Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Rhagfyr 2017
Cyhoeddwyd 13 Chwefror 2018
1. Prif ystadegau ar gyfer Rhagfyr 2017
pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd
£226,756
y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
5.2%
y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
0.4%
y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd
118.9
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
2. Datganiad economaidd
Tyfodd prisiau tai y DU gan 5.2% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2017, i fyny o 5.0%, yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2017.
Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU ar gyfer Rhagfyr 2017 (PDF,633KB) Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod ei gyfres o ddisgwyliadau pris yn y dyfodol agos yn parhau’n negyddol ar -6%. Wedi iddynt sefydlogi yn yr adroddiad blaenorol, lleihaodd ymholiadau gan brynwyr newydd gyda gweddill net o ‑15% o ymatebwyr yn nodi lleihad yn y galw (yn hytrach na chynnydd), o’i gymharu â -5% yn Nhachwedd.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Rhagfyr 2017 (PDF,829KB) fod nifer y trafodion wedi’u haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy wedi lleihau gan 0.1% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2017. Rhwng Tachwedd 2017 a Rhagfyr 2017, lleihaodd trafodion gan 3.9%.
Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS fod ei weddill net ar gyfer cyfarwyddiadau newydd wedi parhau’n negyddol am y 24ain mis yn olynol. Parhaodd y lefelau stoc a nodwyd gan asiantau tai yn sefydlog ar y cyfan, dal yn agos i’r lefelau isaf erioed. Arhosodd eu rhagolygon tri mis ar gyfer disgwyliadau gwerthiannau cenedlaethol yn wastad, er bod mwy o optimistiaeth ar gyfer y rhagolygon deuddeg mis.
Wrth edrych ar ranbarthau Lloegr, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yn Ne Orllewin Lloegr ar 7.5%, i fyny o 6.1% yn y mis blaenorol. Dilynwyd hyn gan Ddwyrain a Gorllewin Canolbarth Lloegr, gyda’r ddwy ardal yn tyfu ar 6.3%. Ar 2.5%, Llundain oedd â’r twf blynyddol isaf o holl ranbarthau’r DU, er bod hyn i fyny o 2.0% yn y mis blaenorol. Dyma’r 13eg mis yn olynol i’r twf blynyddol yn Llundain barhau’n is na chyfartaledd y DU. Yorkshire and The Humber oedd yr ail ardal arafaf, yn tyfu ar 2.8%.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 5.2% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2017 (i fyny o 5.0% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2017).
Cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yn yr Alban, lle y cynyddodd prisiau tai gan 7.7% dros y flwyddyn hyd at Ragfyr 2017.
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai gan 5.4% dros y 12 mis diwethaf.
Yn Lloegr, cynyddodd y pris cyfartalog gan 5.0% dros y flwyddyn.
Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 4.3% dros y flwyddyn hyd at chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2017.
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £154,398 | 1.0% | 5.4% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2017) | £130,482 | 1.0% | 4.3% |
Lloegr | £243,582 | 0.4% | 5.0% |
Yr Alban | £148,783 | 0.2% | 7.7% |
De Ddwyrain Lloegr | £322,269 | -0.5% | 4.2% |
De Orllewin Lloegr | £254,081 | 1.0% | 7.5% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £185,694 | 0.6% | 6.3% |
Dwyrain Lloegr | £290,341 | 0.2% | 5.2% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £191,050 | 0.1% | 6.3% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £130,838 | 2.7% | 3.6% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £158,370 | 0.2% | 5.9% |
Llundain | £484,173 | 0.8% | 2.5% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £156,781 | 0.2% | 2.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Rhagfyr 2017 | Rhagfyr 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £342,541 | £325,270 | 5.3% |
Tŷ pâr | £213,023 | £201,622 | 5.7% |
Tŷ teras | £183,085 | £174,168 | 5.1% |
Fflat neu fflat deulawr | £204,949 | £195,784 | 4.7% |
Holl | £226,756 | £215,500 | 5.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw’r ffigurau ar gyfer nifer y gwerthiannau am y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Hydref 2017 | Hydref 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Cymru | 3,805 | 3,957 | -3.8% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2017) | 5,501 | 6,033 | -8.8% |
Lloegr | 63,603 | 70,825 | -10.2% |
Yr Alban | 8,831 | 8,503 | 3.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2013 i 2017 yn ôl gwlad: Hydref
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yn Hydref 2017, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 8.5% o’i gymharu â Hydref 2016. O’i gymharu â Medi 2017, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 6.6%.
Mae’r amcangyfrif ar gyfer Hydref 2017 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 90% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Mae nifer y trafodion eiddo ar gyfer Hydref 2017 yn debygol o gynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.
Statws eiddo | Pris cyfartalog Hydref 2017 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £299,443 | 2.2% | 14.3% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £221,588 | 0.2% | 5.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Er Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn Improvement to the calculation of provisional estimates within the UK HPI.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog Rhagfyr 2017 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £190,722 | 0.0% | 4.7% |
Cyn berchen-feddiannydd | £263,775 | 0.7% | 5.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.
Statws ariannu | Pris cyfartalog Rhagfyr 2017 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £215,985 | 0.3% | 5.2% |
Morgais | £236,636 | 0.4% | 5.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Mae ystadegau’n cael eu hadolygu bob chwarter i gynnwys gwerthiannau a dderbyniwyd ers y cyhoeddiad diwethaf, sef gwerthiannau eiddo newydd sydd wedi eu cynnwys yn Rhestr Brisio GI a gwerthiannau hwyr a adroddir i CThEM. Gwelwyd adolygiad sylweddol i lawr i’r prisiau/mynegai annedd newydd yn Ch3 2017, a oedd yn bennaf oherwydd bod mwy o werthiannau ar gael, ond gwaethygodd oherwydd gwall prosesu mewnol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen 4 o adroddiad ystadegol Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon.
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU
0300 0068084
Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau data
01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon
028 90 336035
Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau’r Alban
44 (0)131 659 6111 Est. 6387