Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ionawr 2021
Cyhoeddwyd 24 Mawrth 2021
1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2021
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £249,309
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 7.5%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -0.5%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 130.8
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Chwefror 2021 am 9.30am ddydd Mercher 21 Ebrill 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai y DU gan 7.5% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021, i lawr o 8.0% yn Rhagfyr 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Rhagfyr 2020 ac Ionawr 2021, o’i gymharu â chynnydd o 0.1% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Rhagfyr 2019 ac Ionawr 2020).
Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Orllewin Lloegr lle cynyddodd prisiau gan 12.0% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021. Gwelwyd y twf blynyddol isaf yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 4.7% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021.
Mae canlyniadau Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Ionawr 2021 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn dangos bod ymholiadau, gwerthiannau a chyfarwyddiadau newydd wedi lleihau am y tro cyntaf ers Mai, ond bod prisiau tai yn parhau i godi.
Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr ar gyfer Chwarter 4 2020, ar ôl sawl mis o weithgarwch bywiog yn y farchnad dai, fod y farchnad wedi arafu ychydig bach yn Nhachwedd 2020. Roedd hyn i’w briodoli’n bennaf i’r cyfyngiadau cysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19) a gyflwynwyd mewn rhannau gwahanol o’r DU. Fodd bynnag, roedd y galw wedi ei ategu gan brynwyr oedd am gwblhau trafodion prynu tŷ cyn i’r toriad dros dro yn y doll stamp ddod i ben ym Mawrth 2021.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Ionawr 2021, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 121,640. Mae hyn 24.1% yn uwch na flwyddyn yn ôl. Rhwng Rhagfyr 2020 ac Ionawr 2021, lleihaodd trafodion y DU gan 2.4% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.
Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Ionawr 2021 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol) yn Ionawr 2021 yn 99,000, sy’n unol â’r cyfartaledd o 100,000 ers Hydref 2020.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 7.5% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021, i lawr o 8.0% yn Rhagfyr 2020.
Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 9.6%.
Yn Lloegr cynyddodd prisiau tai gan 7.5% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021.
Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 6.9% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021.
Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 5.3% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2020.
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £178,907 | -1.9% | 9.6% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2020) | £147,593 | 3.0% | 5.3% |
Lloegr | £266,532 | -0.6% | 7.5% |
Yr Alban | £164,099 | 1.0% | 6.9% |
De Ddwyrain Lloegr | £342,420 | 0.1% | 6.4% |
De Orllewin Lloegr | £274,648 | -1.8% | 6.7% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £209,927 | -1.2% | 7.6% |
Dwyrain Lloegr | £310,639 | 0.7% | 7.5% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £210,454 | -2.3% | 4.7% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £138,151 | -1.3% | 8.5% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £184,234 | 0.7% | 12.0% |
Llundain | £501,320 | 0.1% | 5.3% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £179,248 | -1.4% | 8.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Rhagfyr 2020 ac Ionawr 2021, o’i gymharu â chynnydd o 0.1% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Rhagfyr 2019 ac Ionawr 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, roedd prisiau tai cyfartalog yn ddigyfnewid yn y DU rhwng Rhagfyr 2020 ac Ionawr 2021.
Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Ionawr 2021 | Ionawr 2020 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £382,964 | £352,477 | 8.6% |
Tŷ pâr | £241,084 | £221,106 | 9.0% |
Tŷ teras | £203,170 | £187,760 | 8.2% |
Fflat neu fflat deulawr | £208,960 | £203,628 | 2.6% |
Holl | £249,309 | £231,940 | 7.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Tachwedd 2020 | Tachwedd 2019 |
---|---|---|
Lloegr | 64,515 | 76,702 |
Gogledd Iwerddon (trydedd ran o’r gwerthiannau yn Chwarter 4) | 2,467 | 2,252 |
Yr Alban | 11,842 | 9,990 |
Cymru | 3,585 | 4,494 |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 4.9% yn Lloegr a chan 11.4% yng Nghymru, ond cynyddodd gan 20.3% yn yr Alban. Cynyddodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 22.9% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 2020.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 8.7% yn Lloegr, 0.8% yng Nghymru, 21.8% yn yr Alban ac 8.1% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2016 i 2020 yn ôl gwlad: Tachwedd
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2020, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 6.1% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 9.5% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog Tachwedd 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £301,110 | -0.7% | 9.0% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £245,254 | 1.3% | 6.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Math o brynwr | Pris cyfartalog Ionawr 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £208,336 | -0.6% | 6.8% |
Cyn berchen-feddiannydd | £291,232 | -0.3% | 8.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
Statws cyllido | Pris cyfartalog Ionawr 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £236,938 | -0.7% | 7.7% |
Morgais | £259,952 | -0.4% | 7.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
[email protected]
Ffôn
0300 0068317
Natalie Jones, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost
[email protected]
Ffôn
01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost
[email protected]
Ffôn
028 90 336035
Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost
[email protected]
Ffôn
07919 570915