.9% | 7.3% |
De Ddwyrain Lloegr | £403,515 | -0.2% | 10.3% |
De Orllewin Lloegr | £336,583 | 0.3% | 11.9% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £252,982 | 0.0% | 11.3% |
Dwyrain Lloegr | £362,197 | 0.1% | 10.4% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £253,864 | -0.3% | 10.1% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £163,768 | 0.3% | 5.8% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £219,005 | 0.6% | 9.1% |
Llundain | £544,113 | -0.6% | 6.9% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £212,593 | 0.0% | 8.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, roedd prisiau tai cyfartalog yn y DU wedi parhau’n ddigyfnewid rhwng Awst 2022 a Medi 2022, o’i gymharu â chynnydd o 3.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Awst a Medi 2021). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% rhwng Awst 2022 a Medi 2022.
Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Medi 2022 | Medi 2021 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £463,150 | £415,681 | 11.4% |
Tŷ pâr | £286,654 | £258,268 | 11.0% |
Tŷ teras | £241,880 | £221,471 | 9.2% |
Fflat neu fflat deulawr | £232,987 | £222,368 | 4.8% |
Holl | £294,559 | £269,003 | 9.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Gwlad | Gorffennaf 2022 | Gorffennaf 2021 |
---|---|---|
Lloegr | 51,838 | 46,709 |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2022) | 2,134 | 2,821 |
Yr Alban | 9,349 | 10,991 |
Cymru | 3,023 | 3,506 |
Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 264.7% yn Lloegr, lleihaodd gan 12.4% yn yr Alban a chynyddodd gan 199.9% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 15.0% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2022.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 41.9% yn Lloegr, wedi cynyddu gan 6.1% yng Nghymru, wedi lleihau gan 11.1% yn yr Alban, ac wedi lleihau gan 9.6% yng Ngogledd Iwerddon.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Mehefin
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2022, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 133.6% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 31.4% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog Gorffennaf 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £383,076 | 1.6% | 18.4% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £284,611 | 2.0% | 14.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog Medi 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £245,350 | 0.1% | 8.9% |
Cyn berchen-feddiannydd | £345,044 | -0.1% | 10.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
Statws cyllido | Pris cyfartalog Medi 2022 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £278,324 | -0.2% | 8.5% |
Morgais | £307,711 | 0.1% | 9.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Dosbarthiadau trafodion tai
Rhwng Ebrill a Mehefin 2022, cafwyd 186,804 o werthiannau eiddo.
Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:
-
Cymru oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,113 o eiddo
-
Gogledd Iwerddon oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 911 o eiddo
-
Lloegr oedd £175,000 i £199,999 – prynwyd 10,198 o eiddo
-
Yr Alban oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 2,520 o eiddo
Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2022 ar gyfer gwledydd y DU. Cyflwynir data ar gyfer Prydain Fawr mewn bandiau o £25,000 hyd at £10 miliwn, ac yna band mwy am dros £10 miliwn. Cyflwynir data ar gyfer Gogledd Iwerddon mewn bandiau o £25,000 hyd at £500,000, ac yna band mwy am dros £500,000.
Yn unol â pholisi adolygu Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 006 5288
Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost aimee.north@ons
Ffôn 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost [email protected]
Ffôn 028 90 336035
Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost [email protected]
Ffôn 07919 570915