Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Awst 2021
Cyhoeddwyd 20 Hydref 2021
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2021
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £194,575
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 12.5%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.8%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 142.9
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Medi 2021 am 9.30am ddydd Mercher 17 Tachwedd 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 12.5% yn y flwyddyn hyd at Awst 2021, i fyny o 12.4% yng Ngorffennaf 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU, sef 10.6% yn y flwyddyn hyd at Awst 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.8% rhwng Gorffennaf ac Awst 2021, o’i gymharu â chynnydd o 2.7% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Gorffennaf ac Awst 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.0% rhwng Gorffennaf ac Awst 2021.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mehefin 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 12.5% yng Nghymru, o 1750 i 1969. Cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 24.5%, o 45264 i 56362, dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn Awst 2021 o’i gymharu ag Awst 2020. Gwelwyd y twf cryfaf yn Sir Benfro, lle cododd 23.9% i £222,000 yn y flwyddyn hyd at Awst 2021. Mewn cyferbyniad, gwelwyd y newid blynyddol lleiaf yn Sir Fynyw, gyda chynnydd o 1.2% yn y flwyddyn hyd at Awst 2021 a’r pris tŷ cyfartalog oedd £295,000.
O’r holl fathau o eiddo, tai sengl ddangosodd y twf blynyddol mwyaf, gan godi 13.2% yn y flwyddyn hyd at Awst 2021 i £296,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 7.6% yn y flwyddyn hyd at Awst 2021 i £126,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 12.5% yn y flwyddyn hyd at Awst 2021, i fyny o 12.4% yng Ngorffennaf 2021.
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Awst 2021 | Awst 2020 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £171,649 | £157,405 | 9% |
Blaenau Gwent | £112,343 | £98,874 | 13.6% |
Bro Morgannwg | £277,082 | £237,222 | 16.8% |
Caerdydd | £241,321 | £214,772 | 12.4% |
Caerffili | £170,278 | £144,496 | 17.8% |
Casnewydd | £208,669 | £191,153 | 9.2% |
Castell-nedd Port Talbot | £145,610 | £125,014 | 16.5% |
Ceredigion | £217,031 | £195,715 | 10.9% |
Conwy | £202,485 | £170,077 | 19.1% |
Gwynedd | £193,961 | £168,141 | 15.4% |
Merthyr Tudful | £123,863 | £113,053 | 9.6% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £180,908 | £166,319 | 8.8% |
Powys | £216,998 | £193,785 | 12% |
Rhondda Cynon Taf | £138,251 | £118,904 | 16.3% |
Sir Benfro | £222,428 | £179,483 | 23.9% |
Sir Ddinbych | £181,538 | £158,976 | 14.2% |
Sir Fynwy | £294,811 | £291,294 | 1.2% |
Sir y Fflint | £192,741 | £173,326 | 11.2% |
Sir Gaerfyrddin | £179,533 | £152,642 | 17.6% |
Tor-faen | £183,640 | £156,786 | 17.1% |
Wrecsam | £190,358 | £158,701 | 19.9% |
Ynys Môn | £211,175 | £189,065 | 11.7% |
Cymru | £194,575 | £172,999 | 12.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Awst 2021, yr ardal ddrutaf i fyw oedd sir Fynwy, lle mai £295,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £112,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Awst 2021 | Awst 2020 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £295,890 | £261,451 | 13.2% |
Tŷ pâr | £189,195 | £167,753 | 12.8% |
Tŷ teras | £151,730 | £134,696 | 12.6% |
Fflat neu fflat deulawr | £126,094 | £117,154 | 7.6% |
Holl | £194,575 | £172,999 | 12.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Mehefin 2021 | Mehefin 2020 |
---|---|---|
Abertawe | 151 | 135 |
Blaenau Gwent | 50 | 51 |
Bro Morgannwg | 93 | 96 |
Caerdydd | 196 | 240 |
Caerffili | 90 | 126 |
Casnewydd | 82 | 116 |
Castell-nedd Port Talbot | 86 | 84 |
Ceredigion | 42 | 36 |
Conwy | 82 | 79 |
Gwynedd | 105 | 57 |
Merthyr Tudful | 30 | 46 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 106 | 92 |
Powys | 98 | 67 |
Rhondda Cynon Taf | 136 | 140 |
Sir Benfro | 83 | 97 |
Sir Ddinbych | 52 | 55 |
Sir Gaerfyrddin | 110 | 124 |
Sir Fynwy | 80 | 70 |
Sir y Fflint | 106 | 112 |
Tor-faen | 48 | 71 |
Wrecsam | 82 | 79 |
Ynys Môn | 61 | 40 |
Cymru | 1,969 | 2,013 |
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mehefin 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 12.5% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 212.4% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Mehefin 2017 | 4,691 |
Mehefin 2018 | 4,344 |
Mehefin 2019 | 3,997 |
Mehefin 2020 | 2,013 |
Mehefin 2021 | 1,969 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Mehefin 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £268,775 | 2.9% | 24.6% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £190,831 | 4.8% | 15.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Awst 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £167,576 | 2.7% | 12.3% |
Cyn berchen-feddiannydd | £226,229 | 2.8% | 12.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Awst 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £187,818 | 2.0% | 11.7% |
Morgais | £198,417 | 3.1% | 12.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mehefin 2021 |
---|---|
Cymru | 6 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 0068317