Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Tachwedd 2017
Cyhoeddwyd 16 Ionawr 2018
1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2017
pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd
£226,071
y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
5.1%
y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
0.1%
y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd
118.6
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
2. Datganiad economaidd
Tyfodd prisiau tai y DU gan 5.1% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2017, gyda gostyngiad o 0.3 pwynt canran ers y mis blaenorol.
Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU ar gyfer Tachwedd 2017 (PDF, 598KB) Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod ei gyfres prif ddisgwyliadau pris yn y dyfodol agos wedi codi i -5% o -10% yn Hydref, sy’n golygu bod y disgwyliadau tri mis fwy neu lai yn wastad ar y lefel genedlaethol erbyn hyn.Yn yr un modd, sefydlogodd y gyfres ymholiadau gan brynwyr newydd gyda gweddill net o -5% o ymatebwyr yn nodi lleihad yn y galw (yn hytrach na chynnydd), i fyny o -19% yn Hydref.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Tachwedd 2017 (PDF, 825KB) fod nifer y trafodion wedi’u haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy wedi cynyddu gan 7.1% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2017. Rhwng Hydref 2017 a Thachwedd 2017, cynyddodd trafodion gan 0.6%.
Nododd crynodeb o amodau busnes (PDF, 713KB) Asiantau Banc Lloegr fod gweithgarwch wedi tawelu yn chwarter olaf 2017, gyda’r galw yn parhau i fod yn wan yn y farchnad eilaidd, y farchnad adeiladau newydd ac yn Llundain.
Wrth edrych ar y lefel ranbarthol, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr ar 7.2%, i fyny o 7.1% yn Hydref 2017. Dilynwyd hyn gan Ddwyrain Canolbarth Lloegr ar 6.4%. Ar 2.3%, dangosodd Llundain ac ardal Gogledd Ddwyrain Lloegr y twf blynyddol arafaf o holl ardaloedd y DU. Dyma’r 12fed mis yn olynol i’r twf blynyddol yn Llundain barhau’n is na chyfartaledd y DU.
Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS fod ei weddill net ar gyfer cyfarwyddiadau newydd wedi parhau’n negyddol am y 23ain mis yn olynol. Parhaodd lefelau stoc a nodwyd gan asiantau tai yn sefydlog.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 5.1% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2017 (i lawr o 5.4% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2017).
Daeth y prif gyfraniad at y cynnydd mewn prisiau tai y DU o Loegr, lle y cynyddodd prisiau tai gan 5.3% dros y flwyddyn hyd at Dachwedd 2017.
Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn prisiau tai o 4.5% dros y 12 mis diwethaf.
Yn yr Alban, cynyddodd y pris cyfartalog gan 3.6% dros y flwyddyn.
Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 6.0% dros y flwyddyn i chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2017.
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £152,855 | -0.7% | 4.5% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2017) | £132,169 | 3.0% | 6.0% |
Lloegr | £243,339 | 0.1% | 5.3% |
Yr Alban | £145,992 | 1.1% | 3.6% |
De Ddwyrain Lloegr | £325,270 | 0.3% | 5.7% |
De Orllewin Lloegr | £251,923 | -0.5% | 6.2% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £185,047 | 0.2% | 6.4% |
Dwyrain Lloegr | £289,731 | -0.2% | 6.0% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £192,119 | 1.3% | 7.2% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £127,737 | -1.0% | 2.3% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £159,066 | 1.4% | 6.2% |
Llundain | £481,915 | -0.9% | 2.3% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | £155,778 | -0.8% | 3.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Tachwedd 2017 | Tachwedd 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £340,886 | £326,020 | 4.6% |
Tŷ pâr | £213,022 | £201,403 | 5.8% |
Tŷ teras | £182,738 | £173,104 | 5.6% |
Fflat neu fflat deulawr | £203,651 | £195,545 | 4.1% |
Holl | £226,071 | £215,113 | 5.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw’r ffigurau ar gyfer nifer y gwerthiannau am y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn effeithio ar nifer y gwerthiannau ar gyfer adeiladau newydd yn y misoedd mwy diweddar. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Gwlad | Medi 2017 | Medi 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Lloegr | 64,812 | 76,114 | -14.8% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2017) | 5,453 | 5,968 | -8.6% |
Yr Alban | 9,323 | 9,563 | -2.5% |
Cymru | 3,786 | 4,054 | -6.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2013 i 2017 yn ôl gwlad: Medi
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Ym Medi 2017 lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 12.9% o’i gymharu â Medi 2016. O’i gymharu ag Awst 2017, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 10.6%.
Mae’r amcangyfrif ar gyfer Medi 2017 wedi’i gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 90% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Mae nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2017 yn debygol o gynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.
Statws eiddo | Pris cyfartalog Medi 2017 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £290,991 | 0.0% | 12.8% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £221,239 | -0.2% | 4.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Er Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn Improvement to the calculation of provisional estimates within the UK HPI.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog Tachwedd 2017 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £191,376 | 0.6% | 5.5% |
Cyn berchen-feddiannydd | £261,403 | -0.3% | 4.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.
Statws ariannu | Pris cyfartalog Tachwedd 2017 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £215,581 | 0.1% | 5.0% |
Morgais | £235,738 | 0.2% | 5.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU
0300 0068084
Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau data
01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon
028 90 336035
Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau’r Alban
44 (0)131 659 6111 Est. 6387