Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ebrill 2021

Cyhoeddwyd 16 Mehefin 2021

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2021

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £185,041

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 15.6%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.6%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 135.9

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mai 2021 am 9.30am ddydd Mercher 14 Gorffennaf 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 15.6% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021, i fyny o 10.2% ym Mawrth 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 8.9% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.6% rhwng Mawrth ac Ebrill 2021, o’i gymharu â gostyngiad o 4.2% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mawrth ac Ebrill 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.4% rhwng Mawrth ac Ebrill 2021.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Chwefror 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Chwefror 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 2.8% yng Nghymru, o 2863 i 2943. Cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 29.9% o 59,375 i 77,149 dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd pob un o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn Ebrill 2021 o’i gymharu ag Ebrill 2020. Gwelwyd y twf cryfaf yng Ngheredigion, gan godi 26.7% i £237,000 yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021. Mewn cyferbyniad, Merthyr Tudful welodd y newid blynyddol lleiaf, gyda chynnydd o 2.9% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £112,000.

O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai pâr y twf blynyddol mwyaf, gan godi 16.8% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021 i £181,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 12.3% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021 i £124,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 15.6% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021, i fyny o 10.2% ym Mawrth 2021.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Ebrill 2021 Ebrill 2020 Gwahaniaeth
Abertawe £170,513 £152,125 12.1%
Blaenau Gwent £108,744 £92,437 17.6%
Bro Morgannwg £258,765 £224,275 15.4%
Caerdydd £229,504 £209,157 9.7%
Caerffili £154,433 £138,358 11.6%
Casnewydd £206,775 £189,328 9.2%
Castell-nedd Port Talbot £137,711 £124,062 11%
Ceredigion £237,450 £187,354 26.7%
Conwy £188,113 £169,780 10.8%
Gwynedd £172,813 £159,262 8.5%
Merthyr Tudful £111,869 £108,760 2.9%
Pen-y-bont ar Ogwr £180,252 £157,318 14.6%
Powys £203,410 £183,733 10.7%
Rhondda Cynon Taf £130,415 £115,808 12.6%
Sir Benfro £195,047 £182,024 7.2%
Sir Ddinbych £182,483 £161,916 12.7%
Sir Fynwy £293,574 £279,416 5.1%
Sir y Fflint £187,196 £164,729 13.6%
Sir Gaerfyrddin £167,764 £146,542 14.5%
Tor-faen £155,364 £149,694 3.8%
Wrecsam £175,949 £157,312 11.8%
Ynys Môn £205,689 £180,774 13.8%
Cymru £185,041 £160,039 15.6%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Ebrill 2021, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd sir Fynwy, lle mai £294,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £109,000 oedd y pris cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Ebrill 2021 Ebrill 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £279,864 £241,393 15.9%
Tŷ pâr £181,164 £155,073 16.8%
Tŷ teras £143,012 £124,284 15.1%
Fflat neu fflat deulawr £124,317 £110,723 12.3%
Holl £185,041 £160,039 15.6%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Chwefror 2021 Chwefror 2020
Abertawe 225 218
Blaenau Gwent 57 85
Bro Morgannwg 160 153
Caerdydd 295 345
Caerffili 134 165
Casnewydd 146 187
Castell-nedd Port Talbot 112 127
Ceredigion 74 62
Conwy 123 147
Gwynedd 109 140
Merthyr Tudful 41 39
Pen-y-bont ar Ogwr 168 170
Powys 140 125
Rhondda Cynon Taf 238 243
Sir Benfro 135 140
Sir Ddinbych 115 109
Sir Gaerfyrddin 186 168
Sir Fynwy 97 93
Sir y Fflint 149 170
Tor-faen 82 98
Wrecsam 94 102
Ynys Môn 63 82
Cymru 2,943 3,168

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Chwefror 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Chwefror 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 2.8% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 20.6% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Chwefror 2017 3,225
Chwefror 2018 3,276
Chwefror 2019 3,207
Chwefror 2020 3,168
Chwefror 2021 2,943

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Chwefror 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £239,299 -1.0% 10.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £176,594 -1.0% 8.3%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Ebrill 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £159,956 0.9% 15.6%
Cyn berchen-feddiannydd £214,237 0.2% 15.7%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Ebrill 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £178,958 -0.5% 15.5%
Morgais £188,548 1.0% 15.7%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Chwefror 2021
Cymru 9

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
[email protected]

Ffôn
0300 0068317