Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Awst 2016
Cyhoeddwyd 18 Hydref 2016
1. Prif ystadegau
Ar gyfer Awst 2016:
- pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £218,964
- y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 8.4%
- y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.3%
- y ffigur mynegai misol ar gyfer y DU oedd 114.8 (Ionawr 2015 = 100)
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
2. Datganiad economaidd
Awgrymodd dangosyddion y farchnad dai ar gyfer Awst fod y mis hwn wedi bod yn gyfnod cymharol sefydlog. Tyfodd prisiau tai gan 8.4% yn y flwyddyn hyd at Awst, i fyny ychydig o 8.0% yng Ngorffennaf. Er na fu llawer o newid yn y galw a’r cyflenwad o’i gymharu â’r mis blaenorol, parhaodd dangosyddion rywfaint yn wannach nag yn 2015 ac ar ddechrau 2016.
O ran y galw am dai, gostyngodd nifer y cymeradwyaethau rhoi benthyg ar gyfer prynu tai ychydig yn Awst o’i gymharu â Gorffennaf, gan barhau ar y lefelau a welwyd ar ddechrau 2015. Arhosodd gwerthiannau tai y DU yn sefydlog rhwng Gorffennaf ac Awst ond maent yn parhau’n is na’r lefelau a welwyd yn 2014, 2015 a chyn y newidiadau i’r doll stampiau ar ddechrau 2016. Nododd arolwg o’r farchnad Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Awst fod ymholiadau gan brynwyr newydd wedi cwympo dros y tri mis diwethaf, gyda’r galw gan fuddsoddwyr prynu i osod wedi cwympo’n fwy sydyn na’r galw gan brynwyr am y tro cyntaf a pherchnogion presennol.
Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS fod rhestriadau gwerthiannau newydd yn parhau’n isel, gan gwympo ychydig yn Awst o’i gymharu â Gorffennaf. Nododd cyhoeddiad diweddaraf Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ostyngiad misol o 0.8% yn allbwn tai a adeiledir o’r newydd yng Ngorffennaf, er bod allbwn yn parhau 6.2% yn uwch nag yng Ngorffennaf 2015. Nododd Crynodeb Asiantau Banc Lloegr fod gweithgarwch yn ardal Llundain wedi arafu, ond nad oedd y gweithgarwch wedi newid mewn mannau eraill yn y DU.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £144,514 | -0.6% | 2.7% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2016) | £123,241 | 3.8% | 7.8% |
Lloegr | £235,573 | 1.4% | 9.2% |
Yr Alban | £144,561 | 1.3% | 4.3% |
De Ddwyrain Lloegr | £317,904 | 1.9% | 12.2% |
De Orllewin Lloegr | £243,226 | 2.3% | 9.0% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £175,610 | 1.6% | 7.6% |
Dwyrain Lloegr | £276,952 | 1.4% | 13.3% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £179,429 | 1.6% | 6.9% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £127,385 | -0.2% | 3.0% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £151,489 | 0.9% | 6.3% |
Llundain | £488,908 | 1.3% | 12.1% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £152,394 | 0.6% | 4.9% |
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Awst 2016 | Awst 2015 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £330,574 | £304,063 | 8.7% |
Tŷ pâr | £205,239 | £189,427 | 8.3% |
Tŷ teras | £177,087 | £164,258 | 7.8% |
Fflat neu fflat deulawr | £198,183 | £181,747 | 9.0% |
Holl | £218,964 | £201,973 | 8.4% |
4. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
4.1 Nifer y gwerthiannau: Mehefin 2016
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Mehefin 2016 | Mehefin 2015 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Cymru | 3,046 | 4,181 | -27.1% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2016) | 4,075 | 5,200 | -21.6% |
Lloegr | 57,637 | 85,020 | -32.2% |
Yr Alban | 8,620 | 9,307 | -7.4% |
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Mehefin 2016
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £294,832 | 12.7% | 24.8% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £214,029 | 0.5% | 7.3% |
Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £184,423 | 1.0% | 8.2% |
Cyn berchen-feddiannydd | £254,335 | 1.5% | 8.7% |
7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.
Statws ariannu | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £207,982 | 1.2% | 7.8% |
Morgais | £228,808 | 1.4% | 8.9% |
8. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084
Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035