Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mawrth 2019
Cyhoeddwyd 22 Mai 2019
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2019
pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd
£158,696
y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd
3.0%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd
-0.02%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd
116.6
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2019 am 9.30am ddydd Mercher 19 Mehefin 2019. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Tyfodd prisiau tai Cymru gan 3.0% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019, i lawr o 3.6% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2019. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 1.4% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, nid oedd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru wedi newid rhwng Chwefror 2019 a Mawrth 2019, o’i gymharu â chynnydd o 0.5% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynt. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.2% rhwng Chwefror 2019 a Mawrth 2019.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Tir, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 3 mis hyd at Fawrth 2019, mai nifer y trafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy yng Nghymru oedd 11,740. Mae hyn i lawr 0.3% o’i gymharu â’r 3 mis hyd at Fawrth 2018 fel a gyhoeddir yn Ystadegau Trafodion Eiddo y DU. Mae angen bod yn ofalus wrth gymharu’r gyfres hon dros y cyfnod hwn oherwydd gall sefydliadau gwahanol ddefnyddio methodolegau ychydig bach yn wahanol.
Yng Nghymru, gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn tai pâr, gan godi 3.8% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019 i £154,000. Y cynnydd lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 1.0% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019 i £113,000.
Mae prisiau tai wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf mewn 17 o’r 22 ardal awdurdod lleol. Torfaen a Rhondda Cynon Taf ddangosodd y twf cryfaf, yn cynyddu gan 11.4% i £148,000 a 10.5% i £109,000 yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd y pris cyfartalog gan 3.0% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019 (i lawr o 3.6% yn Chwefror 2019).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Mawrth 2019 | Mawrth 2018 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £146,712 | £145,321 | 1.0% |
Blaenau Gwent | £89,637 | £83,129 | 7.8% |
Bro Morgannwg | £226,868 | £223,046 | 1.7% |
Caerdydd | £207,531 | £202,454 | 2.5% |
Caerffili | £136,475 | £130,124 | 4.9% |
Casnewydd | £179,301 | £167,856 | 6.8% |
Castell-nedd Port Talbot | £116,082 | £110,701 | 4.9% |
Ceredigion | £175,237 | £182,204 | -3.8% |
Conwy | £157,695 | £159,164 | -0.9% |
Gwynedd | £153,195 | £145,433 | 5.3% |
Merthyr Tudful | £97,214 | £96,712 | 0.5% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £147,188 | £145,448 | 1.2% |
Powys | £187,208 | £181,859 | 2.9% |
Rhondda Cynon Taf | £109,297 | £98,923 | 10.5% |
Sir Benfro | £171,864 | £163,759 | 4.9% |
Sir Ddinbych | £149,911 | £150,293 | -0.3% |
Sir Fynwy | £270,103 | £252,744 | 6.9% |
Sir y Fflint | £162,525 | £165,045 | -1.5% |
Sir Gaerfyrddin | £144,146 | £135,783 | 6.2% |
Tor-faen | £148,129 | £132,962 | 11.4% |
Wrecsam | £152,964 | £157,179 | -2.7% |
Ynys Mon | £174,364 | £171,050 | 1.9% |
Cymru | £158,696 | £154,022 | 3.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Ym Mawrth 2019, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle roedd pris tŷ cyfartalog yn £270,000. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle roedd pris tŷ cyfartalog yn £90,000.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Mawrth 2019 | Mawrth 2018 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £240,276 | £233,243 | 3.0% |
Tŷ pâr | £154,015 | £148,362 | 3.8% |
Tŷ teras | £121,871 | £118,488 | 2.9% |
Fflat neu fflat deulawr | £112,847 | £111,686 | 1.0% |
Holl | £158,696 | £154,022 | 3.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Ionawr 2019 | Ionawr 2018 |
---|---|---|
Abertawe | 228 | 254 |
Blaenau Gwent | 60 | 63 |
Bro Morgannwg | 123 | 155 |
Caerdydd | 353 | 337 |
Caerffili | 150 | 148 |
Casnewydd | 152 | 218 |
Castell-nedd Port Talbot | 106 | 126 |
Ceredigion | 62 | 78 |
Conwy | 108 | 156 |
Gwynedd | 99 | 117 |
Merthyr Tudful | 46 | 47 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 147 | 143 |
Powys | 96 | 120 |
Rhondda Cynon Taf | 268 | 227 |
Sir Benfro | 118 | 156 |
Sir Ddinbych | 103 | 100 |
Sir Gaerfyrddin | 178 | 183 |
Sir Fynwy | 64 | 96 |
Sir y Fflint | 153 | 169 |
Tor-faen | 83 | 89 |
Wrecsam | 98 | 107 |
Ynys Mon | 57 | 79 |
Cymru | 2,852 | 3,170 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r misoedd diweddaraf yn gyflawn eto.
Mae’r amcangyfrif ar gyfer Ionawr 2019 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2019, cynyddodd nifer y trafodion gan 0.6% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi gostwng gan 2.2% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2019.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Ionawr 2015 | 2,730 |
Ionawr 2016 | 2,788 |
Ionawr 2017 | 3,056 |
Ionawr 2018 | 3,170 |
Ionawr 2019 | 2,852 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Ionawr 2019 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £208,740 | -2.1% | 3.0% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £155,748 | -1.9% | 3.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Mawrth 2019 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £136,904 | -0.1% | 3.0% |
Cyn berchen-feddiannydd | £184,151 | 0.1% | 3.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws ariannu
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws ariannu | Pris cyfartalog Mawrth 2019 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £153,882 | -0.2% | 2.7% |
Morgais | £161,532 | 0.1% | 3.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Ionawr 2019 |
---|---|
Cymru | 40 |
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
[email protected]
Ffôn
0300 0068317