Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Rhagfyr 2018
Cyhoeddwyd 13 Chwefror 2019
1. Prif ystadegau ar gyfer Rhagfyr 2018
pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd
£230,776
y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
2.5%
y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
0.2%
y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd
121.0
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ionawr 2019 am 9.30am ddydd Mercher 20 Mawrth 2019. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Tyfodd prisiau tai y DU gan 2.5% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2018, i lawr o 2.7%, yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2018. Dyma’r twf blynyddol isaf ar gyfer y DU er Gorffennaf 2013, pan gynyddodd prisiau tai gan 2.3%.
Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Iwerddon lle y cynyddodd prisiau gan 5.5% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2018. Dilynwyd hyn gan Gymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr, gyda’r ddwy ardal yn cynyddu gan 5.2% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2018. Roedd y twf blynyddol isaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle y gostyngodd prisiau gan 1.0% dros y flwyddyn hyd at Ragfyr 2018, i lawr o gynnydd o 1.7% yn Nhachwedd 2018. Dilynwyd hyn gan Lundain lle y gostyngodd prisiau gan 0.6% dros y flwyddyn. Mae prisiau tai Llundain wedi bod yn gostwng dros y flwyddyn bob mis er Gorffennaf 2018.
Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr ar gyfer Chwarter 4 2018 fod cyflenwad isel o dai ynghyd â llai o alw am dai. Roedd gweithgarwch tai yn ne Lloegr yn dawel oherwydd ansicrwydd, gyda thrafodion yn cael eu gohirio tan ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Parhaodd y galw am dai newydd yn gryfach y tu allan i Lundain, yn rhannol oherwydd bod adeiladwyr tai yn cynnig mwy o gymhelliant i gwblhau gwerthiannau.
Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Rhagfyr 2018 fod ymholiadau gan brynwyr newydd wedi disgyn am y pumed mis yn olynol. Ynghyd â’r cwymp yn y galw gwelwyd diffyg stoc newydd yn dod i’r farchnad wrth i ddangosydd yr arolwg ar gyfarwyddiadau newydd barhau yn nhir negyddol am y chweched adroddiad yn olynol.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Rhagfyr 2018, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, y cafwyd 102,330 o drafodion ar eiddo preswyl gwerth £40,000 neu fwy. Mae hyn 3.6% yn uwch o’i gymharu â blwyddyn yn ôl. Rhwng Tachwedd 2018 a Rhagfyr 2018, disgynnodd nifer y trafodion gan 0.1%.
Mae datganiad diweddaraf Arian a Chredyd Banc Lloegr yn dangos y cafodd oddeutu 63,800 o forgeisi eu cymeradwyo ar gyfer prynu tai (dangosydd benthyca yn y dyfodol) yn Rhagfyr, yn ddigyfnewid o Dachwedd, ond ychydig yn is na’r nifer cyfartalog yn 2018 sef oddeutu 65,200.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.5% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2018 (i lawr o 2.7% yn Nhachwedd 2018).
Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yng Ngogledd Iwerddon, lle y cynyddodd gan 5.5% dros y flwyddyn hyd at chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2018.
Cynyddodd y pris cyfartalog yng Nghymru gan 5.2% dros y flwyddyn hyd at Ragfyr 2018.
Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 2.4% dros y 12 mis diwethaf.
Yn Lloegr, cynyddodd y pris cyfartalog gan 2.3% dros y flwyddyn.
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £161,845 | 0.8% | 5.2% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2018) | £136,669 | 1.3% | 5.5% |
Lloegr | £247,886 | 0.3% | 2.3% |
Yr Alban | £148,711 | -0.9% | 2.4% |
De Ddwyrain Lloegr | £324,729 | 0.1% | 1.2% |
De Orllewin Lloegr | £256,427 | -0.3% | 2.9% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £192,748 | -0.2% | 4.2% |
Dwyrain Lloegr | £289,602 | -1.1% | 0.2% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £200,388 | 2.0% | 5.2% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £128,756 | -0.4% | -1.0% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £164,352 | 0.4% | 3.5% |
Llundain | £473,822 | 0.1% | -0.6% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £165,119 | 2.0% | 4.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Tachwedd 2018 a Rhagfyr 2018, o’i gymharu â chynnydd o 0.4% mewn prisiau cyfartalog yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Tachwedd 2017 a Rhagfyr 2017). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Tachwedd 2018 a Rhagfyr 2018.
Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Rhagfyr 2018 | Rhagfyr 2017 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £349,871 | £338,959 | 3.2% |
Tŷ pâr | £219,116 | £211,742 | 3.5% |
Tŷ teras | £187,198 | £182,366 | 2.7% |
Fflat neu fflat deulawr | £203,578 | £203,168 | 0.2% |
Holl | £230,776 | £225,164 | 2.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Hydref 2018 | Hydref 2017 |
---|---|---|
Lloegr | 66,599 | 77,047 |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2018) | 5,736 | 6,784 |
Yr Alban | 9,003 | 9,047 |
Cymru | 3,911 | 4,471 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r misoedd diweddaraf yn gyflawn eto.
Mae’r amcangyfrif ar gyfer Hydref 2018 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Hydref 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Hydref 2017 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Hydref 2018, cynyddodd nifer y trafodion gan 4.7% yn Lloegr, 1.9% yn yr Alban, 2.8% yng Nghymru a 4.3% yng Ngogledd Iwerddon.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 1.0% yn Lloegr, wedi lleihau gan 10.0% yn yr Alban ac wedi cynyddu gan 0.6% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Hydref 2018.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2014 i 2018 yn ôl gwlad: Hydref
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Mae’r amcangyfrif ar gyfer Hydref 2018 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Hydref 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
O gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Hydref 2017 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Hydref 2018, cynyddodd nifer y trafodion gan 4.5%.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 0.1% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2018.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog Hydref 2018 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £296,460 | 2.3% | 7.2% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £227,181 | -0.4% | 2.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog Rhagfyr 2018 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £194,237 | 0.2% | 2.0% |
Cyn berchen-feddiannydd | £268,067 | 0.1% | 2.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.
Statws ariannu | Pris cyfartalog Rhagfyr 2018 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £220,271 | 0.2% | 2.4% |
Morgais | £240,425 | 0.2% | 2.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
[email protected]
Ffôn
0300 0068317
Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost
[email protected]
Ffôn
01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost
[email protected]
Ffôn
028 90 336035
Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost
[email protected]