Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mehefin 2021
Cyhoeddwyd 18 Awst 2021
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
1. Prif ystadegau ar gyfer Mehefin 2021
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £195,291
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 16.7%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 4.6%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 143.4
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Gorffennaf 2021 am 9.30am ddydd Mercher 15 Medi 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 16.7% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021, i fyny o 14.7% ym Mai 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 13.2% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 4.6% rhwng Mai a Mehefin 2021, o’i gymharu â chynnydd o 2.9% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mai a Mehefin 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 4.2% rhwng Mai a Mehefin 2021.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ebrill 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ebrill 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 85.2% yng Nghymru, o 1166 i 2159. Cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 124.7% o 22976 i 51623 dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog ym Mehefin 2021 o’i gymharu â Mehefin 2020. Gwelwyd y twf cryfaf ym Mlaenau Gwent, gan godi 24.1% i £115,000 yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021. Mewn cyferbyniad, gwelwyd y newid blynyddol lleiaf yng Nghasnewydd, gyda chynnydd o 3.6% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £198,000.
O’r holl fathau o eiddo, tai sengl ddangosodd y twf blynyddol mwyaf, gan godi 18.4% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021 i £296,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 10.9% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021 i £128,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 16.7% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2021, i fyny o 14.7% ym Mai 2021.
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Mehefin 2021 | Mehefin 2020 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £169,168 | £150,992 | 12% |
Blaenau Gwent | £115,012 | £92,712 | 24.1% |
Bro Morgannwg | £272,137 | £226,883 | 19.9% |
Caerdydd | £235,054 | £211,634 | 11.1% |
Caerffili | £158,498 | £140,350 | 12.9% |
Casnewydd | £198,141 | £191,223 | 3.6% |
Castell-nedd Port Talbot | £144,024 | £124,023 | 16.1% |
Ceredigion | £228,632 | £192,047 | 19% |
Conwy | £195,748 | £162,944 | 20.1% |
Gwynedd | £184,037 | £153,248 | 20.1% |
Merthyr Tudful | £120,792 | £106,147 | 13.8% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £187,812 | £157,692 | 19.1% |
Powys | £205,265 | £184,058 | 11.5% |
Rhondda Cynon Taf | £135,624 | £115,369 | 17.6% |
Sir Benfro | £209,253 | £170,694 | 22.6% |
Sir Ddinbych | £184,468 | £160,378 | 15% |
Sir Fynwy | £291,657 | £271,712 | 7.3% |
Sir y Fflint | £190,724 | £162,657 | 17.3% |
Sir Gaerfyrddin | £177,475 | £147,151 | 20.6% |
Tor-faen | £183,859 | £150,701 | 22% |
Wrecsam | £179,671 | £154,474 | 16.3% |
Ynys Môn | £202,624 | £176,144 | 15% |
Cymru | £195,291 | £167,384 | 16.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Mehefin 2021, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £292,000 oedd y gost gyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £115,000 oedd y gost gyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Mehefin 2021 | Mehefin 2020 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £296,313 | £250,331 | 18.4% |
Tŷ pâr | £188,119 | £162,555 | 15.7% |
Tŷ teras | £153,582 | £130,914 | 17.3% |
Fflat neu fflat deulawr | £127,629 | £115,047 | 10.9% |
Holl | £195,291 | £167,384 | 16.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Ebrill 2021 | Ebrill 2020 |
---|---|---|
Abertawe | 166 | 116 |
Blaenau Gwent | 36 | 42 |
Bro Morgannwg | 93 | 61 |
Caerdydd | 192 | 135 |
Caerffili | 108 | 79 |
Casnewydd | 106 | 63 |
Castell-nedd Port Talbot | 123 | 65 |
Ceredigion | 44 | 29 |
Conwy | 97 | 38 |
Gwynedd | 98 | 59 |
Merthyr Tudful | 37 | 23 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 118 | 81 |
Powys | 86 | 47 |
Rhondda Cynon Taf | 178 | 137 |
Sir Benfro | 85 | 70 |
Sir Ddinbych | 86 | 27 |
Sir Gaerfyrddin | 144 | 96 |
Sir Fynwy | 77 | 37 |
Sir y Fflint | 103 | 40 |
Tor-faen | 56 | 41 |
Wrecsam | 79 | 51 |
Ynys Môn | 47 | 44 |
Cymru | 2,159 | 1,381 |
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ebrill 2021 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ebrill 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ebrill 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 85.2% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 188.1% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2021.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Ebrill 2017 | 3,490 |
Ebrill 2018 | 3,367 |
Ebrill 2019 | 3,462 |
Ebrill 2020 | 1,381 |
Ebrill 2021 | 2,159 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Ebrill 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £267,427 | 6.6% | 22.1% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £179,529 | -1.8% | 14.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Mehefin 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £168,655 | 4.7% | 16.4% |
Cyn berchen-feddiannydd | £226,344 | 4.5% | 17.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cg | Pris cyfartalog Mehefin 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £189,875 | 5.1% | 17.2% |
Morgais | £198,534 | 4.4% | 16.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Ebrill 2021 |
---|---|
Cymru | 10 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost [email protected]
Ffôn 0300 0068317