Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Hydref 2017

Cyhoeddwyd 12 Rhagfyr 2017

1. Prif ystadegau ar gyfer Hydref 2017

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£223,807

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

4.5%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

-0.5%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

117.4

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 4.5% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2017, gyda gostyngiad o 0.3 pwynt canran ers y mis blaenorol.

O ran y galw am dai nododd Arolwg o’r Farchnad Breswyl (PDF) Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Hydref 2017 fod y prif ddisgwyliadau pris yn y dyfodol agos wedi llithro i -11% o -8% ym Medi, ac iddynt fod yn negyddol ym mhob un o’r tri mis diwethaf. Mae ymholiadau gan brynwyr newydd yn parhau i awgrymu bod galw yn meddalu, gyda’r gweddill cenedlaethol net yn parhau ar -20%.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU (PDF) fod nifer y trafodion wedi’u haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy wedi cynyddu gan 9.2% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2017. Rhwng Medi 2017 a Hydref 2017, cynyddodd trafodion eiddo gan 1.7%.

Nododd crynodeb o amodau busnes (PDF) Asiantau Banc Lloegr fod galw yn y farchnad dai wedi cryfhau at ei gilydd ond bod gwahaniaeth rhwng ardaloedd, oherwydd ceir arwyddion o ormodedd o gyflenwad yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr ond gormodedd o alw yn y rhan fwyaf o ardaloedd eraill y DU.

Wrth edrych yn fwy manwl ar lefelau rhanbarthol y DU, gwelwyd y twf blynyddol mwyaf yn Nwyrain Canolbarth Lloegr ar 7.0%, i fyny o 6.3% ym Medi 2017. Dilynwyd hyn gan Dde-orllewin Lloegr a welodd dwf blynyddol o 6.7%. Roedd y twf blynyddol arafaf yn Llundain ar 2.1%, i lawr o 2.9% ym Medi 2017. Dyma’r 11eg mis yn olynol i’r twf mewn prisiau tai yn Llundain barhau’n is na chyfartaledd y DU. Roedd yr ail dwf blynyddol arafaf yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr ar 2.4%.

Ar yr ochr gyflenwi, noddodd RICS fod dirywiad wedi ailgychwyn yn llif y rhestriadau newydd sy’n dod i’r farchnad, gyda gweddill net o -14%, yn dilyn cyfnod o ddau fis o sefydlogrwydd.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Annual price change for UK by country over the past five years (Welsh)

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 4.5% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2017 (i lawr o 4.8% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2017).

Daeth y prif gyfraniad at y cynnydd mewn prisiau tai y DU o Loegr, lle y cynyddodd prisiau tai gan 4.7% dros y flwyddyn hyd at Hydref 2017.

Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn prisiau tai o 4.5% dros y 12 mis diwethaf.

Yn yr Alban, cynyddodd y pris cyfartalog gan 2.8% dros y flwyddyn.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 6.0% dros y flwyddyn i chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2017.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £153,316 0.8% 4.5%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2017) £132,169 3.0% 6.0%
Lloegr £240,860 -0.6% 4.7%
Yr Alban £143,544 -0.7% 2.8%
De Ddwyrain Lloegr £322,311 -0.5% 4.6%
De Orllewin Lloegr £251,376 0.2% 6.7%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £184,544 0.2% 7.0%
Dwyrain Lloegr £289,168 0.1% 6.1%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £186,351 -1.1% 5.2%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £127,224 -0.1% 2.4%
Gogledd Orllewin Lloegr £154,056 -2.0% 3.9%
Llundain £481,102 -0.9% 2.1%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £155,281 -1.1% 3.3%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region (Welsh)

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Hydref 2017 Hydref 2016 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £340,996 £323,441 5.4%
Tŷ pâr £211,014 £200,703 5.1%
Tŷ teras £179,327 £172,619 3.9%
Fflat neu fflat deulawr £201,527 £194,540 3.6%
Holl £223,807 £214,107 4.5%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw’r ffigurau ar gyfer nifer y gwerthiannau am y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn effeithio ar nifer y gwerthiannau ar gyfer adeiladau newydd yn y misoedd mwy diweddar. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Awst 2017 Awst 2016 Gwahaniaeth
Lloegr 70,117 79,655 -12.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2017) 5,453 5,968 -8.6%
Yr Alban 9,282 8,641 7.4%
Cymru 3,982 4,122 -3.4%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2013 i 2017 yn ôl gwlad: Awst 2017

Sales volumes for 2013 to 2017 by country: August 2017 (Welsh)

Yn Awst 2017 lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 9.7% o’i gymharu ag Awst 2016. O’i gymharu â Gorffennaf 2017, cynyddodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 3.0%.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Awst 2017 wedi’i gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 90% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Mae nifer y trafodion eiddo ar gyfer Awst 2017 yn debygol o gynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

Statws eiddo Pris cyfartalog Awst 2017 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £288,931 -0.5% 12.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £221,972 0.5% 4.6%

Sylwer: ar gyfer y datganiad hwn, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn Improvement to the calculation of provisional estimates within the UK HPI.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Hydref 2017 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £188,173 -0.7% 4.2%
Cyn berchen-feddiannydd £260,223 -0.4% 4.9%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Hydref 2017 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £213,337 -0.5% 4.7%
Morgais £233,337 -0.6% 4.5%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU
0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau data
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon
028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau’r Alban
44 (0)131 659 6111 Est. 6387