Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Medi 2018
Cyhoeddwyd 14 Tachwedd 2018
Yn berthnasol i Gymru
1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2018
pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd
£162,089
y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd
5.8%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd
0.5%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd
119.0%
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Medi 2018 am 9.30am ddydd Mercher 19 Rhagfyr 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Tyfodd prisiau tai Cymru gan 5.8% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2018, i fyny o 5.5% yn y flwyddyn hyd at Awst 2018. Mae prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU, sef 3.5% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2018. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.5% rhwng Awst 2018 a Medi 2018, o’i gymharu â chynnydd o 0.2% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynt. Ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.8% rhwng Awst 2018 a Medi 2018.
Dangosodd ystadegau Treth Trafodiadau Tir, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 3 mis hyd at Fedi 2018, mai 14,680 oedd nifer y trafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy yng Nghymru. Mae hyn i lawr 1.1% o’i gymharu â’r 3 mis hyd at Fedi 2017 fel a gyhoeddwyd yn Ystadegau Trafodion Eiddo y DU. Mae angen bod yn ofalus wrth gymharu’r gyfres hon dros y cyfnod hwn oherwydd gall sefydliadau gwahanol ddefnyddio methodolegau ychydig bach yn wahanol.
Yng Nghymru, gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn tai ar wahân, gan godi 6.8% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2018 i £247,000. Cynyddodd pris cyfartalog fflatiau a fflatiau deulawr gan 0.4% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2018 i £112,000, y cynnydd isaf o’r holl fathau o eiddo.
Mae prisiau tai wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf mewn 20 o’r 22 ardal awdurdod lleol. Gwelwyd y twf cryfaf yng Nghasnewydd a Sir Fynyw, gan gynyddu 11.0% i £179,000 a 10.0% i £266,000 yn y flwyddyn hyd at Fedi 2018.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y Farchnad Dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd y pris cyfartalog gan 5.8% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2018 (i fyny o 5.5% yn Awst 2018).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Medi 2018 | Medi 2017 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £147,296 | £143,359 | 2.7% |
Blaenau Gwent | £87,825 | £85,674 | 2.5% |
Bro Morgannwg | £230,772 | £213,242 | 8.2% |
Caerdydd | £207,632 | £197,792 | 5% |
Caerffili | £132,219 | £127,172 | 4% |
Casnewydd | £179,256 | £161,498 | 11% |
Castell-nedd Port Talbot | £116,663 | £112,726 | 3.5% |
Ceredigion | £182,084 | £184,227 | -1.2% |
Conwy | £161,042 | £161,473 | -0.3% |
Gwynedd | £155,179 | £149,184 | 4% |
Merthyr Tudful | £105,648 | £96,140 | 9.9% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £155,622 | £147,839 | 5.3% |
Powys | £190,379 | £175,971 | 8.2% |
Rhondda Cynon Taf | £112,843 | £105,671 | 6.8% |
Sir Benfro | £172,373 | £161,442 | 6.8% |
Sir Ddinbych | £150,825 | £146,056 | 3.3% |
Sir Fynwy | £265,722 | £241,534 | 10% |
Sir y Fflint | £170,780 | £163,360 | 4.5% |
Sir Gaerfyrddin | £148,304 | £137,920 | 7.5% |
Tor-faen | £143,892 | £130,935 | 9.9% |
Wrecsam | £160,212 | £153,249 | 4.5% |
Ynys Môn | £167,140 | £163,854 | 2% |
Cymru | £162,089 | £153,227 | 5.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Ym Medi 2018, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle mai £266,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £88,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Medi 2018 | Medi 2017 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £247,289 | £231,555 | 6.8% |
Tŷ pâr | £156,185 | £147,039 | 6.2% |
Tŷ teras | £125,360 | £118,443 | 5.8% |
Fflat neu fflat deulawr | £111,678 | £111,226 | 0.4% |
Holl | £162,089 | £153,227 | 5.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Gorffennaf 2018 | Gorffennaf 2017 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | 250 | 336 | -25.6% |
Blaenau Gwent | 71 | 79 | -10.1% |
Bro Morgannwg | 164 | 216 | -24.1% |
Caerdydd | 437 | 469 | -6.8% |
Caerffili | 182 | 233 | -21.9% |
Casnewydd | 202 | 246 | -17.9% |
Castell-nedd Port Talbot | 147 | 155 | -5.2% |
Ceredigion | 76 | 85 | -10.6% |
Conwy | 176 | 247 | -28.7% |
Gwynedd | 156 | 139 | 12.2% |
Merthyr Tudful | 60 | 67 | -10.4% |
Pen-y-bont ar Ogwr | 189 | 181 | 4.4% |
Powys | 150 | 149 | 0.7% |
Rhondda Cynon Taf | 298 | 298 | 0.0% |
Sir Benfro | 171 | 150 | 14.0% |
Sir Ddinbych | 113 | 143 | -21.0% |
Sir Gaerfyrddin | 233 | 274 | -15.0% |
Sir Fynwy | 97 | 157 | -38.2% |
Sir y Fflint | 205 | 179 | 14.5% |
Tor-faen | 94 | 115 | -18.3% |
Wrecsam | 146 | 128 | 14.1% |
Ynys Môn | 72 | 96 | -25.0% |
Cymru | 3,702 | 4,143 | -10.6% |
Sylwer: Bydd y ganran newid blynyddol yn y golofn ‘Gwahaniaeth’ yn cael ei dylanwadu’n bennaf gan lefel cyflawnrwydd data’r mis diweddaraf a adroddwyd, ac nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu’r tueddiadau gwirioneddol.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Gorffennaf 2014 | 4,151 |
Gorffennaf 2015 | 4,469 |
Gorffennaf 2016 | 4,057 |
Gorffennaf 2017 | 4,143 |
Gorffennaf 2018 | 3,702 |
Llwytho data’r siart hon i lawr(CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Gorffennaf 2018 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £212,902 | 2.5% | 9.4% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £155,711 | 1.1% | 5.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn methods used to produce the UK HPI.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Medi 2018 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £139,661 | 0.2% | 5.5% |
Cyn berchen-feddiannydd | £188,343 | 0.8% | 6.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws ariannu
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws ariannu | Pris cyfartalog Medi 2018 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £157,510 | 0.6% | 5.4% |
Morgais | £164,805 | 0.4% | 6.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Gorffennaf 2018 |
---|---|
Cymru | 62 |
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
[email protected]
Ffôn
0300 0068317