Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Tachwedd 2016
Cyhoeddwyd 17 Ionawr 2017
1. Prif ystadegau
Ar gyfer Tachwedd 2016:
- pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £217,928
- y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 6.7%
- y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.1%
- y ffigur mynegai misol ar gyfer y DU oedd 114.3 (Ionawr 2015 = 100)
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
2. Datganiad economaidd
Awgrymodd dangosyddion y farchnad dai ar gyfer Tachwedd iddo fod yn gyfnod o alw cynyddol cymharol fach a thwf cyson mewn lefelau prisiau. Tyfodd prisiau tai gan 6.7% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd, sef 0.3 pwynt canran yn uwch nag yn Hydref. Yn ôl crynodeb Asiantau Banc Lloegr o amodau busnes, ar gyfer chwarter olaf 2016 (Hydref i Ragfyr), mae gweithgarwch wedi adfer yn y farchnad dai yn dilyn cyfnod o wendid ar ôl refferendwm yr UE a newidiadau i’r doll stamp, ond mae’n parhau i fod yn wan yng nghanol Llundain.
Rhwng 2012 a dechrau 2016, twf prisiau tai blynyddol yn Llundain oedd y cyflymaf o’r holl ardaloedd yn y DU yn gyffredinol. Erbyn hyn mae twf prisiau tai blynyddol yn Nwyrain a De-ddwyrain Lloegr wedi bod yn fwy nag yn Llundain am y pedwerydd mis yn olynol.
O ran y galw am dai, nododd arolwg o’r farchnad Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) gynnydd cymharol fach yn yr ymholiadau gan brynwyr newydd ar gyfer Tachwedd. Yn ôl Banc Lloegr cynyddodd nifer y cymeradwyaethau rhoi benthyg ar gyfer prynu tai (wedi’i addasu’n dymhorol) gan 0.2% o Hydref i Dachwedd 2016, sef 3.7% yn is nag yn Nhachwedd 2015. Cynyddodd nifer y gwerthiannau tai yn y DU (wedi’i addasu’n dymhorol) gan 0.8% rhwng Hydref a Thachwedd 2016 yn ôl ystadegau Trafodion Eiddo y DU, sef 7.3% yn is nag yn Nhachwedd 2015.
Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS na fu unrhyw newid yn rhestriadau gwerthiannau newydd yn Nhachwedd 2016 o’i gymharu â Hydref 2016. Nododd adroddiad Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn Hydref 2016 fod cyfanswm y tai newydd 12.6% yn uwch nag yn Hydref 2015.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £146,742 | -0.2% | 4.1% |
Gogledd Iwerddon (Cwarter 3 - 2016) | £124,093 | 0.8% | 5.4% |
Lloegr | £234,278 | 1.1% | 7.2% |
Yr Alban | £143,033 | 1.5% | 3.3% |
De Ddwyrain Lloegr | £313,334 | 0.3% | 8.6% |
De Orllewin Lloegr | £239,371 | 0.5% | 5.7% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £176,524 | 1.7% | 7.3% |
Dwyrain Lloegr | £278,349 | 0.9% | 10.5% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £181,372 | 2.2% | 7.4% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £126,989 | 1.3% | 3.2% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £150,249 | 1.1% | 5.2% |
Llundain | £481,648 | 1.8% | 8.1% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £152,418 | 1.1% | 5.1% |
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Tachwedd 2016 | Tachwedd 2015 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £331,359 | £308,063 | 7.6% |
Tŷ pâr | £204,033 | £191,453 | 6.6% |
Tŷ teras | £175,034 | £165,656 | 5.7% |
Fflat neu fflat deulawr | £182,404 | £184,150 | -0.9% |
Holl | £217,928 | £204,222 | 6.7% |
4. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
4.1 Nifer y gwerthiannau: Medi 2016
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Medi 2016 | Medi 2015 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Lloegr | 64,311 | 82,452 | -22.0% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2016) | 5,200 | 5,820 | -10.7% |
Yr Alban | 9,352 | 8,618 | 8.5% |
Cymru | 3,492 | 3,896 | -10.4% |
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Medi 2016
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £305,121 | 10.4% | 27.0% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £212,383 | 0.4% | 5.3% |
Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £183,482 | 1.1% | 6.6% |
Cyn berchen-feddiannydd | £253,087 | 1.1% | 6.9% |
7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.
Statws ariannu | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £207,528 | 1.1% | 6.4% |
Morgais | £227,358 | 1.1% | 6.9% |
8. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084
Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035