Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Medi 2019
Cyhoeddwyd 13 Tachwedd 2019
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2019
pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd
£164,433
y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd
2.6%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd
-2.8%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd
120.8
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Hydref 2019 am 9.30am ddydd Mercher 18 Rhagfyr 2019. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 2.6% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2019, i lawr o 5.0% yn y flwyddyn hyd at Awst 2019. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 1.3% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2019. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.8% rhwng Awst 2019 a Medi 2019, o’i gymharu â gostyngiad o 0.5% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Awst 2018 a Medi 2018). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.2% rhwng Awst 2019 a Medi 2019.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2019, cynyddodd nifer y trafodion gan 6.4% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion gan 3.3% dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd yr holl fathau o eiddo gynnydd mewn prisiau cyfartalog ym Medi 2019 o’i gymharu â’r un mis y flwyddyn flaenorol. Gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn fflatiau a maisonettes, a gynyddodd gan 4.0% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2019 i £118,000. Y cynnydd lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer tai teras, gyda chynnydd o 1.7% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2019 i £127,000.
Cynyddodd prisiau tai dros y flwyddyn ddiwethaf ym mhob un o’r 22 ardal awdurdod lleol. Gwelwyd y twf cryfaf yng Nghonwy a Sir Benfro, lle y cynyddodd gan 7.9% i £172,000,000 a chan 7.8% i £182,000 yn y flwyddyn hyd at Fedi 2019.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 2.6% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2019 (i lawr o 5.0% yn Awst 2019).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Medi 2019 | Medi 2018 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £152,149 | £149,409 | 1.8% |
Blaenau Gwent | £94,540 | £89,605 | 5.5% |
Bro Morgannwg | £234,718 | £224,562 | 4.5% |
Caerdydd | £215,248 | £208,198 | 3.4% |
Caerffili | £140,671 | £133,245 | 5.6% |
Casnewydd | £188,792 | £179,779 | 5% |
Castell-nedd Port Talbot | £124,480 | £118,221 | 5.3% |
Ceredigion | £192,346 | £183,203 | 5% |
Conwy | £172,044 | £159,422 | 7.9% |
Gwynedd | £157,177 | £155,613 | 1% |
Merthyr Tudful | £106,037 | £104,524 | 1.4% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £157,376 | £148,282 | 6.1% |
Powys | £192,127 | £189,610 | 1.3% |
Rhondda Cynon Taf | £114,501 | £111,354 | 2.8% |
Sir Benfro | £182,097 | £168,984 | 7.8% |
Sir Ddinbych | £158,716 | £151,387 | 4.8% |
Sir Fynwy | £275,931 | £264,855 | 4.2% |
Sir y Fflint | £169,360 | £167,746 | 1% |
Sir Gaerfyrddin | £151,917 | £145,994 | 4.1% |
Tor-faen | £148,093 | £147,730 | 0.2% |
Wrecsam | £162,958 | £156,007 | 4.5% |
Ynys Môn | £177,083 | £168,503 | 5.1% |
Cymru | £164,433 | £160,265 | 2.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Ym Medi 2019, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £276,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £95,000 oedd y pris cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Medi 2019 | Medi 2018 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £248,355 | £241,750 | 2.7% |
Tŷ pâr | £159,217 | £154,531 | 3.0% |
Tŷ teras | £126,582 | £124,437 | 1.7% |
Fflat neu fflat deulawr | £117,776 | £113,273 | 4.0% |
Holl | £164,433 | £160,265 | 2.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Gorffennaf 2019 | Gorffennaf 2018 |
---|---|---|
Abertawe | 293 | 290 |
Blaenau Gwent | 84 | 80 |
Bro Morgannwg | 184 | 191 |
Caerdydd | 451 | 517 |
Caerffili | 207 | 201 |
Casnewydd | 213 | 262 |
Castell-nedd Port Talbot | 165 | 158 |
Ceredigion | 97 | 80 |
Conwy | 173 | 198 |
Gwynedd | 147 | 176 |
Merthyr Tudful | 72 | 68 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 166 | 209 |
Powys | 143 | 172 |
Rhondda Cynon Taf | 303 | 321 |
Sir Benfro | 177 | 190 |
Sir Ddinbych | 121 | 119 |
Sir Gaerfyrddin | 229 | 264 |
Sir Fynwy | 118 | 111 |
Sir y Fflint | 186 | 258 |
Tor-faen | 107 | 112 |
Wrecsam | 153 | 170 |
Ynys Môn | 97 | 80 |
Cymru | 3,940 | 4,227 |
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Cyfrifwyd yr amcangyfrif ar gyfer Gorffennaf 2019 ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2019, cynyddodd nifer y trafodion gan 6.4% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 3.1% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2019.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Gorffennaf 2015 | 4,469 |
Gorffennaf 2016 | 4,057 |
Gorffennaf 2017 | 4,143 |
Gorffennaf 2018 | 4,227 |
Gorffennaf 2019 | 3,940 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Gorffennaf 2019 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £226,290 | 6.3% | 8.3% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £161,603 | 0.9% | 3.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Medi 2019 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £141,838 | -2.7% | 2.4% |
Cyn berchen-feddiannydd | £190,830 | -2.8% | 2.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws ariannu
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws ariannu | Pris cyfartalog Medi 2019 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £160,269 | -2.5% | 2.9% |
Morgais | £166,913 | -2.9% | 2.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Gorffennaf 2019 |
---|---|
Cymru | 50 |
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
[email protected]
Ffôn
0300 0068317