Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ebrill 2018
Cyhoeddwyd 13 Mehefin 2018
1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2018
pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd
£226,906
y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
3.9%
y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
1.2%
y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd
119.0
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mai 2018 am 9.30am ddydd Mercher 18 Gorffennaf 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Tyfodd prisiau tai y DU gan 3.9% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2018, i lawr o 4.2% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2018.
Wrth edrych ar y galw am dai, dangosodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Ebrill 2018 fod y gyfres ymholiadau gan brynwyr newydd fwy neu lai yn ddigyfnewid yn ystod Ebrill.
Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS fod eu cyfarwyddiadau newydd yn parhau i ostwng. Mae stociau cyfartalog fesul asiant tai sy’n ymateb wedi aros yn agos i’r lefel isaf erioed. Mae disgwyliadau o ran gwerthiannau a phrisiau yn parhau i fod yn wastad yn y tymor byr, fodd bynnag ceir mwy o optimistiaeth yn y rhagolygon tymor hwy, yn enwedig o ran prisiau.
Yng Nghrynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr am y cyfnod yn cwmpasu diwedd Chwefror hyd at ganol mis Ebrill, adroddodd Asiantau fod gweithgarwch marchnad wedi tawelu’n gyffredinol. Roedd y galw a’r cyflenwad yn wan yn y farchnad ar gyfer eiddo presennol, tra bod y galw am adeiladau newydd wedi bod yn gadarn, gyda chymorth Cymorth i Brynu. Cafwyd rhywfaint o gyflenwad gormodol yn y de a galw gormodol yn y gogledd, gan arwain at gyflenwad cymedrol dros ben yn gyffredinol.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mawrth 2018 ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, y cafwyd 100,190 o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy. Mae hyn 2.7% yn is o’i gymharu â blwyddyn yn ôl. Rhwng Mawrth ac Ebrill 2018, cynyddodd trafodion gan 3.5%.
Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr, ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, y cafodd 62,455 o forgeisiau eu cymeradwyo yn Ebrill 2018. Mae hyn yn lleihad o 347 ers y mis blaenorol ac yn is na’r cyfartaledd 6 mis o 63,968. Ystyrir bod nifer y morgeisiau a gafodd eu cymeradwyo yn brif ddangosydd nifer y trafodion.
Wrth edrych ar lefel gwlad a rhanbarth yn Lloegr, dangosodd De Orllewin Lloegr y twf blynyddol cyflymaf gyda thwf blynyddol o 6.1%, i fyny o 5.3% ar y mis blynyddol. Dilynwyd hyn yn agos gan Orllewin Canolbarth Lloegr ar 5.9%. Llundain oedd y rhanbarth arafaf i dyfu ar 1%, i fyny o -0.5% ar y mis blynyddol. Dyma’r 6ed mis olynol i Lundain gael y twf blynyddol isaf o fewn unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig neu ranbarth yn Lloegr.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 3.9% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2018 (i lawr o 4.2 ym Mawrth 2018).
Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yn yr Alban, lle y cynyddodd prisiau tai gan 5.6% dros y flwyddyn hyd at Ebrill 2018.
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai gan 4.4% dros y 12 mis diwethaf.
Yn Lloegr, cynyddodd y pris cyfartalog gan 3.7% dros y flwyddyn.
Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 4.2% dros y flwyddyn i chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2018.
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £156,495 | 1.6% | 4.4% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2018) | £130,026 | 0.3% | 4.2% |
Lloegr | £243,639 | 1.1% | 3.7% |
Yr Alban | £148,952 | 2.5% | 5.6% |
De Ddwyrain Lloegr | £324,530 | 0.9% | 3.5% |
De Orllewin Lloegr | £255,207 | 1.8% | 6.1% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £186,480 | 1.3% | 4.8% |
Dwyrain Lloegr | £286,447 | -0.8% | 2.5% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £192,090 | 0.8% | 5.9% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £130,489 | 4.2% | 4.5% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £155,868 | 0.0% | 2.4% |
Llundain | £484,584 | 2.4% | 1.0% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £158,545 | 1.4% | 3.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2018, o’i gymharu â chynnydd o 0.5% mewn prisiau cyfartalog yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach.
Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Ebrill 2018 | Ebrill 2017 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £342,154 | £329,648 | 3.8% |
Tŷ pâr | £214,717 | £203,912 | 5.3% |
Tŷ teras | £184,304 | £176,044 | 4.7% |
Fflat neu fflat deulawr | £202,052 | £199,983 | 1.0% |
Holl | £226,906 | £218,481 | 3.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw’r ffigurau ar gyfer nifer y gwerthiannau am y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Chwefror 2018 | Chwefror 2017 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Lloegr | 51,340 | 60,662 | -15.4% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2018) | 4,545 | 5,187 | -12.4% |
Yr Alban | 5,288 | 5,816 | -9.1% |
Cymru | 2,947 | 3,225 | -8.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2014 i 2018 yn ôl gwlad: Chwefror
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yn Chwefror 2018, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 16.8% o’i gymharu â Chwefror 2017. O’i gymharu ag Ionawr 2018, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 4.9%.
Mae’r amcangyfrif ar gyfer Chwefror 2018 wedi’i gyfrifo ar sail oddeutu 90% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Mae nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2018 yn debygol o gynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.
Gweler ein polisi diwygiadau am ragor o wybodaeth.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog Chwefror 2018 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £297,238 | 6.4% | 11.5% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £220,551 | 0.0% | 4.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn methods used to produce the UK HPI.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog Ebrill 2018 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £191,646 | 1.4% | 3.8% |
Cyn berchen-feddiannydd | £263,098 | 1.0% | 3.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.
Statws ariannu | Pris cyfartalog Ebrill 2018 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £216,066 | 1.1% | 3.6% |
Morgais | £236,928 | 1.3% | 4.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
[email protected]
Ffôn
0300 0068317
Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost
[email protected]
Ffôn
01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost
[email protected]
Ffôn
028 90 336035
Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost
[email protected]
Ffôn
(0)131 659 6111 Est. 6387