Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ionawr 2017
Cyhoeddwyd 21 Mawrth 2017
1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2017
pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd
£218,255
y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
6.2%
y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
0.8%
y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd
114.5
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
2. Datganiad economaidd
Awgrymodd dangosyddion y farchnad dai ar gyfer Ionawr alw cymharol fach sy’n parhau’n fwy na’r cyflenwad. Tyfodd prisiau tai y DU gan 6.2% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2017, sef 0.5 pwynt canran yn uwch nag yn Rhagfyr 2016. Fodd bynnag mae hyn yn parhau’n is na’r twf blynyddol cyfartalog mewn prisiau tai o 7.4% a welwyd yn 2016.
Nododd arolwg o’r farchnad breswyl Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Ionawr 2017 na fu llawer o newid yn nifer y trafodion ac ymholiadau gan brynwyr newydd rhwng Ionawr 2017 a Rhagfyr 2016. Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS na fu unrhyw welliant yn y rhestriadau cenedlaethol o dai am yr 11fed mis yn olynol. Llundain oedd yr unig ardal lle mae disgwyliadau prisiau yn y dyfodol agos yn negyddol, tra bo disgwyliadau prisiau yn gadarnhaol yn holl ranbarthau eraill y DU.
Dangosodd cymeradwyaethau rhoi benthyg wedi’u gwarantu ar anheddau Banc Lloegr ar gyfer Ionawr 2017 fod nifer y cymeradwyaethau ar gyfer prynu tai wedi gostwng gan 3.9% o’i gymharu ag Ionawr 2016. Fodd bynnag cynyddodd cyfanswm y cymeradwyaethau rhoi benthyg wedi’u gwarantu ar anheddau, sy’n cynnwys ailforgeisio a dibenion eraill, gan 3.2% o Ionawr 2016 i Ionawr 2017. Nododd crynodeb Asiantau (PDF 68KB) Banc Lloegr ar gyfer Chwefror 2017 fod gweithgarwch yn y farchnad dai wedi bod yn araf ar y cyfan, a disgwylir iddo barhau felly dros y flwyddyn nesaf.
Nododd adroddiad Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn Rhagfyr 2016 fod cyfanswm y tai newydd 6.7% yn uwch nag yn Rhagfyr 2015. Ar gyfer y 13 mis o Ragfyr 2015 i Ragfyr 2016 mae cyfradd twf 12 mis cyfanswm y tai newydd wedi bod yn gadarnhaol, fodd bynnag nid ymddengys fod hyn wedi lleddfu’r broblem o fwy o alw am dai na’r cyflenwad.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £145,933 | -0.6% | 4.2% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2016) | £125,480 | 0.6% | 5.7% |
Lloegr | £234,794 | 0.7% | 6.5% |
Yr Alban | £142,233 | 2.1% | 4.0% |
De Ddwyrain Lloegr | £319,368 | 2.4% | 8.7% |
De Orllewin Lloegr | £243,203 | 1.9% | 7.4% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £174,222 | -0.4% | 5.6% |
Dwyrain Lloegr | £279,231 | 0.2% | 9.4% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £179,633 | 0.4% | 5.8% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £123,781 | -1.5% | 2.2% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £149,767 | -0.4% | 4.6% |
Llundain | £490,718 | 3.0% | 7.3% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £148,458 | -2.6% | 2.7% |
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Ionawr 2017 | Ionawr 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £332,284 | £308,899 | 7.6% |
Tŷ pâr | £203,915 | £193,042 | 5.6% |
Tŷ teras | £174,559 | £166,305 | 5.0% |
Fflat neu fflat deulawr | £199,706 | £186,061 | 7.3% |
Holl | £218,255 | £205,457 | 6.2% |
4. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
4.1 Nifer y gwerthiannau: Tachwedd 2016
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Tachwedd 2016 | Tachwedd 2015 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Lloegr | 62,482 | 79,243 | -21.2% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2016) | 5,081 | 6,163 | -17.6% |
Yr Alban | 8,594 | 8,877 | -3.2% |
Cymru | 3,582 | 4,082 | -12.2% |
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Tachwedd 2016
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £312,561 | 12.9% | 27.6% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £212,337 | -0.1% | 4.8% |
Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £183,295 | 0.4% | 5.8% |
Cyn berchen-feddiannydd | £253,825 | 1.0% | 6.6% |
7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.
Statws ariannu | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £207,195 | 0.5% | 5.8% |
Morgais | £227,952 | 0.9% | 6.5% |
8. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084
Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035
Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data, Cofrestri’r Alban
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau’r Alban 44 (0)131 659 6111 Est. 6387