Ystadegau Swyddogol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Medi 2016

Cyhoeddwyd 15 Tachwedd 2016

Yn berthnasol i Gymru

1. Prif ystadegau

Ar gyfer Medi 2016:

  • pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £146,388
  • y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 4.4%
  • y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.2%
  • y ffigur mynegai ar gyfer Cymru oedd 107.5 (Ionawr 2015 = 100)

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Newid mewn prisiau

2.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Annual price change for Wales over the past 5 years Welsh

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Awdurdodau lleol Medi 2016 Medi 2015 Gwahaniaeth
Abertawe £139,127 £130,221 6.8%
Blaenau Gwent £76,377 £76,473 -0.1%
Bro Morgannwg £206,845 £194,147 6.5%
Caerdydd £191,582 £181,432 5.6%
Caerffili £121,083 £118,061 2.6%
Casnewydd £151,906 £141,529 7.3%
Castell-nedd Port Talbot £107,289 £101,015 6.2%
Ceredigion £163,125 £170,671 -4.4%
Conwy £146,206 £149,028 -1.9%
Gwynedd £140,254 £146,734 -4.4%
Merthyr Tudful £97,094 £89,242 8.8%
Pen-y-bont ar Ogwr £136,675 £127,490 7.2%
Powys £172,625 £165,969 4.0%
Rhondda Cynon Taf £104,043 £97,661 6.5%
Sir Benfro £160,611 £157,578 1.9%
Sir Ddinbych £142,988 £140,934 1.5%
Sir Fynwy £223,795 £212,082 5.5%
Sir y Fflint £157,359 £148,772 5.8%
Sir Gaerfyrddin £136,489 £126,284 8.1%
Tor-faen £128,951 £121,104 6.5%
Wrecsam £150,883 £146,627 2.9%
Ynys Môn £156,859 £159,963 -1.9%
Cymru £146,388 £140,248 4.4%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Average price by local authority for Wales Welsh

2.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Medi 2016 Medi 2015 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £223,008 £212,382 5.0%
Tŷ pâr £141,390 £134,138 5.4%
Tŷ teras £112,385 £108,757 3.3%
Fflat neu fflat deulawr £103,567 £100,818 2.7%
Holl £146,388 £140,248 4.4%

3. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

3.1Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl Awdurdod Lleol: Gorffennaf 2016

Awdurdodau lleol Nifer y gwerthiannau
Abertawe 267
Blaenau Gwent 61
Bro Morgannwg 179
Caerdydd 493
Caerffili 181
Casnewydd 155
Castell-nedd Port Talbot 139
Ceredigion 68
Conwy 174
Gwynedd 114
Merthyr Tudful 65
Pen-y-bont ar Ogwr 177
Powys 141
Rhondda Cynon Taf 283
Sir Benfro 132
Sir Ddinbych 118
Sir Fynwy 120
Sir y Fflint 193
Sir Gaerfyrddin 182
Tor-faen 86
Wrecsam 122
Ynys Môn 67
Cymru 3,525

3.2 Nifer y gwerthiannau: Gorffennaf 2016

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Sales volumes for Wales over the past 5 years Welsh

4. Statws adeiladu

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £206,855 4.1% 19.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £142,944 0.0% 3.4%

Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

5. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £126,339 0.1% 4.2%
Cyn berchen-feddiannydd £169,778 0.4% 4.5%

6. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £142,140 0.1% 3.4%
Morgais £148,917 0.4% 4.9%

7. Nifer yr adfeddiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer yr adfeddiannau yn ôl rhanbarth swyddfa’r llywodraeth: Gorffennaf 2016.

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Cymru 54

8. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir

Ebost [email protected]
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084.