Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mawrth 2021
Cyhoeddwyd 19 Mai 2021
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2021
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £185,431
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 11.0%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 3.1%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 136.2
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2021 am 9.30am ddydd Mercher 16 Mehefin 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 11.0% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021, i fyny o 8.4% yn Chwefror 2021. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 10.2% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 3.1% rhwng Chwefror a Mawrth 2021, o’i gymharu â chynnydd o 0.7% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Chwefror a Mawrth 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.9% rhwng Chwefror a Mawrth 2021.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2021, gostyngodd nifer y trafodion gan 11.0% yng Nghymru, o 2917 i 2597. Cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 6.3%, o 61,815 i 65,727, dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd y 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog ym Mawrth 2021 o’i gymharu â Mawrth 2020. Gwelwyd y twf cryfaf yn Sir Gaerfyrddin, lle cododd gan 22.7% i £183,000 yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021. Mewn cyferbyniad, Sir Benfro welodd y newid blynyddol lleiaf, gyda chynnydd o 4.5% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £188,000.
O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai sengl y twf blynyddol mwyaf, gan godi 12.4% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021 i £283,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 2.4% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021 i £119,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 11.0% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021, i fyny o 8.4% yn Chwefror 2021.
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Mawrth 2021 | Mawrth 2020 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £162,881 | £154,152 | 5.7% |
Blaenau Gwent | £97,763 | £91,795 | 6.5% |
Bro Morgannwg | £251,829 | £234,975 | 7.2% |
Caerdydd | £227,435 | £209,212 | 8.7% |
Caerffili | £152,443 | £137,620 | 10.8% |
Casnewydd | £205,556 | £189,870 | 8.3% |
Castell-nedd Port Talbot | £134,858 | £123,801 | 8.9% |
Ceredigion | £212,987 | £185,484 | 14.8% |
Conwy | £185,708 | £169,008 | 9.9% |
Gwynedd | £176,185 | £158,190 | 11.4% |
Merthyr Tudful | £125,406 | £109,824 | 14.2% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £170,214 | £156,282 | 8.9% |
Powys | £211,590 | £188,728 | 12.1% |
Rhondda Cynon Taf | £131,202 | £115,363 | 13.7% |
Sir Benfro | £188,277 | £180,105 | 4.5% |
Sir Ddinbych | £177,226 | £157,549 | 12.5% |
Sir Fynwy | £301,298 | £278,702 | 8.1% |
Sir y Fflint | £192,929 | £175,038 | 10.2% |
Sir Gaerfyrddin | £183,129 | £149,193 | 22.7% |
Tor-faen | £166,703 | £150,523 | 10.7% |
Wrecsam | £174,572 | £158,726 | 10% |
Ynys Môn | £211,450 | £182,580 | 15.8% |
Cymru | £185,431 | £167,040 | 11% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Ym Mawrth 2021, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £301,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £98,000 oedd y pris cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Mawrth 2021 | Mawrth 2020 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £283,155 | £251,910 | 12.4% |
Tŷ pâr | £178,631 | £161,715 | 10.5% |
Tŷ teras | £145,457 | £129,574 | 12.3% |
Fflat neu fflat deulawr | £119,432 | £116,600 | 2.4% |
Holl | £185,431 | £167,040 | 11.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Ionawr 2021 | Ionawr 2020 |
---|---|---|
Abertawe | 204 | 247 |
Blaenau Gwent | 63 | 72 |
Bro Morgannwg | 118 | 178 |
Caerdydd | 304 | 352 |
Caerffili | 110 | 180 |
Casnewydd | 116 | 177 |
Castell-nedd Port Talbot | 136 | 122 |
Ceredigion | 77 | 76 |
Conwy | 145 | 157 |
Gwynedd | 106 | 128 |
Merthyr Tudful | 34 | 47 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 120 | 172 |
Powys | 118 | 139 |
Rhondda Cynon Taf | 188 | 214 |
Sir Benfro | 126 | 134 |
Sir Ddinbych | 70 | 82 |
Sir Gaerfyrddin | 155 | 159 |
Sir Fynwy | 65 | 103 |
Sir y Fflint | 117 | 160 |
Tor-faen | 63 | 82 |
Wrecsam | 109 | 119 |
Ynys Môn | 53 | 71 |
Cymru | 2,597 | 3,171 |
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 11.0% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 0.5% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Ionawr 2017 | 3,056 |
Ionawr 2018 | 3,170 |
Ionawr 2019 | 3,070 |
Ionawr 2020 | 3,171 |
Ionawr 2021 | 2,597 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Ionawr 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £235,648 | 0.6% | 4.9% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £178,954 | -0.3% | 12.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Mawrth 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £159,375 | 2.8% | 10.4% |
Cyn berchen-feddiannydd | £216,107 | 3.4% | 11.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Mawrth 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £180,037 | 3.4% | 10.8% |
Morgais | £188,620 | 3.0% | 11.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Ionawr 2021 |
---|---|
Cymru | 14 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
[email protected]
Ffôn
0300 0068317