Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Hydref 2017
Cyhoeddwyd 12 Rhagfyr 2017
Yn berthnasol i Gymru
1. Prif ystadegau ar gyfer Hydref 2017
pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd
£153,316
y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd
4.5%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd
0.8%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd
112.6
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
2. Newid mewn prisiau
2.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Yng Nghymru, cynyddodd y pris cyfartalog gan 4.5% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2017 (i lawr o 4.9% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2017).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at anghysondeb yn y gyfres. Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu ar gyfer anghysondeb, gall y newid mewn prisiau ar y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo mewn unrhyw gyfnod arbennig.
Awdurdodau lleol | Hydref 2017 | Hydref 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £143,117 | £137,171 | 4.3% |
Blaenau Gwent | £86,853 | £80,283 | 8.2% |
Bro Morgannwg | £215,589 | £203,882 | 5.7% |
Caerdydd | £199,747 | £189,351 | 5.5% |
Caerffili | £126,105 | £121,643 | 3.7% |
Casnewydd | £165,133 | £151,835 | 8.8% |
Castell-nedd Port Talbot | £112,816 | £108,670 | 3.8% |
Ceredigion | £179,025 | £171,042 | 4.7% |
Conwy | £159,798 | £148,362 | 7.7% |
Gwynedd | £158,721 | £143,527 | 10.6% |
Merthyr Tudful | £99,370 | £92,846 | 7% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £145,078 | £135,934 | 6.7% |
Powys | £179,091 | £172,704 | 3.7% |
Rhondda Cynon Taf | £102,707 | £104,068 | -1.3% |
Sir Benfro | £161,589 | £158,276 | 2.1% |
Sir Ddinbych | £145,353 | £140,326 | 3.6% |
Sir Fynwy | £236,970 | £225,881 | 4.9% |
Sir y Fflint | £165,219 | £153,140 | 7.9% |
Sir Gaerfyrddin | £137,485 | £134,860 | 1.9% |
Tor-faen | £128,582 | £127,448 | 0.9% |
Wrecsam | £153,495 | £149,564 | 2.6% |
Ynys Môn | £159,365 | £157,617 | 1.1% |
Cymru | £153,316 | £146,658 | 4.5% |
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Yn Hydref 2017, yr ardal ddrutaf i fyw ynddi oedd Sir Fynwy, lle mai £237,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £87,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
2.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Hydref 2017 | Hydref 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £232,632 | £221,467 | 5.0% |
Tŷ pâr | £147,751 | £140,764 | 5.0% |
Tŷ teras | £117,344 | £113,437 | 3.4% |
Fflat neu fflat deulawr | £112,457 | £106,393 | 5.7% |
Holl | £153,316 | £146,658 | 4.5% |
3. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn effeithio ar nifer y gwerthiannau ar gyfer adeiladau newydd yn y misoedd mwy diweddar. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
3.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Awst 2017 | Awst 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | 281 | 286 | -1.7% |
Blaenau Gwent | 60 | 62 | -3.2% |
Bro Morgannwg | 199 | 222 | -10.4% |
Caerdydd | 467 | 500 | -6.6% |
Caerffili | 230 | 233 | -1.3% |
Casnewydd | 216 | 275 | -21.5% |
Castell-nedd Port Talbot | 170 | 168 | 1.2% |
Ceredigion | 87 | 75 | 16.0% |
Conwy | 207 | 203 | 2.0% |
Gwynedd | 137 | 151 | -9.3% |
Merthyr Tudful | 72 | 77 | -6.5% |
Pen-y-bont ar Ogwr | 199 | 186 | 7.0% |
Powys | 164 | 179 | -8.4% |
Rhondda Cynon Taf | 312 | 302 | 3.3% |
Sir Benfro | 156 | 161 | -3.1% |
Sir Ddinbych | 133 | 106 | 25.5% |
Sir Gaerfyrddin | 211 | 251 | -15.9% |
Sir Fynwy | 120 | 144 | -16.7% |
Sir y Fflint | 212 | 201 | 5.5% |
Tor-faen | 90 | 106 | -15.1% |
Wrecsam | 153 | 142 | 7.7% |
Ynys Môn | 98 | 91 | 7.7% |
Cymru | 3,982 | 4,122 | -3.4% |
3.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Awst 2013 | 3,532 |
Awst 2014 | 4,084 |
Awst 2015 | 3,918 |
Awst 2016 | 4,122 |
Awst 2017 | 3,982 |
4. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.
Statws eiddo | Pris cyfartalog Awst 2017 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £205,859 | 1.1% | 11.6% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £148,981 | 1.1% | 4.2% |
Sylwer: ar gyfer y datganiad hwn, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn Improvement to the calculation of provisional estimates within the UK HPI.
5. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Hydref 2017 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £132,074 | 0.7% | 4.1% |
Cyn berchen-feddiannydd | £178,185 | 1.0% | 5.0% |
6. Statws ariannu
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws ariannu | Pris cyfartalog Hydref 2017 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £149,636 | 1.0% | 4.4% |
Morgais | £155,503 | 0.7% | 4.6% |
7. Nifer yr adfeddiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer yr adfeddiannau
Gwlad | Awst 2017 |
---|---|
Cymru | 68 |
8. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU 0300 0068084.