Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Medi 2024
Cyhoeddwyd 20 Tachwedd 2024
1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2024
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £292,000
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 2.9%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -0.3%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 153.1
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Hydref 2024 am 9.30am ddydd Mercher 18 Rhagfyr 2024. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
Yn natganiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.
Mae lefelau prisiau Mynegai Prisiau Tai y DU yn deillio o gymryd pris cyfartalog Ionawr 2015 set gyfeirio o eiddo, a chymhwyso cyfraddau chwyddiant cyfnod unigol i gynhyrchu’r gyfres amser llawn. Gall y mathau o eiddo sy’n cael eu gwerthu newid dros amser, felly yn ein datganiad ar 19 Chwefror 2025, bydd Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ailgyfeirio i Ionawr 2023 fel y cyfnod sylfaen newydd. Bydd diweddaru’r set gyfeirio hon o eiddo yn sicrhau bod lefelau prisiau Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu’n well y math o eiddo sy’n cael ei werthu ar hyn o bryd. Bydd mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd Ionawr 2023 = 100. Bydd y gyfres lefel prisiau yn symud i fyny neu i lawr oherwydd ailgyfeirio, ond ni fydd cyfraddau chwyddiant yn newid, fel yr eglurir yn Adran 3: Dulliau a ddefnyddir i gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU yn Ansawdd a methodoleg CTEF.
2. Datganiad economaidd
2.9% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU yn y 12 mis hyd at Fedi 2024 (amcangyfrif dros dro), i fyny o’r amcangyfrif diwygiedig o 2.7% yn y 12 mis hyd at Awst 2024.
£292,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU ym Medi 2024 (amcangyfrif dros dro), sy’n £8,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fedi 2024 yn Lloegr i £309,000 (2.5%), cynyddodd yng Nghymru i £217,000 (0.4%) a chynyddodd yn yr Alban i £198,000 (5.7%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2024 i £191,000 yng Ngogledd Iwerddon (6.2%).
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.3% rhwng Awst 2024 a Medi 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 0.5% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% rhwng Awst 2024 a Medi 2024.
O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 6.5% yn y 12 mis hyd at Fedi 2024. Llundain oedd yr ardal gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle gostyngodd prisiau gan 0.5% yn y 12 mis hyd at Fedi 2024.
Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Medi 2024 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) welliant parhaus yng ngweithgarwch y farchnad, gyda’r mesurau galw, gwerthiannau a rhestriadau newydd i gyd yn dychwelyd i ddarlleniadau cadarnhaol. Gan edrych tua’r dyfodol, adroddodd RICS hefyd fod teimladau am y dyfodol yn gyson â thwf cymedrol pellach yn nifer y gwerthiannau pennawd dros y misoedd nesaf.
Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr – 2024 Chwarter 3 fod y toriad diweddar yn y gyfradd Banc wedi arwain at y teimladau gwell yn y farchnad dai eilaidd. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi cael ei adlewyrchu eto yn y gwerthiannau neu’r prisiau a gytunwyd.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU Cyllid a Thollau EF ar gyfer Medi 2024, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 92,000. Mae hyn 8.9% yn uwch na 12 mis yn ôl (Medi 2023). Rhwng Awst 2024 a Medi 2024, cynyddodd trafodion y DU gan 0.9% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.
Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Medi 2024 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu i 65,600 ym Medi 2024, y lefel uchaf er Awst 2022 (72,000).
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
2.9% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU yn y 12 mis hyd at Fedi 2024 (amcangyfrif dros dro), i fyny o’r amcangyfrif diwygiedig o 2.7% yn y 12 mis hyd at Awst 2024.
£292,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU ym Medi 2024 (amcangyfrif dros dro), sy’n £8,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Fedi 2024 yn Lloegr i £309,000 (2.5%), cynyddodd yng Nghymru i £217,000 (0.4%) a chynyddodd yn yr Alban i £198,000 (5.7%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2024 i £191,000 yng Ngogledd Iwerddon (6.2%).
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £216,750 | -2.2% | 0.4% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2024) | £190,553 | 2.8% | 6.2% |
Lloegr | £308,782 | -0.1% | 2.5% |
Yr Alban | £198,046 | -0.9% | 5.7% |
De Ddwyrain Lloegr | £383,104 | -0.4% | 1.8% |
De Orllewin Lloegr | £319,015 | 0.1% | 1.0% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £249,947 | -0.3% | 3.1% |
Dwyrain Lloegr | £342,470 | -0.3% | 1.2% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £257,129 | 0.7% | 3.0% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £170,644 | 2.4% | 6.5% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £225,977 | 0.4% | 4.8% |
Llundain | £525,586 | -0.8% | -0.5% |
Swydd Gaerefrog a Humber | £215,442 | -1.7% | 4.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.3% rhwng Awst 2024 a Medi 2024, o’i gymharu â gostyngiad o 0.5% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% rhwng Awst 2024 a Medi 2024.
Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Medi 2024 | Medi 2023 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £445,364 | £432,979 | 2.9% |
Tŷ pâr | £283,767 | £273,746 | 3.7% |
Tŷ teras | £242,428 | £235,157 | 3.1% |
Fflat neu fflat deulawr | £236,503 | £232,916 | 1.5% |
Holl | £291,828 | £283,680 | 2.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Yn ddiweddar, mae cyfanswm y trafodion sydd ar gael i gyfrifo amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer y misoedd diweddaraf wedi bod yn is nag yn hanesyddol (gweler Mynegai Prisiau Tai y DU Adran 2.2: Cywirdeb. Mae hyn wedi deillio o gyfuniad o gyfanswm nifer y trafodion yng Nghymru a Lloegr yn disgyn dros y flwyddyn ddiwethaf (nododd CTEF ostyngiad o 22% yn 2023) a gostyngiad yng nghyfran y trafodion, a broseswyd gan Gofrestrfa Tir EF, ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf. Y sampl ar gyfer yr amcangyfrif diweddaraf yw tua hanner y trafodion arferol. Effeithiwyd yn arbennig ar brosesu adeiladau newydd.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF yn cydweithio i ddatrys hyn, gan gynnwys ceisio mwy o gydbwysedd rhwng prosesu ceisiadau a dderbyniwyd yn ddiweddar a’r rheini sy’n hŷn, er mwyn helpu i ddiogelu ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.
Yn 2020, cyflwynwyd system gronni ar gyfer trafodion adeiladau newydd am rai misoedd yng Nghymru a Lloegr. Yn Rhagfyr 2023, cyflwynwyd gwelliant methodoleg i fodel Prydain Fawr, oedd yn cynyddu cydlyniad y DU ac yn gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU. O Ragfyr 2023, cynyddodd Cofrestrfa Tir EF brosesu Mynegai Prisiau Tai y DU, felly disgwylir i gyfran cyfanswm y trafodion a broseswyd ar gyfer yr amcangyfrif cyntaf gynyddu yn y misoedd nesaf.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Medi 2024 yn seiliedig ar tua 33,400 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 5,700 ar gyfer yr Alban, a 1,700 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 44% o amcangyfrif gwerthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Medi 2024, fel y manylir yn ei gyhoeddiad Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth £40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol â’r polisi diwygiadau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.
Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad Ansawdd Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau’r gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neu’n fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond yn cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.
Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygio, dulliau ac ansawdd ar gael yng nghyfarwyddyd Mynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Gwlad | Gorffennaf 2024 | Gorffennaf 2023 |
---|---|---|
Cymru | 2,080 | 2,872 |
Gogledd Iwerddon | 1,991 | 1,998 |
Lloegr | 35,666 | 52,069 |
Yr Alban | 8,624 | 8,211 |
Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2024, lleihaodd nifer y trafodion gan 9.9% yn Lloegr, cynyddodd gan 7.2% yn yr Alban, a lleihaodd gan 10.1% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 8.1% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2024.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 14.2% yn Lloegr, gan 7.1% yn yr Alban, gan 15.9% yng Nghymru a chan 9.3% yng Ngogledd Iwerddon.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2020 i 2024 yn ôl gwlad: Gorffennaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2024 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2023 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2024, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 6.6%.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF yn y DU wedi cynyddu gan 13.5% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2024.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog Gorffennaf 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £424,569 | 6.8% | 22.6% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £283,812 | 0.6% | 1.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog Medi 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £245,208 | -0.4% | 3.2% |
Cyn berchen-feddiannydd | £336,819 | -0.2% | 2.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
Statws cyllido | Pris cyfartalog Medi 2024 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £275,731 | -0.2% | 2.2% |
Morgais | £303,920 | -0.4% | 3.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Dosbarthiadau trafodion tai
Rhwng Ebrill a Mehefin 2024 cafwyd 156,646 o werthiannau eiddo.
Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:
- Cymru oedd £150,000 i £174,999 – 798 o eiddo wedi eu prynu
- Gogledd Iwerddon oedd £150,000 i £174,999 – 734 o eiddo wedi eu prynu
- Lloegr oedd £175,000 i £199,999 – 8,052 o eiddo wedi eu prynu
- yr Alban oedd £125,000 i £149,999 – 2,502 o eiddo wedi eu prynu
Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2024 ar gyfer gwledydd y DU. Mae’r data ar gyfer Prydain Fawr wedi eu cyflwyno mewn bandiau o £25,000 hyd at £10 miliwn, wedi ei ddilyn gan fand mwy ar gyfer dros £10 miliwn. Mae’r data ar gyfer Gogledd Iwerddon wedi eu cyflwyno mewn bandiau o £25,000 i £500,000, wedi ei ddilyn gan fand mwy ar gyfer dros £500,000.
Yn unol â pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael eu cynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.
Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 006 5288
Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost aimee.north@ons
Ffôn 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost [email protected]
Ffôn 028 90 336035
Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost [email protected]
Ffôn 0131 378 4991