Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mehefin 2016
Cyhoeddwyd 16 Awst 2016
1. Prif ystadegau
Ar gyfer Mehefin 2016:
- pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £213,927
- y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 8.7%
- y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.0%
- y ffigur mynegai misol ar gyfer y DU oedd 112.2 (Ionawr 2015 = 100)
2. Datganiad economaidd
Mae pwysau parhaus ar brisiau yn y farchnad dai yn adlewyrchu galw cryfach o’i gymharu â chyflenwad yn y farchnad dai. Fodd bynnag, ceir arwyddion hefyd bod pwysau yn y farchnad dai wedi lleihau’n ddiweddar, gyda gostyngiadau yn y galw a’r cyflenwad.
Mae sawl dangosydd yn awgrymu bod y galw am dai wedi arafu dros y misoedd diwethaf. Parhaodd nifer y cymeradwyaethau rhoi benthyg ar gyfer prynu tai i ostwng ym Mehefin 2016 – gan 2.9% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Fodd bynnag, mae cymeradwyaethau misol yn parhau i fod yn is na’r lefelau a welwyd yn y 10 mis cyn y newidiadau i’r doll stamp yn Ebrill 2016. Yn dilyn cynnydd cryf mewn gwerthiannau ym Mawrth, cwympodd gwerthiannau tai y DU gan 55.4% yn Ebrill 2016, gan adfer ychydig ym Mai a Mehefin 2016. Mae data Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn awgrymu y lleihaodd y galw gan brynwyr am y trydydd mis yn olynol, gan gyrraedd ei lefel isaf ers canol 2008. Lleihaodd ymholiadau gan brynwyr newydd ar draws y rhan fwyaf o ardaloedd yn y DU, gyda’r lleihad mwyaf amlwg i’w weld yn rhannau mwy deheuol Lloegr.
Ceir arwyddion bod gweithgarwch y farchnad dai wedi arafu dros y misoedd diwethaf. Nododd RICS fod y cyflenwad cyffredinol, fel y’i mesurir gan gyfarwyddiadau newydd i werthu, wedi parhau i leihau ym Mehefin 2016 ym mhob ardal ac eithrio Gogledd Iwerddon. Mewn cyferbyniad, awgrymodd datganiad diweddaraf Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu’r Swyddfa Ystadegau Gwladoly cynyddodd allbwn tai a adeiledir o’r newydd gan 1.8% yn y tri mis blaenorol (Mawrth i Fai 2016) o’i gymharu â’r un cyfnod flwyddyn yn gynharach. Adlewyrchir yr arwyddion hyn o leihad yn y galw a’r cyflenwad ym mesurau sefydliadau eraill o weithgarwch cyffredinol yn y farchnad dai. Nododd Crynodeb Asiantau Banc Lloegr ar gyfer Chwarter 2 2016 fod gweithgarwch yn y farchnad dai yn llai bywiog yn Ebrill a Mai yn dilyn cynnydd mewn trafodion tai yn Ionawr i Fawrth, tra bo RICS wedi nodi gostyngiad am y trydydd mis yn olynol yng ngweithgarwch cyffredinol y farchnad dai ym Mehefin 2016.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £145,238 | 1.2% | 4.9% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2016) | £123,241 | 3.8% | 7.8% |
Lloegr | £229,383 | 0.8% | 9.3% |
Yr Alban | £143,282 | 2.7% | 4.6% |
De Ddwyrain Lloegr | £309,149 | 1.5% | 12.3% |
De Orllewin Lloegr | £234,987 | 1.0% | 8.0% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £171,462 | 1.3% | 7.9% |
Dwyrain Lloegr | £270,029 | 1.3% | 14.3% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £174,998 | -0.2% | 6.4% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £124,470 | -0.2% | 1.5% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £148,320 | 0.4% | 6.6% |
Llundain | £472,204 | 0.2% | 12.6% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £149,706 | 1.2% | 5.5% |
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Mehefin 2016 | Mehefin 2015 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £318,945 | £295,273 | 8.0% |
Tŷ pâr | £200,789 | £185,011 | 8.5% |
Tŷ teras | £174,495 | £160,538 | 8.7% |
Fflat neu fflat deulawr | £193,758 | £176,467 | 9.8% |
Holl | £213,927 | £196,802 | 8.7% |
4. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
4.1 Nifer y gwerthiannau: Ebrill 2016
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Ebrill 2016 | Ebrill 2015 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Cymru | 2,394 | 3,237 | -26.0% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2016) | 4,075 | 5,200 | -21.6% |
Lloegr | 42,938 | 64,467 | -33.4% |
Yr Alban | 6,665 | 7,936 | -16.0% |
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Ebrill 2016
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £249,976 | -4.2% | 8.8% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £211,992 | 1.7% | 9.0% |
Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer adeiladau newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn. Mae cyfartaledd symudol tri mis wedi cael ei gymhwyso i’r amcangyfrif diweddaraf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd i ddileu peth o’r ansicrwydd hwn.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £180,677 | 0.7% | 8.6% |
Cyn berchen-feddiannydd | £247,736 | 1.2% | 8.8% |
7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.
Statws ariannu | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £203,639 | 1.2% | 8.2% |
Morgais | £223,126 | 0.9% | 9.0% |
8. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084
Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035