Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Medi 2020
Cyhoeddwyd 18 Tachwedd 2020
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2020
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £170,604
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 3.8%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -1.9%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 125.3
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Hydref 2020 am 9.30am ddydd Mercher 16 Rhagfyr 2020. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 3.8% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2020, i fyny o 3.4% yn y flwyddyn hyd at Awst 2020. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n arafach na chyfradd flynyddol y DU sef 4.7% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.9% rhwng Awst 2020 a Medi 2020, o’i gymharu â gostyngiad o 2.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Awst 2019 a Medi 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.1% rhwng Awst 2020 a Medi 2020.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2020, cynyddodd nifer y trafodion gan 47.2% yng Nghymru, o 3,940 i 2,081. Lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 31.8%, o 84,718 i 57,737 dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau cyfartalog ym Medi 2020 o’i gymharu â Medi 2019. Gwelwyd y twf cryfaf yn Nhor-faen, gan godi 6.8% i £161,000 yn y flwyddyn hyd at Fedi 2020. Mewn cyferbyniad, Bro Morgannwg ddangosodd y twf arafaf, gan barhau ar £231,000 yn y flwyddyn hyd at Fedi 2020.
O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai teras y twf blynyddol mwyaf, gan godi 4.2% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2020, i £133,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda gostyngiad o 0.1% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2020 i £115,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 3.8% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2020, i lawr o 3.4% yn Awst 2020.
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Medi 2020 | Medi 2019 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £157,880 | £150,390 | 5% |
Blaenau Gwent | £97,007 | £94,553 | 2.6% |
Bro Morgannwg | £231,447 | £231,337 | 0% |
Caerdydd | £216,491 | £211,027 | 2.6% |
Caerffili | £146,516 | £141,431 | 3.6% |
Casnewydd | £195,194 | £186,180 | 4.8% |
Castell-nedd Port Talbot | £127,059 | £122,014 | 4.1% |
Ceredigion | £191,756 | £184,077 | 4.2% |
Conwy | £173,917 | £171,187 | 1.6% |
Gwynedd | £166,863 | £161,200 | 3.5% |
Merthyr Tudful | £110,225 | £109,258 | 0.9% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £164,854 | £159,717 | 3.2% |
Powys | £196,122 | £190,767 | 2.8% |
Rhondda Cynon Taf | £121,063 | £115,021 | 5.3% |
Sir Benfro | £192,547 | £182,502 | 5.5% |
Sir Ddinbych | £158,926 | £157,921 | 0.6% |
Sir Fynwy | £281,385 | £273,540 | 2.9% |
Sir y Fflint | £176,897 | £171,967 | 2.9% |
Sir Gaerfyrddin | £158,850 | £152,146 | 4.4% |
Tor-faen | £160,658 | £150,367 | 6.8% |
Wrecsam | £161,846 | £161,426 | 0.3% |
Ynys Môn | £182,382 | £177,477 | 2.8% |
Cymru | £170,604 | £164,414 | 3.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Ym Medi 2020, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £281,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £97,000 oedd y pris cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Medi 2020 | Medi 2019 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £258,786 | £248,638 | 4.1% |
Tŷ pâr | £164,721 | £158,429 | 4.0% |
Tŷ teras | £133,027 | £127,641 | 4.2% |
Fflat neu fflat deulawr | £115,073 | £115,173 | -0.1% |
Holl | £170,604 | £164,414 | 3.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Gorffennaf 2020 | Gorffennaf 2019 |
---|---|---|
Abertawe | 149 | 324 |
Blaenau Gwent | 30 | 88 |
Bro Morgannwg | 104 | 209 |
Caerdydd | 221 | 527 |
Caerffili | 108 | 241 |
Casnewydd | 115 | 232 |
Castell-nedd Port Talbot | 84 | 172 |
Ceredigion | 62 | 103 |
Conwy | 124 | 195 |
Gwynedd | 92 | 164 |
Merthyr Tudful | 45 | 74 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 79 | 180 |
Powys | 86 | 163 |
Rhondda Cynon Taf | 131 | 322 |
Sir Benfro | 98 | 199 |
Sir Ddinbych | 83 | 123 |
Sir Gaerfyrddin | 119 | 260 |
Sir Fynwy | 53 | 130 |
Sir y Fflint | 118 | 218 |
Tor-faen | 62 | 110 |
Wrecsam | 73 | 165 |
Ynys Môn | 45 | 107 |
Cymru | 2,081 | 4,306 |
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 47.2% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 39.8% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2020.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Gorffennaf 2016 | 4,057 |
Gorffennaf 2017 | 4,143 |
Gorffennaf 2018 | 4,227 |
Gorffennaf 2019 | 4,306 |
Gorffennaf 2020 | 2,081 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Gorffennaf 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £219,365 | 0.6% | -1.5% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £166,101 | 0.7% | 3.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Medi 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £147,273 | -1.8% | 3.7% |
Cyn berchen-feddiannydd | £197,815 | -2.0% | 3.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Medi 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £165,032 | -2.3% | 3.1% |
Morgais | £173,877 | -1.7% | 4.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Gorffennaf 2020 |
---|---|
Cymru | 39 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
[email protected]
Ffôn
0300 0068317