Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ebrill 2017
Cyhoeddwyd 13 Mehefin 2017
1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2017
pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd
£220,094
y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
5.6%
y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
1.6%
y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd
115.4
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
2. Datganiad economaidd
Tyfodd prisiau tai y DU gan 5.6% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2017, sef 1.1 pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2017.
O ran y galw am dai, nododd arolwg o’r farchnad breswyl Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Ebrill 2017 fod disgwyliadau prisiau’n weddol gadarnhaol tra bo ymholiadau gan brynwyr newydd yn parhau’n isel.
Dangosodd ystadegau Trafodion Eiddo y DU fod cyfanswm y trafodion eiddo wedi’u haddasu’n dymhorol a gwblhawyd yn y DU gyda gwerth o £40,000 neu ragor wedi cynyddu gan 20.3% yn Ebrill 2017 o’i gymharu ag Ebrill 2016. Roedd y lefel anarferol o isel o drafodion yn Ebrill 2016 yn gysylltiedig â’r cyfraddau treth uwch ar eiddo ychwanegol a gyflwynwyd y mis hwnnw. O gymharu Ebrill 2017 â Mawrth 2017, cwympodd trafodion eiddo gan 3.2%.
Gan edrych yn fwy manwl ar lefel ranbarthol y DU, roedd y twf mwyaf mewn prisiau tai yn Nwyrain Lloegr (8.1%) a’r twf lleiaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr (0.6%) yn y 12 mis hyd at Ebrill 2017. Tyfodd prisiau tai gan 4.7% yn Llundain yn y 12 mis hyd at Ebrill 2017, sef 1.5 pwynt canran yn uwch nag yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2017. Dyma’r tro cyntaf mewn 11 mis i’r gyfradd twf prisiau gynyddu yn Llundain. Mae hyn yn cyd-fynd â RICS sydd wedi nodi disgwyliadau pris negyddol yn Llundain am yr 13 mis yn olynol hyd at Ebrill 2017.
Yn ôl diweddariad Mai crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr, roedd gweithgarwch yn dawel yn y farchnad dai o ran galw a chyflenwi.
Ar yr ochr gyflenwi nododd RICS fod cyfarwyddiadau gwerthu newydd wedi parhau’n negyddol am y pedwerydd mis ar ddeg yn olynol. Nododd hefyd fod lefelau stoc cyfartalog asiantau tai yn parhau’n agos at y nifer isaf erioed. Yn ogystal, nododd RICS fod “prinder dybryd o stoc yn parhau i fod yn ffactor allweddol ac yn effeithio ar brisiau am y tro”.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £147,921 | 0.9% | 4.2% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2017) | £124,007 | -0.8% | 4.3% |
Lloegr | £236,519 | 1.3% | 5.7% |
Yr Alban | £145,735 | 5.4% | 6.8% |
De Ddwyrain Lloegr | £315,334 | 0.3% | 5.9% |
De Orllewin Lloegr | £243,215 | 0.7% | 6.8% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £178,844 | 1.6% | 6.5% |
Dwyrain Lloegr | £280,690 | 0.6% | 8.1% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £183,250 | 1.3% | 6.0% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £123,234 | 1.0% | 0.6% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £152,765 | 2.1% | 4.1% |
Llundain | £482,779 | 0.7% | 4.7% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £155,357 | 3.9% | 4.9% |
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Ebrill 2017 | Ebrill 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £332,839 | £311,664 | 6.8% |
Tŷ pâr | £206,873 | £195,838 | 5.6% |
Tŷ teras | £177,379 | £170,071 | 4.3% |
Fflat neu fflat deulawr | £199,075 | £187,786 | 6.0% |
Holl | £220,094 | £208,443 | 5.6% |
4. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
4.1 Nifer y gwerthiannau: Chwefror 2017
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Chwefror 2017 | Chwefror 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Lloegr | 52,883 | 64,679 | -18.2% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2017) | 4,379 | 6,127 | -28.5% |
Yr Alban | 5,662 | 5,507 | 2.8% |
Cymru | 2,908 | 3,188 | -8.8% |
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2013 i 2017 yn ôl gwlad: Chwefror 2017
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.
Statws eiddo | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £287,577 | 0.6% | 12.5% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £215,732 | 1.7% | 5.1% |
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £185,266 | 1.4% | 5.0% |
Cyn berchen-feddiannydd | £256,128 | 1.9% | 6.4% |
7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.
Statws ariannu | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £208,985 | 1.1% | 5.5% |
Morgais | £230,188 | 1.9% | 5.9% |
8. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084
Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035
Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data, Cofrestri’r Alban
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau’r Alban 44 (0)131 659 6111 Est. 6387